Achubwyr bywyd yr RNLI ar ddyletswydd ar benrhyn Gŵyr unwaith eto'r penwythnos hwn
Bydd achubwyr bywyd yr RNLI a ariennir mewn partneriaeth â'r Cyngor yn ôl ar batrôl ar dri thraeth poblogaidd ym mhenrhyn Gŵyr ddydd Sadwrn yma.
Byddant ar batrôl ar draeth Langland, Bae Caswell a Bae y Tri Chlogwyn rhwng 10am a 6pm bob dydd yn ystod gwyliau ysgol y Pasg.
Meddai Vinny Vincent, goruchwyliwr achubwr bywydau arweiniol yr RNLI,"Rydym yn gyffrous i ddychwelyd i'r tri thraeth gwych hyn yng Ngŵyr."
Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, "Mae gennym arfordir o'r radd flaenaf - ac rydym am i breswylwyr ac ymwelwyr aros yn ddiogel. Mae ein cyllid ar gyfer achubwyr bywyd, a ddarperir gan elusen achub bywyd yr RNLI, yn un ffordd y gallwn amddiffyn pobl."
Meddai Aelod y Cabinet, Andrew Stevens, "Rydym yn gweithio mewn partneriaeth agos ag Achubwyr Bywydau medrus yr RNLI i sicrhau bod y pedwar traeth poblogaidd iawn hyn yn cael eu goruchwylio yn ystod y cyfnod prysuraf."
Anogir y rhai sy'n defnyddio traethau Abertawe eleni i wirio'r tywydd ac amodau'r môr ynghyd â gwefan yr RNLI i gael negeseuon diogelwch ar nofio mewn dŵr agored - www.bit.ly/OpenWaterRNLI