Gwaith i ddechrau ar seiliau 'adeilad byw' Abertawe
Gyda disgwyl i waith ddechrau ar y seiliau yn yr ychydig wythnosau nesaf, mae arweinwyr y ddinas wedi ymweld â'r safle yn Abertawe lle bydd prosiect 'adeilad byw pwysig' newydd yn datblygu cyn bo hir.
Rhoddwyd manylion ac amserlenni ar gyfer y datblygiad ar hen safle Woolworths ar Stryd Rhydychen i'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, a Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru.
Cwmni Hacer Developments o Abertawe sy'n gyfrifol am y cynllun, sy'n un o'r cyntaf o'i fath yn y DU, a bwriedir iddo gael ei gwblhau erbyn diwedd 2023.
Bydd yr 'adeilad byw' sy'n cynnwys hen safle Woolworths ac adeiledd newydd 13 llawr gyfagos, yn cynnwys waliau gwyrdd a thoeon gwyrdd, cyfleuster addysgol, unedau manwerthu, swyddfeydd, iard dirluniedig, paneli solar ar y to, storfa fatris a gerddi. Bydd Pobl Group yn rheoli 50 o fflatiau fforddiadwy sy'n rhan o'r cynllun.
Mae nodweddion eraill y cynllun yn cynnwys tŷ gwydr trefol arddull fferm wedi'i osod dros bedwar llawr. Caiff planhigion a llysiau eu tyfu mewn dŵr a'u bwydo gan wastraff wedi'i bwmpio o danciau pysgod ar waelod yr adeilad. Bydd rhodfa werdd drwy'r adeilad, a fydd yn cynnwys seddi, yn cysylltu Stryd Rhydychen â lle cyhoeddus newydd sy'n arwain i gynllun 71/72 Ffordd y Brenin sy'n cael ei ddatblygu gan Gyngor Abertawe.
Mae'r gwaith i dynnu rhannau mewnol a gwaith dymchwel bellach wedi'u cwblhau ar safle'r 'adeilad byw', gan olygu y gall y prif waith adeiladu gychwyn.
Roedd yr ymweliad hefyd yn cynnwys taith o'r adeilad â 33 o fflatiau yn ardal Bae Copr y ddinas a ddatblygwyd gan Gyngor Abertawe, y disgwylir iddo gael ei gwblhau yn yr haf.
Bydd y fflatiau fforddiadwy hyn sy'n agos at y bont newydd dros Oystermouth Road ac y bydd Pobl Group yn eu cynnal, yn darparu ar gyfer pobl leol sy'n gweithio yng nghanol y ddinas, gyda ffocws penodol ar weithwyr allweddol.
Meddai'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, "Yr hyn rydym wedi'i weld drwy'r gwaith hwn yw enghraifft ragorol o'r cartrefi fforddiadwy y mae angen i ni eu hadeiladu yng Nghymru.
Bydd y cartrefi hyn yng nghanol dinas Abertawe yn gwneud gwahaniaeth enfawr i ansawdd byw cynifer o bobl.
Mae angen i ni weld rhagor o brosiectau fel hyn yn cael eu cyflwyno ledled y wlad wrth i ni ymdrechu i ddod yn Gymru gryfach, gwyrddach a thecach."
Meddai'r Cyng. Stewart, "Mae'r datblygiad 'adeilad byw' cyffrous dan arweiniad Hacer Developments, wedi'i ysgogi gan ein gwaith i drawsnewid golwg a naws Ffordd y Brenin.
"Bydd yn creu swyddi i bobl leol wrth helpu Abertawe yn ei hymgyrch i ddod yn ddinas sero-net, gan ategu'r datblygiad swyddfa gerllaw ar hen safle clwb nos Oceana a fydd yn un di-garbon o ran ei weithrediad.
"Bydd elfen breswyl y cynllun hefyd yn diwallu anghenion llety'r ddinas drwy greu cyfleoedd byw mwy fforddiadwy yng nghanol y ddinas. Mae hyn hefyd yn wir ar gyfer yr adeilad fflatiau yn ardal Bae Copr, a fydd yn elwa o'r cysylltiadau rhagorol a'r parc arfordirol newydd ger Arena Abertawe."
Meddai Carwyn Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr Hacer Developments, "Rydym wrth ein boddau y bydd y prif waith adeiladu ar gyfer y prosiect 'adeilad byw' hynod arloesol yn dechrau'n fuan, ond ni fyddai hyn wedi bod yn bosib heb gefnogaeth y partneriaid niferus sy'n rhan ohono, gan gynnwys Cyngor Abertawe, Pobl a Banc Datblygu Cymru - yn ogystal a'n tîm dylunio a safle gwych."
Meddai Claire Tristham, Cyfarwyddwr Datblygiadau Pobl Group, "Mae gan Pobl enw da cynyddol am gyflwyno datrysiadau tai blaengar sy'n gwthio'r ffiniau. Rydym yn llawn cyffro o fod yn gweithio gyda Hacer ar y prosiect arloesol hwn a fydd yn darparu tai fforddiadwy o safon i Abertawe ac yn cefnogi cynlluniau adfywio ehangach y cyngor ar gyfer canol y ddinas. Mae cefnogaeth gan y cyngor a Llywodraeth Cymru wedi bod yn hanfodol bwysig i'r datblygiad hwn, felly roeddem yn falch o allu croesawu'r Gweinidog i'r safle heddiw i lansio'n swyddogol ddechrau'r gwaith ar y prosiect gwirioneddol unigryw hwn."
Ariennir yr 'adeilad byw' gan gymysgedd o gyllid y sector preifat a chyllid gan Raglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru, Pobl a Banc Datblygu Cymru.
Mae'r datblygiad swyddfeydd ar gyfer 600 o weithwyr ar hen safle clwb nos Oceana yn cael ei ariannu gan Gyngor Abertawe a Bargen Ddinesig Bae Abertawe, a disgwylir iddo gael ei gwblhau yn haf 2023. Fe'i cefnogir hefyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Datblygwyd ardal cam un Bae Copr gan Gyngor Abertawe, gyda chefnogaeth y rheolwyr datblygu, RivingtonHark. Buckingham Group Contracting Ltd sy'n arwain y gwaith adeiladu.