Toglo gwelededd dewislen symudol

Croeso cynnes llyfrgelloedd yn cael ei gydnabod mewn cynllun gwobrau cenedlaethol

Mae gwaith gwerthfawr gan wasanaeth llyfrgelloedd Cyngor Abertawe yn debyg o gael gwobr genedlaethol.

Libraries Staff

Libraries Staff

Mae sut mae Llyfrgell Ganolog Abertawe wedi dod yn noddfa sy'n croesawu pobl sy'n ymgartrefu yn y ddinas a'r cyffiniau wedi creu argraff ar feirniaid yng ngwobrau Libraries Connected

Meddai Aelod Cabinet y Cyngor,Elliot King, "Mae'r Llyfrgell Ganolog yn cynnig croeso cynnes i bawb, gan gynnwys y rheini sy'n dod yma am amrywiaeth o resymau. Mae'n ategu statws Abertawe fel Dinas Noddfa."

MaeLibraries Connectedyn elusen sy'n cynrychioli'r sector llyfrgelloedd cyhoeddus. Mae ei gwobrau'n dathlu cyflawniadau gweithwyr llyfrgelloedd.

Mae prif lyfrgellydd Gwasanaeth Llyfrgelloedd Abertawe, Bethan Lee, y swyddog rhaglenni a digwyddiadau, Jennifer Dorrian a'r cynorthwyydd llyfrgell, Zoe Thomas wedi cyrraedd y rhestr fer yng nghategori diwylliant a chreadigrwydd y cynllun.

Dywedir eu bod wedi dangos mentrusrwydd wrth greu gweithgareddau a datblygu adnoddau i alluogi'r Llyfrgell Ganolog i ddangos ei bod yn llyfrgell noddfa.

Caiff enillwyr y wobr eu cyhoeddi'n fuan.

Meddai Isobel Hunter MBE, Prif Weithredwr Libraries Connected, "Rydym wedi derbyn y nifer mwyaf erioed o enwebiadau am wobrau felly mae'n gamp aruthrol i gyrraedd mor bell â hyn."

Llun: Staff Llyfrgelloedd Abertawe Jennifer Dorrian, Bethan Lee a Zoe Thomas.