Toglo gwelededd dewislen symudol

Sgiliau dylunio myfyriwr yn rhoi hwb i ymgyrch hinsawdd y ddinas

​​​​​​​Mae myfyriwr o Abertawe wedi rhoi hwb ymlaen i brosiect a fydd yn helpu'r ddinas i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd a'r argyfwng natur.

Logo Competition Winner

Logo Competition Winner

Mae Agi Olah, myfyriwr o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi dylunio hunaniaeth brand ar gyfer 'Swansea Project Zero'. Mae'n fenter sy'n cefnogi busnesau, grwpiau, preswylwyr a sefydliadau wrth iddynt helpu'r ddinas i gyflawni allyriadau carbon sero net erbyn 2050.

Mae ei chysyniadau dylunio wedi ennill cystadleuaeth a gynhaliwyd gan PCYDDS ar ran corff sy'n cyflwyno'r prosiect, The Climate Change and Nature Action Signatories Group.

Mae'r dyhead i wneud Abertawe'n sero net erbyn 2050 yn cael ei arwain gan Gyngor Abertawe.

Cyflwynodd Dirprwy Arweinydd ar y Cyd y cyngor, Andrea Lewis, y wobr o £500 i Agi, myfyriwr dylunio graffeg yn ei thrydedd flwyddyn.

Meddai Agi, 41 oed, "Rwyf wrth fy modd i gael y cyfle hwn i weithio ar ymgyrch hinsawdd y ddinas."

Bydd y grŵp llofnodwyr bellach yn gweithio gydag Agi i wireddu'i gweledigaeth. Caiff y dyluniadau terfynol eu datgelu maes o law.

Meddai Donna Williams, rheolwr rhaglen ar gyfer dylunio graffeg yn PCYDDS, "Roeddem yn falch iawn o roi cyfle i'n myfyrwyr dylunio graffig gydweithio â'r ymgyrch ystyrlon a hanfodol hon, sydd wedi rhoi cyhoeddusrwydd i 'Swansea project Zero'.

Meddai'r Cyng. Lewis,"Diolchwn i Agi am ei chysyniad dylunio blaengar, rhagorol. Bydd yn ddyluniad amlwg yn Abertawe dros y blynyddoedd nesaf.

"Mae lleihau allyriadau a helpu i achub y blaned ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol yn fusnes i bawb."

"Yn y cyngor rydym yn arwain drwy esiampl ac yn gweithio gyda dinasyddion, busnesau, sefydliadau'r sector cyhoeddus ac eraill i helpu i wneud Abertawe'n ddinas a sir sero net erbyn 2050."

Llun: Dirprwy Arweinydd ar y Cyd y cyngor, Andrea Lewis, yn llongyfarch enillydd y gystadleuaeth, Agi Olah.

 

 

Close Dewis iaith