Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyfle i'r cyngor ennill y teitl awdurdod lleol y flwyddyn

Mae Cyngor Abertawe ar y rhestr fer ar gyfer ennill y teitl awdurdod lleol y flwyddyn y DU.

Swansea Arena

Swansea Arena

Mae wedi cyrraedd y rhestr fer, sy'n cynnwys chwe chyngor a allai ennill y teitl yn ystod y gwobrau MJ blynyddol nodedig .

Disgwylir i enillydd Awdurdod Lleol y Flwyddyn gael ei gyhoeddi'r haf hwn. Abertawe yw'r unig awdurdod Cymreig sydd wedi cyrraedd y rhestr fer.

Mae tîm Rhagor o Gartrefi gwasanaethau adeiladau Cyngor Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer categori arall.

Meddai Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, "Dyma newyddion gwych ar gyfer y cyngor a'r ddinas.

"Mae'n fraint cael cyrraedd y rhestr fer yn y cynllun cystadleuol iawn hwn. Mae'n cadarnhau bod yr ymdrechion a wnaed gan bawb yn y cyngor ar ran yr holl breswylwyr a sefydliadau o ansawdd uchel.

"Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi helpu Cyngor Abertawe - gan gynnwys ein tîm Rhagor o Gartrefi - sydd wedi ennill y gydnabyddiaeth hon fel un o oreuon y DU."

Yn ystod adeg lle mae cyllidebau'n dynn ac mae argyfyngau digynsail a heriau newidiol o ran gwasanaethau ar gyfer awdurdodau lleol, mae'r cyngor yn dweud bod ei uchelgais yn cael ei gyflawni mewn ffordd arbennig.

Ei fwriad yw ffynnu, gwasanaethu a chefnogi ei gymunedau yn ystod cyfnod o galedi a bod yn gatalydd egnïol ar gyfer gwelliant economaidd.

Roedd y ffaith fod y cyngor wedi llwyddo i gyflwyno Arena arbennig newydd Abertawe ar adeg cyfnodau clo'r pandemig wedi gwneud argraff fawr ar feirniaid y wobr.

Meddai'r Cyng. Stewart, "Cyflwynwyd y llwyfan newydd hwn ar gyfer perfformiadau o'r radd flaenaf yn ystod cyfnod anodd. Ar yr un pryd, rydym yn parhau i ddarparu gwelliannau gwasanaethau lleol o ansawdd uchel fel ysgolion newydd, digwyddiadau newydd, lleoedd chwarae newydd a llwybrau beicio newydd."

Mae un o dimau gwasanaethau adeiladau'r cyngor wedi cyrraedd y rhestr fer yng nghategori tîm gwasanaeth cyngor gorau y gwobrau.

Mae'r tîm Rhagor o Gartrefi wedi cyflwyno pum cynllun peilot tai, sydd wedi arwain at greu chwe byngalo pâr newydd yn West Cross, yr oedd dau ohonynt wedi'u hadeiladu'n gyfan gwbl gan ddefnyddio prentisiaid lle bo'n bosib.

Mae'r Gwobrau MJ yn dathlu llwyddiannau ac yn cydnabod pobl yn y llywodraeth leol.

Llun: Arena Abertawe.

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Ebrill 2023