Toglo gwelededd dewislen symudol

Eden Las i ddod â 'manteision sylweddol' i fusnesau Abertawe

Bydd gan brosiect Eden Las gwerth £1.7bn Abertawe fanteision sylweddol i fusnesau cadwyni cyflenwi lleol a siopau, bwytai, gwestai a thafarndai'r ddinas.

Blue Eden

Blue Eden

Dyma farn Alan Brayley, Rheolwr Gyfarwyddwr AB Glass a Llywydd Clwb Busnes Bae Abertawe, a Russell Greenslade, Prif Weithredwr Ardal Gwella Busnes Abertawe.

Mae prosiect Eden Las yn cael ei arwain gan DST Innovations o Ben-y-bont ar Ogwr a'u partneriaid busnes, gyda chefnogaeth gan Gyngor Abertawe ac Associated British Ports.

Mae'n cynnwys adeiledd morlyn llanw 9.5km, fferm solar arnofiol, canolfan ddata, ffatri weithgynhyrchu i greu batris uwch-dechnoleg, cyfleuster storio batris a llawer o nodweddion eraill a fydd yn helpu i roi Abertawe ar flaen y gad yn rhyngwladol yng nghyd-destun arloesedd ynni adnewyddadwy.

Bydd Eden Las yn creu dros 2,500 o swyddi parhaol ac yn cefnogi 16,000 o swyddi eraill ar draws Cymru a'r DU, wrth greu swyddi ychwanegol yn ystod y gwaith adeiladu.

Caiff y prosiect a ariennir gan y sector preifat ei leoli ar hyd ardal helaeth o dir a dŵr, i'r de o Ddoc Tywysog Cymru yn ardal SA1 Abertawe.

Meddai Russell Greenslade, "Yn ogystal â chreu swyddi yng nghyfleuster Eden Las fel y ganolfan ddata a'r ffatri weithgynhyrchu, bydd y cynllun hefyd yn creu miloedd o swyddi adeiladu wrth i'r fenter gael ei hadeiladu.

"Fel y gwelsom gyda cham adeiladu ardal cam un Bae Copr, gan gynnwys yr arena, bydd gan hyn fuddion mawr i fusnesau lleol oherwydd bydd y gweithwyr hyn yn gwario arian yn siopau, yng ngwestai, ym mwytai ac yn nhafarndai'r ddinas.

"Mae cyhoeddiad Eden Las yn bleidlais o hyder sylweddol arall gan y sector preifat yn Abertawe a busnesau a phobl y ddinas."

Meddai Alan Brayley, "Mae gan Abertawe a De Orllewin Cymru gyfan gannoedd os nad miloedd o fusnesau cadwyni cyflenwi a all elwa'n fawr o brosiect o faint Eden Las.

"Bydd hwn yn hwb mawr arall i'r economïau lleol a rhanbarthol, gan adeiladu ar yr holl waith adfywio sydd eisoes yn digwydd a fydd yn sicrhau bod Abertawe'n adfer yn gyflym o effaith y pandemig.

"Bydd Eden Las yn codi proffil Abertawe ymhellach yn y DU a ledled y byd yn gyffredinol fel dinas i fuddsoddi ynddi, a fydd yn ei dro yn creu hyd yn oed mwy o swyddi a chyfleoedd i bobl leol."

Bydd yr ynni a gynhyrchir gan y morlyn a'r fferm solar yn cael ei ddefnyddio ar y safle, ond mae lle hefyd i allforio 32% o'r ynni hwnnw i'r grid er budd preswylwyr a busnesau lleol. Bydd swm yr ynni gwyrdd a ddefnyddir gan ddatblygiad Eden Las hefyd yn arbed cryn dipyn o ynni rhag cael ei ddefnyddio o'r grid yn y dyfodol.

Cyflwynir y prosiect mewn tri cham dros 12 mlynedd. Gallai gwaith Eden Las ddechrau ar y safle'n gynnar yn 2023, yn amodol ar ganiatâd cynllunio.  

Close Dewis iaith