Diwrnod prysur wedi'i drefnu wrth i Dreforys fynd yn ôl i'r oes Fictoraidd!
Caiff Treforys ei gludo yn ôl i'r oes Fictoraidd ddydd Sadwrn yma mewn digwyddiad ar thema'r Nadolig.
Bydd Diwrnod Fictoraidd y gymuned ar gyfer 2023, sy'n dechrau o 10am, yn cynnwys atyniadau fel gweithdai syrcas, cerddoriaeth band pres, groto Siôn Corn ac organ dro.
Bydd ystudfachwr mewn gwisg Fictoraidd, llwybr coed Nadolig a charolau.
Mae'r digwyddiad, a drefnir gan y cyngor yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Bwriedir cynnal y digwyddiad y diwrnod ar ôl gorymdaith cynnau goleuadau'r Nadolig Treforys.
Yn ogystal ag adloniant stryd, bydd y lleoliadau sy'n cynnal gweithgareddau Fictoraidd yn cynnwys y gweithle a rennir yn 65 Woodfield Street, Canolfan Y Galon Sanctaidd, Llyfrgell Treforys, Eglwys Dewi Sant a Chapel y Tabernacl Treforys.
Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, "Mae rhaglen Diwrnod Fictoraidd fanwl bellach ar gael yn y gymuned - ac mae pawb yn dechrau cyffroi."
Ni fydd unrhyw ffyrdd ar gau.
Llun: Diwrnod Fictoraidd Treforys y llynedd