Toglo gwelededd dewislen symudol

Dirprwy Arglwydd Faer

Y Cynghorydd Wendy Fitzgerald.

Dirprwy Arglwydd Faer - Y Cynghorydd Wendy Fitzgerald.

Ganwyd Wendy mewn pentref bach yng ngogledd Cernyw, o fewn tafliad carreg i'r môr. Mynychodd yr ysgol ramadeg yn y dref gyfagos ac yna aeth i Brifysgol Caerwysg i astudio Cymdeithaseg, gan arbenigo mewn Anthropoleg Gymdeithasol. Mae'n cofio bod ei harholiadau terfynol yn cynnwys naw papur tair awr, llawer mwy nag unrhyw bwnc arall. Felly, wrth i bawb arall ddathlu diwedd eu harholiadau, roedd Wendy yn dal i astudio yn ei hystafell, yn gwrando ar bawb arall yn dathlu drwy ei ffenestri agored.

Aeth ymlaen i addysgu yn Surrey a Llundain cyn ymuno ag Awdurdod Meysydd Awyr Prydain i weithio yn yr adran AD. Ar ôl hynny treuliodd cyfnod byr yn Seland Newydd, eto yn gweithio yn AD. Yn ystod ei hamser yn Llundain, cyfarfu Wendy â'i gŵr, Tony, ac yn dilyn eu priodas, treulion nhw flwyddyn arall yn y brifddinas er mwyn i Tony gwblhau ei radd meistr.

Yna symudon nhw i Abertawe, tref enedigol Tony, gan brynu cartref ym Mhenlle'r-gaer. Cawsant dau o blant, merch o'r enw Dr Annelie Fitzgerald, academig sydd wedi gweithio mewn prifysgolion yn Ffrainc ers sawl blwyddyn, a mab o'r enw Rupert, darpar awdur gyda mab 10 oed sy'n byw yn Llundain.

Yn fuan ar ôl hynny daeth Wendy yn rhan o fywyd cymunedol Penlle'r-gaer ac roedd yn ysgrifennydd Cymdeithas Rhieni ac Athrawon am sawl blwyddyn. Roedd hefyd yn un o aelodau sefydliadol yr Urdd Menywod sy'n dal i ffynnu heddiw.

Pan roedd eu plant yn hŷn, gwnaeth Wendy ychydig o waith yn addysgu cyrsiau ieithoedd ac roedd hyn yn cyd-fynd yn dda â'i bywyd cartref. Dros amser dechreuodd Wendy ymwneud yn fwy â'r gwaith hwn ac yn y pen draw, sefydlodd ei hysgol ieithoedd ei hun a oedd yn canolbwyntio ar gyrsiau i grwpiau bach ac addysgu un i un, drwy gydweithio gyda Sweden yn bennaf. Roedd hyn yn cynnwys ymweliadau niferus â Stockholm, ei phrifysgolion, ei hadrannau llywodraeth a'i chwmnïau preifat.

Roedd ei gŵr, Tony yn gadeirydd Cyngor Cymuned Penlle'r-gaer am nifer o flynyddoedd felly ni ddaeth Wendy yn Gynghorydd Cymuned nes 2001, sbel ar ôl i Tony ymddiswyddo oherwydd ymrwymiadau gwaith a oedd yn golygu nad oedd yn gweithio yn Abertawe yn ystod yr wythnos waith. Yn dilyn ei phrofiadau fel Cynghorydd Cymuned, penderfynodd ei bod am gynrychioli Ward Penlle'r-gaer yn yr Etholiadau Dinas a Sir yn 2004. Gan nad oedd Wendy eisiau cyd-fynd ag unrhyw blaid wleidyddol benodol, safodd fel ymgeisydd annibynnol ac mae wedi parhau i fod yn ymgeisydd annibynnol ers hynny. Gofalu am fuddion holl breswylwyr Penlle'r-gaer oedd prif flaenoriaeth Wendy o hyd ac mae wedi wynebu heriau mawr o ganlyniad, yn bennaf oherwydd y gwnaeth Penlle'r-gaer dyfu'n gyflym ar ôl adeiladu datblygiadau tai newydd. 

Mae Wendy'n Gynghorydd Cymuned o hyd ac yn llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Penlle'r-gaer ac Ysgol Uwchradd Pontarddulais ar hyn o bryd. Mae hefyd yn aelod o Fwrdd Ymddiriedolaeth Penllergare, sy'n gyfrifol am yr hyn a wneir yng Nghoed Cwm Penllergare.

Sawl blynedd yn ôl sefydlodd grŵp eisio teisennau a grŵp gwau sydd bellach wedi datblygu'n grŵp Crefftwyr Penlle'r-gaer. Mae'r grŵp yn cwrdd yn wythnosol i gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol a arweinir fel arfer gan aelodau talentog o'r grŵp. Mae'n aelod o'r Urdd Menywod a chlwb garddio mawr a gweithredol, gan taw garddio yw un o'i diddordebau hamdden. 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 17 Mai 2024