Toglo gwelededd dewislen symudol

Arddangos trysorau'r llyfrgell yn y ddinas

​​​​​​​Bydd nifer o drysorau o gromgelloedd gwasanaeth llyfrgelloedd Cyngor Abertawe yn cael eu harddangos yn gyhoeddus yr wythnos hon.

Library Vaults

Library Vaults

Byddant yn cynnwys eitemau o gasgliadau hanesyddol y gwasanaeth gan gynnwys deunyddiau o'r casgliadau sefydlol ac agoriad Llyfrgell Alexandra Road ym 1887 gan y Prif Weinidog William Gladstone, a fu'n brif weinidog am bedwar cyfnod.

Bydd enghreifftiau o waith gan awduron lleol o bwys hanesyddol fel y nofelydd Ann o Abertawe o'r 19eg ganrif a'r nofelydd a'r fenyw fusnes Amy Dillwyn.

Bydd eitemau eraill yn cynnwys Omnibws Dylan Thomas wedi'i ddarlunio gan yr artist Ceri Richards, papurau newydd a mapiau hanesyddol a phethau cofiadwy o adeg y rhyfel.

Bydd digwyddiad Straeon o'r Cromgelloedd Llyfrgell Ganolog Abertawe yn dathlu menter Llwybr y Flwyddyn 2023 Llywodraeth Cymru.

Mae'r digwyddiad deuddydd, a gynhelir ddydd Gwener yma (1pm-6pm) a dydd Sadwrn (10.30am-3.30pm) yn cael ei gyflwyno gan wasanaethau Astudiaethau Lleol a Llinell y Llyfrgelloedd y cyngor.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Elliot King, "Bydd ein digwyddiad galw heibio, Straeon o'r Cromgelloedd, yn cyflwyno cwsmeriaid i fyd llyfrgelloedd, gan gyflwyno eitemau sydd prin yn cael eu gweld a rhai o'n hoff bethau o'n cromgelloedd storio."

Rhagor: www.bit.ly/Vaults23

 

 

Close Dewis iaith