Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgol yn mynd cam ymhellach i ennill gwobr cerdded ac olwyno

Mae disgyblion a staff yn Ysgol Maes Derw yn Abertawe wedi mynd cam ymhellach i ennill gwobr am eu gwaith i hyrwyddo cerdded, beicio a reidio sgwter fel rhan o fywyd llesol.

Maes Derw School wins Bronze Sustrans Award

Maes Derw School wins Bronze Sustrans Award

Dyma'r Uned Cyfeirio Disgyblion (UCD) gyntaf yng Nghymru i ennill Gwobr Efydd Teithio Llesol i'r Ysgol Sustrans.

Trwy weithio gyda'r elusen genedlaethol, mae'r ysgol wedi annog disgyblion a staff i gerdded, beicio a reidio sgwter i'r ysgol a chymryd rhan mewn milltir ddyddiol fel eu bod yn fwy effro ac ymgolledig pan fydd eu gwersi'n dechrau.

Cafwyd gweithdai cynnal a chadw er mwyn dysgu'r sgiliau angenrheidiol i'r disgyblion er mwyn iddynt gynnal a chadw a thrwsio eu beiciau ynghyd â sesiynau i wella'u hyder, eu diogelwch a'u sgiliau.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 05 Chwefror 2024