Toglo gwelededd dewislen symudol

Local Aid

Mae Local Aid yn elusen gofrestredig yn Abertawe sy'n ymrwymedig i ddarparu cyfleoedd chwarae a hamdden cynhwysol y tu allan i'r ysgol ar gyfer pobl ifanc ac anableddau.

Caiff eu rhaglenni eu dylunio i feithrin annibyniaeth, magu hyder a chreu cysylltiadau cymdeithasol ystyrlon mewn amgylcheddau diogel a chefnogol.

Trosolwg o'r Rhaglen 'Buddies'

  • 'Buddies Saturday' (Mae angen atgyfeiriad - 12-19 oed). Mae'r rhaglen gefnogaeth un-i-un hon wedi'i theilwra ar gyfer pobl ifanc ag anghenion cymhleth neu ymddygiadau heriol. Trwy weithgareddau strwythuredig a rhyngweithio dan arweiniad fydd cyfranogwyr yn datblygu sgiliau cymdeithasol, cyfathrebu a bywyd hanfodol. Mae'r sesiynau'n cynnig lleoliad cyson a meithringar lle gall pobl ifanc ffynnu ar eu cyflymder eu hunain.
  • 'Buddies Community Access' (Mae angen atgyfeiriad - 13-19 oed). Bydd y rhaglen hon, sy'n canolbwyntio ar brofiadau grwpiau bach, yn helpu pobl ifanc i feithrin annibyniaeth wrth archwilio'u cymunedau lleol. Caiff gweithgareddau eu dylunio i feithrin hyder cymdeithasol, gwella sgiliau rheolaeth ariannol a datblygu gwaith tîm. Mae'n ffordd wych i gyfranogwyr fwynhau profiadau newydd gyda chyfoedion mewn lleoliad diogel sy'n cynnig cefnogaeth.
  • 'Buddies Palms Up' (Mae angen atgyfeiriad - 12-19 oed). Mae'r rhaglan hon, a ddyluniwyd ar gyfer pobl ifanc ag anghenion meddygol a/neu synhwyrol, yn cynnig sesiynau grŵp a sesiynau un-i-un. Caiff gweithgareddau eu teilwra i gefnogi rheoleiddio synhwyraidd, meithrin cyfeillgarwch a darparu profiadau sy'n cyfoethogi sy'n adlewyrchu diddordebau a galluoedd pob unigolyn. Y nod yw grymuso cyfranogwyr i fwynhau gweithgareddau hamdden yn llawn a chymryd rhan ynddynt.
  • 'Dyversity' (Pob oedran - nid oes angen atgyfeiriad, mynediad agored i blant o bob oedran). Mae 'Dyversity' yn cynnig sesiynau hamddenol sy'n ystyriol o deuluoedd ar gyfer pobl ifanc ar y sbectrwm awtistig neu sy'n aros am ddiagnosis. Mae'n ardal groesawgar lle gall teuluoedd gysylltu, rhannu profiadau a chefnogi ei gilydd. Gan ganolbwyntio ar gynhwysiant a dealltwriaeth, fydd 'Dyversity' yn helpu i greu ymdeimlad o gymuned ac yn cynnig cyngor ymarferol mewn amgylchedd heb feirniadaeth.

 

Enw
Local Aid
Gwe
https://www.localaid.co.uk/projects
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 30 Medi 2025