Ynni Morol Cymru yn cefnogi Eden Las
Mae Ynni Morol Cymru wedi croesawu'r cyhoeddiad am y prosiect Eden Las arfaethedig gwerth £1.7bn yn Abertawe.
Mae prosiect Eden Las, sy'n cynnwys adeiledd morlyn llanw 9.5km, yn cael ei arwain gan DST Innovations o Ben-y-bont ar Ogwr a'u partneriaid busnes, gyda chefnogaeth gan Gyngor Abertawe ac Associated British Ports.
Byddai'r prosiect, a ariennir gan y sector preifat, yn cael ei leoli ar hyd ardal helaeth o dir a dŵr, i'r de o Ddoc Tywysog Cymru yn ardal SA1 Abertawe.
Mae Eden Las hefyd yn cynnwys fferm solar arnofiol, canolfan ddata, ffatri weithgynhyrchu i greu batris uwch-dechnoleg, cyfleuster storio batris a llawer o nodweddion eraill a fydd yn helpu i roi Abertawe ar flaen y gad yn rhyngwladol yng nghyd-destun arloesedd ynni adnewyddadwy.
Disgwylir i'r prosiect greu dros 2,500 o swyddi parhaol a chefnogi 16,000 o swyddi eraill ar draws Cymru a'r DU, wrth greu swyddi ychwanegol yn ystod y gwaith adeiladu.
Byddai Eden Las yn cael ei gyflwyno mewn tri cham dros 12 mlynedd. Yn amodol ar ganiatâd cynllunio, gallai gwaith ar y safle ddechrau'n gynnar yn 2023.
Meddai Jess Hooper, Rheolwr Rhaglen Ynni Morol Cymru: "Rydym yn awyddus i weld sut y gellir gwireddu'r morlyn hwn ar arfordir Abertawe er budd pobl leol a thargedau sero-net, a sut y gall helpu i sbarduno'r diwydiant gwyrdd hwn yng Nghymru.
"Mae'r natur amlbwrpas a'r gwerth ychwanegol cysylltiedig sy'n rhan o'r prosiect hwn ar ffurf cyfleuster storio batris, canolfan ddata, tai paneli solar arnofiol a mwy yn cynnig addewid mawr ar gyfer atebion cynaliadwy sy'n mynd y tu hwnt i ddatgarboneiddio'n dulliau cynhyrchu trydan a'n hanghenion storio trydan.
"Edrychwn ymlaen at weithio gyda DST fel aelodau o YMC i symud y prosiect hwn yn ei flaen."
Mae arweinwyr busnesau a phrifysgolion yn Abertawe eisoes wedi mynegi'u cefnogaeth ar gyfer y prosiect hwn, gan grybwyll ei effaith bosib ar swyddi a'r economi werdd.
Byddai'r morlyn llanw newydd ei ddylunio sy'n rhan o'r cynllun yn cynnwys tyrbinau tanddwr o'r radd flaenaf a fydd yn cynhyrchu 320 megawat o ynni adnewyddadwy.
Bydd yr ynni a gynhyrchir gan y morlyn a'r fferm solar yn cael ei ddefnyddio ar y safle, ond mae lle hefyd i allforio 32% o'r ynni hwnnw i'r grid er budd preswylwyr a busnesau lleol. Bydd swm yr ynni gwyrdd a ddefnyddir gan ddatblygiad Eden Las hefyd yn arbed cryn dipyn o ynni rhag cael ei ddefnyddio o'r grid yn y dyfodol.