Toglo gwelededd dewislen symudol

Hwb byw a gweithio pwysig ar y ffordd i ganol y ddinas

Bydd ymhell dros fil o bobl yn ychwanegol yn byw ac yn gweithio yng nghanol dinas Abertawe cyn bo hir er mwyn rhoi hwb pellach i fasnachwyr a chyflogaeth leol.

Princess Quarter (May 2024)

 

Princess Quarter (May 2024)

Yn ogystal â chynlluniau fel prosiect adfer Theatr y Palace a phrosiect swyddfeydd 71/72 Ffordd y Brenin sy'n cael eu datblygu gan Gyngor Abertawe, mae nifer o ddatblygiadau eraill sy'n cael eu harwain gan y sector preifat hefyd yn agos at gael eu cwblhau neu'n gwneud cynnydd sylweddol.

Mae enghreifftiau'n cynnwys cynllun Ardal y Dywysoges a arweinir gan Kartay, sy'n datblygu'n dda ar gornel Princess Way a St Mary Street.

Mae'r cynllun, y disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Mehefin eleni, yn cynnwys 18,000 troedfedd sgwâr o swyddfeydd o'r radd flaenaf, yn ogystal ag unedau manwerthu o safon ar y llawr gwaelod.

Mae gwaith allanol gan gynnwys gosod gwydr yn yr adeilad a ailwampiwyd eisoes wedi'i gwblhau. Mae gwaith dodrefnu mewnol a gwaith addurnol yn parhau, yn ogystal â gwaith i gwblhau gardd to y datblygiad.

Mae trafodaethau, sydd bellach ar gam datblygedig, yn mynd rhagddynt gyda darpar denantiaid.

Mae cynlluniau eraill sy'n cael eu harwain gan Kartay yn cynnwys ailddatblygu chwe eiddo ar Stryd Rhydychen, ger ei chyffordd ag Union Street. Mae gwaith i gryfhau'r eiddo ac ychwanegu dau lawr arall yn parhau.

Bydd y datblygiad - unwaith y caiff ei gwblhau - yn cynnwys 27 fflat a fydd yn cael eu cynnal gan Caredig, yn ogystal ag unedau manwerthu ar y llawr gwaelod. Mae nifer o drafodaethau ag adwerthwyr ar gam datblygedig, a disgwylir i'r elfen fanwerthu agor erbyn diwedd y flwyddyn, gyda'r elfen breswyl i ddilyn yn 2025.

Mae gan Kartay gynlluniau hefyd i ddatblygu lloriau uchaf yr adeilad McDonald's a Taco Bell yn fflatiau preswyl o safon, a fydd yn cynnig golygfeydd o Sgwâr y Castell a fydd yn cael ei ailwampio cyn bo hir. Yn amodol ar ganiatâd cynllunio, gallai'r gwaith yno ddechrau erbyn diwedd y flwyddyn.

Meddai Ian Morgan, Rheolwr Gyfarwyddwr Kartay, "Mae buddsoddiad gan Gyngor Abertawe a Bargen Ddinesig Bae Abertawe wedi arwain at y sector preifat yn ymgymryd â gwaith i adfywio'r ddinas - ac rydym i gyd ar yr un dudalen oherwydd rydym am i Abertawe lwyddo.

"Mae canol y ddinas wir yn gwella. Mae nifer yr ymwelwyr yno bellach wedi cynyddu ac mae nifer y craeniau sydd i'w gweld yno yn dangos graddfa'r gwaith adfywio sy'n mynd rhagddo."

Mae'r cynllun 'adeilad byw' yn Iard Picton, sy'n cynnwys hen adeilad Woolworths a thŵr 13 llawr newydd cyfagos, hefyd yn gwneud cynnydd sylweddol.

Bydd y cynllun, y disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn, yn cynnwys nodweddion fel canolfan acwaponeg, man arddangos, swyddfeydd a man preswyl.Bydd y cynllun hefyd yn cynnwys waliau gwyrdd a thoeon gwyrdd, tŷ gwydr trefol arddull fferm wedi'i osod dros bedwar llawr, cyfleuster addysgol, unedau manwerthu, iard dirluniedig, paneli solar ar y to a storfa fatris.

Ar ôl i'r datblygiad gael ei gwblhau bydd lle yno i 500 o bobl, diolch i'r swyddi a'r cartrefi y bydd yn eu creu.

Meddai Carwyn Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr Hacer Developments, "Mae canol dinasoedd yn newid ac mae gwaith adfywio bellach yn ymwneud yn fawr â phobl. Mae'n ymwneud â chael mwy o bobl i fyw a gweithio yng nghanol dinasoedd i gynhyrchu'r niferoedd sydd eu hangen i gefnogi busnesau presennol a denu mwy o fusnesau yn y dyfodol."

Close Dewis iaith