Toglo gwelededd dewislen symudol

Tri Chadét y Lluoedd Arfog o Abertawe yn derbyn rôl seremonïol gan yr Arglwydd Faer

Bydd tri Chadét y Lluoedd Arfog o Abertawe yn cefnogi'r Arglwydd Faer gyda digwyddiadau swyddogol ar ôl cael eu dewis o ddwsinau o ymgeiswyr.

Lord Mayor of Swansea Mike Day with Lord Mayor Cadets

Lord Mayor of Swansea Mike Day with Lord Mayor Cadets

Gan gynrychioli'r Fyddin, y Llynges a'r Awyrlu, bydd y cadetiaid yn mynd gyda'r Arglwydd Faer i ymrwymiadau seremonïol fel Diwrnod y Lluoedd Arfog, Dydd y Cofio a Dydd y Gymanwlad.

Jensen Griffiths o Drefansel, disgybl blwyddyn 11 yn Ysgol Gyfun Gŵyr yw Corporal Gadet y Fyddin. Canmolwyd Jensen am ei ymdrechion i godi arian, yn enwedig ar gyfer Apêl y Pabïau'r Lleng Brydeinig Frenhinol. Nododd ei brif swyddogion ei ymroddiad a'i nodweddion arweinyddiaeth wrth ei enwebu ar gyfer swydd Cadét yr Arglwydd Faer.

Grace Horton o Gilâ, disgybl y chweched dosbarth yn Ysgol Gyfun yr Olchfa yw Abl Gadét y Llynges. Mae Grace wedi bod yn Gadét Môr ers ei bod yn 13 oed ac mae ei phrif swyddogion yn nodi ei hymroddiad at hyfforddi a chefnogi digwyddiadau fel sioe hen geir y ddinas, ras 10k Bae Abertawe a Sioe Awyr Cymru yn ei henwebiad.

Catrin Cornelius o Townhill yn fyfyriwr yn Ysgol Gyfun Gŵyr yw Awyr-ringyll yr Awyrlu. Mae hi'n chwaraewraig ac yn gerddor dawnus, perfformiodd ar gyfer EM y Frenhines Elizabeth II gyda Band Cadetiaid yr Awyrlu Brenhinol Prydeinig yn Nhŵr Llundain i nodi dechrau Jiwbilî'r Frenhines. Nodwyd gwaith elusennol Catrin hefyd yn ei henwebiad, gan ei bod hi wedi codi miloedd o bunnoedd ar gyfer sefydliadau fel Maggies, cronfa chwaraewyr a anafwyd URC, Apêl y Pabïau'r Lleng Brydeinig Frenhinol ac Apêl Wings RAFA.

Penodwyd Jensen, Grace a Catrin fel Cadetiaid yr Arglwydd Faer yn ystod seremoni arbennig yn Neuadd y Ddinas hanesyddol Abertawe.

Meddai Arglwydd Faer Abertawe, y Cynghorydd Mike Day, "Wrth benodi Cadetiaid yr Arglwydd Faer, rydw i wrth fy modd bod y cyngor yn cydnabod y gwaith a wnaed yn sefydliadau ieuenctid y ddinas.

"Bydd y cadetiaid yn cefnogi'r Arglwydd Faer yn ystod achlysuron dinesig yn y dyfodol ac yn cynrychioli'r cysylltiad sydd gan y ddinas â'r lluoedd y cadetiaid.

"Llongyfarchiadau i Grace, Jenson a Catrin am gael eu dewis ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod, ac rwy'n edrych ymlaen at sefyll ochr yn ochr â nhw mewn digwyddiadau dinesig."