Toglo gwelededd dewislen symudol

Anrhydeddu llyfrgelloedd am gynnig croeso cynnes

​​​​​​​Mae gwasanaeth llyfrgell lleol poblogaidd yn Abertawe wedi'i anrhydeddu am gynnig croeso cynnes i bobl sy'n ceisio noddfa.

Library Staff

Library Staff

Y rhwydwaith o lyfrgelloedd a gynhelir gan Gyngor Abertawe, yw'r cyntaf yng Nghymru i ennill statws Llyfrgell Noddfa.

Mae hyn yn dathlu llyfrgelloedd cyhoeddus sy'n mynd y tu hwnt i'r hyn sy'n ddisgwyliedig i groesawu pobl sy'n ceisio noddfa."

Meddai Aelod Cabinet y Cyngor, Elliot King, "Mae ein llyfrgelloedd yn cynnig croeso cynnes i bawb, gan gynnwys y rhai sy'n dod yma am amrywiaeth o resymau.

"Mae gan y gwasanaeth ddetholiad mawr o lyfrau mewn ieithoedd tramor ac mae'n cynnig rhaglen weithgareddau barhaus ar gyfer pobl o bob oedran.

"Mae'r gweithgarwch hwn, yng nghanol eu cymunedau ar draws y ddinas a'r sir, yn ategu statws balch Abertawe fel Dinas Noddfa."

Mae gwaith gwerthfawr y gwasanaeth wedi'i enwebu ar gyfer gwobr genedlaethol. Mae sut mae Llyfrgell Ganolog Abertawe wedi dod yn noddfa sy'n croesawu pobl sy'n ymgartrefu yn y ddinas a'r cyffiniau wedi creu argraff ar feirniaid yng ngwobrau Libraries Connected.

Er mwyn sicrhau statws Llyfrgell Noddfa, roedd Abertawe'n destun proses achredu.

Mae gan Gyngor Abertawe 17 o lyfrgelloedd ar draws cymunedau lleol ac mae'n cynnig gwasanaeth dosbarthu ar gyfer cwsmeriaid nad ydynt yn gallu mynd i'w llyfrgell leol. Mae llyfrgellwyr yn cynnig nifer o wasanaethau digidol i aelodau.

Mae staff y Cyngor yn rhedeg llyfrgell Carchar Abertawe fel rhan o'r rhwydwaith, a dyma'r tro cyntaf i lyfrgell mewn carchar gael ei chynnwys ar gyfer gwobr Llyfrgell Noddfa.

Llun: Staff Llyfrgelloedd Abertawe Jennifer Dorrian, Bethan Lee a Zoe Thomas.

 

 

Close Dewis iaith