Toglo gwelededd dewislen symudol

Yr Arglwydd Faer

Y Cynghorydd Mike Day.

Dirprwy Arglwydd Faer 2021-22, Y Cynghorydd Mike Day.
Mae Mike wedi byw yn Sgeti ers 1988, cafodd ei ethol yn Gynghorydd Democratiaid Rhyddfrydol ar gyfer Sgeti ym 1999 ac mae'n frwd dros wasanaethu'r gymuned. Ef yw'r hynaf o 5 o blant a chafodd ei eni ym Mhont-y-pŵl cyn symud i Henffordd ym 1961, lle enillodd ysgoloriaeth i Ysgol Gadeiriol Henffordd. Ar ôl sefyll ei arholiadau Lefel O, symudodd y teulu i Dynfant, a mynychodd Mike Ysgol Ramadeg y Bechgyn Tre-gŵyr i astudio ar gyfer ei arholiadau Lefel A.

Ar ôl graddio ym 1974 gyda BSc (Economeg) o Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru, Caerdydd, bu Mike yn gweithio am 14 mlynedd i Gyngor Sir De Morgannwg mewn rolau Rheoli Personél amrywiol.

Ym 1977, priododd Mike â Chris - fe'i magwyd ym Mayhill a West Cross, graddiodd o Brifysgol Abertawe ac aeth ymlaen i weithio yn Ysbyty Mynydd Bychan.  Roeddent yn byw yng Nghaerdydd tan 1988 lle ganed eu dau blentyn, Sophie ac Alex. Mae Sophie yn briod gyda 2 o blant, 9 a 6 oed, ac yn byw yn yr Almaen, lle mae hi a'i gŵr yn athrawon. Mae mab Mike, Alex, yn arwain elusen, The Big Give, sydd yng nghanol Llundain. Mae'n byw yn Surrey gyda'i wraig a'i fab sy'n 4 oed.

Symudodd y teulu yn ôl i Abertawe pan ddaeth Mike yn ddarlithydd busnes yn Sefydliad Addysg Uwch Gorllewin Morgannwg (PCYDDS bellach). Ef oedd Deon cyntaf Ysgol Fusnes Abertawe a pharhaodd i weithio yno tan 2002, pan ddaeth yn Ymgynghorydd i un o Aelodau Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol.

Yn 2003, cynigiwyd swydd i Mike ym Mhrifysgol Abertawe - i ddechrau, roedd yn cysylltu busnesau digidol ag ymchwilwyr prifysgol, ac yn ddiweddarach yn cefnogi busnesau newydd mewn gwyddorau bywyd. Yn fuan ar ôl iddo 'ymddeol' yn 2013, sefydlodd is-gwmni o sefydliad addysg Tsieineaidd yn y DU a sefydlodd elusen, gan gychwyn cystadleuaeth fenter ar gyfer timau o fyfyrwyr o'r DU a Tsieina.

Mae Mike wrth ei fodd yn gweld pobl yn datblygu i'w llawn botensial. Roedd hyn yn sail gref i'w benodiad fel Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Addysg (2004-2012), rôl y gwnaeth ei mwynhau'n aruthrol, gan ddarparu arweinyddiaeth wleidyddol mewn gwasanaeth mor bwysig ac arwyddocaol. Rhan orau'r swydd, meddai, oedd gallu ymweld â holl ysgolion y ddinas a'r sir, gweld gwaith ysbrydoledig staff, a mwynhau ymateb y bobl ifanc. Mae e' wedi bod yn aelod o gyrff llywodraethu Ysgol Gynradd Sgeti ac Ysgol Gyfun yr Olchfa, a Choleg Gŵyr Abertawe.

Mae Mike wedi gwasanaethu'r gymuned ar dîm arweinyddiaeth Eglwys Parklands ers dros 30 mlynedd, ac mae'n gefnogwr gweithredol o Fanc bwyd HOP yng Nghanolfan Gymunedol Parc Sgeti, lle mae'n aelod o'r Pwyllgor Rheoli. Mae ei weithgareddau hamdden yn cynnwys cerdded, mwynhau amgylchedd naturiol gwych yr ardal ac, fel deiliad tocyn tymor, gwylio'r Elyrch (yn bersonol, yn ddelfrydol!).

Gwneud cyfraniad Cronfa Elusen yr Arglwydd Faer 2022/23

Cronfa Elusen yr Arglwydd Faer 2022/23

Gallwch gyfrannu i Gronfa Elusen yr Arglwydd Faer ar-lein.
Close Dewis iaith