Toglo gwelededd dewislen symudol

​​​​​​​Cyngor Abertawe wedi'i enwi fel un o awdurdodau lleol y DU y flwyddyn

Fe'i henwyd fel un o gynghorau gorau'r DU yn ystod gwobrau MJ blynyddol nodedig a gynhaliwyd yn Llundain neithiwr, a Chyngor Abertawe oedd yr unig gyngor o Gymru i gyrraedd y rhestr fer.

Swansea Arena

Swansea Arena

Cyrhaeddodd tîm Rhagor o Gartrefi gwasanaethau adeiladau Cyngor Abertawe y rhestr fer ar gyfer categori arall.

Meddai Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, "Dyma newyddion gwych ar gyfer y cyngor a'r ddinas.

"Mae'n fraint cael ein henwi fel un o chwech o gynghorau gorau'r DU. Abertawe oedd yr unig gyngor yng Nghymru i gyrraedd y rhestr fer ar gyfer y gwobrau pwysicaf ar gyfer llywodraeth leol. Mae'n dangos bod yr ymdrechion a wnaed gan bawb yn Abertawe ar ran yr holl breswylwyr a sefydliadau o ansawdd uchel.

Ychwanegodd, "Hoffwn ddiolch i'n staff a'n timau gwych o weithwyr allweddol, sy'n darparu gwasanaethau ardderchog ac yn gwneud gwaith gwych bob dydd, ac mae derbyn y gydnabyddiaeth hon ond yn bosib o'u herwydd - dyma'u llwyddiant nhw!"

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 23 Mehefin 2023