Maes Llafur Cytûn ar gyfer Addysg Grefyddol
Yn seiliedig ar y Fframwaith Enghreifftiol Cenedlaethol ar gyfer cyflwyno Addysg Grefyddol.
Cynnwys
Cyflwyniad
Cynnwys pob dysgwr
Sgiliau ar draws y cwricwlwm
Dysgu ar draws y cwricwlwm
Agweddau ar addysg grefyddol
Dilyniant mewn addysg grefyddol
Addysg grefyddol yn y Cyfnod Sylfaen
Cyfnod Allweddol 2: Rhaglen Astudio
Cyfnod Allweddol 3: Rhaglen Astudio
Disgrifiadau lefel ar gyfer addysg grefyddol
Deiliannau ar gyfer addysg grefyddol
Addysg grefyddol yng Nghyfnod Allweddol 4 ac ôl-16
Cyfnod Allweddol 4 ac ôl-16: Rhaglen Astudio
Atodiad 1 - Gofynion cyfreithiol ar gyfer meysydd llafur cytûn
Atodiad 2 - Addysg grefyddol yn y Cyfnod Sylfaen
Cyflwyniad
Ysgrifennwyd y ddogfen hon i gydymffurfio â'r rhwymedigaethau cyfreithiol i gael maes llafur cytûn lleol* sy'n cynnwys y gofynion canlynol:
- hyrwyddo datblygiad ysbrydol, moesol, diwylliannol, meddyliol a chorfforol disgyblion, gan gynnwys y rhai mewn lleoliadau meithrin;
- darpariaeth briodol ar gyfer pob disgybl cofrestredig ym mhob ysgol a gynhelir yng Nghymru, gan gynnwys y rhai mewn lleoliadau derbyn a'r rhai hyd at 19 mlwydd oed;
- dylid astudio Cristnogaeth ym mhob cyfnod allweddol, a dylai'r prif grefyddau eraill fod y rhai a gynrychiolir ym Mhrydain Fawr;
- dylai addysg grefyddol fod yn anenwadol, ond ni waherddir addysgu am gatecism neu fformiwlari penodol (h.y. gellir astudio'r tebygrwydd a'r gwahaniaethau rhwng credoau, dysgeidiaethau ac arferion y traddodiadau crefyddol).
Mae Atodiad 1 yn cynnwys manylion am y darpariaeth deddfwriaethol perthnasol hyn.
Mae addysg grefyddol yn yr unfed ganrif ar hugain yn annog disgyblion i archwilio ystod o gwestiynau athronyddol, diwinyddol, moesegol, ac ysbrydol mewn ffordd fyfyriol, ddadansoddol a chytbwys sy'n ysgogi cwestiynu a dadl. Mae hefyd yn canolbwyntio ar ddeall pam mae'r ddynoliaeth yn chwilio am ystyr, yr agweddau cadarnhaol sy'n perthyn i ddealltwriaeth aml-ffydd/aml-ddiwylliant a dirnadaeth y disgybl ei hunan a'i ymateb i fywyd a chrefydd. Mae addysg grefyddol yn yr unfed ganrif ar hugain yn cynnwys ymagwedd agored, wrthrychol ac archwiliadol.
*Nid yw'r maes llafur cytûn hwn yn effeithio ar sefyllfa statudol adysg grefyddol mewn ysgolion nas cynhelir (Ysgoliong Gwirfoddol a Gynorthwyir).
Amser
Ym mhob cyfnod allweddol mae angen amser ac adnoddau digonol er mwyn darparu cwrs astudio effeithiol a chydlynol. Yn nhermau amser cwricwlwm dylai addysg grefyddol fod yn gydradd o ran amser â phynciau sylfaen cymharol. Mae'r amser a roddir i addoli ar y cyd yn wahanol i amser y cwricwlwm a roddir i addysg grefyddol ac yn ychwanegol ato.
Cwynion a thynnu allan
Gweithredir gweithdrefn cwynion y gall CYSAG ystyried cwynion ynghylch darpariaeth, neu ddiffyg darpariaeth, addysg grefyddol drwyddi.
Gall rhieni neu warcheidwaid disgybl mewn unrhyw ysgol wladol ofyn caniatâd yn bersonol i'w plentyn gael ei esgusodi'n llwyr neu'n rhannol rhag derbyn addysg grefyddol. Gan y gellir gofyn am dynnu plentyn allan o addysg grefyddol ar sail cydwybod, mae'n bwysig i ysgolion:
a) sicrhau bod rhieni yn ymwybodol o amcanion a natur gwbl addysgiadol addysg grefyddol a bod cyfle i drafod gyda rhieni oblygiadau tynnu eu plentyn allan.
b) drafod gyda rhieni'r hyn a olygir yn ymarferol wrth ddarparu rhaglen addysg grefyddol wahanol.
Mae hawliau athrawon a phrifathrawon i esgusodi eu hunain rhag addysgu addysg grefyddol yn parhau.
Cynnwys pob dysgwr
Cyfrifoldebau ysgolion
Yn ôl Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a dogfen strategaeth drosfwaol Llywodraeth Cynulliad Cymru, Gweithredu'r Hawliau, rhaid sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn derbyn addysg sy'n datblygu eu personoliaeth a'u talentau yn llawn. Mae Deddf Addysg 2002 yn cryfhau ymhellach ddyletswydd ysgolion i ddiogelu a hyrwyddo lles pob plentyn a pherson ifanc.
Mae'r ddeddfwriaeth cyfle cyfartal sy'n cwmpasu oedran, anabledd, rhyw, hil, crefydd a chred, a chyfeiriadedd rhywiol yn gosod dyletswydd bellach ar ysgolion yng Nghymru tuag at y dysgwyr presennol a darpar ddysgwyr, sef cael gwared ar wahaniaethu ac aflonyddwch, hyrwyddo agweddau cadarnhaol a chyfle cyfartal, ac annog cyfranogiad ym mhob agwedd ar fywyd yr ysgol.
Dylai ysgolion feithrin ym mhob dysgwr ymdeimlad o hunaniaeth bersonol a diwylliannol sy'n dderbyngar ac yn parchu eraill. Dylai ysgolion gynllunio ar draws y cwricwlwm i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth, sgiliau, gwerthoedd ac agweddau a fydd yn galluogi dysgwyr i gymryd rhan yn ein cymdeithas aml ethnig yng Nghymru. Dylai ysgolion ddatblygu ymagweddau sy'n cefnogi hunaniaeth ethnig a diwylliannol pob dysgwr ac sy'n adlewyrchu ystod o safbwyntiau, er mwyn cael ymrwymiad dysgwyr a'u paratoi am fywyd fel dinasyddion byd-eang.
Rhaid i ysgolion weithio i leihau rhwystrau amgylcheddol a chymdeithasol i gynhwysiant a darparu cyfleoedd i'r holl ddysgwyr fel eu bod yn cyflawni eu potensial yn llawn wrth baratoi ar gyfer addysg bellach a bywyd. Lle bo'n briodol, bydd angen i ysgolion gynllunio a gweithio gyda gwasanaethau arbenigol i sicrhau y caiff dysgwyr brofiadau perthnasol a hygyrch.
Ar gyfer dysgwyr ag anableddau yn enwedig, dylent:
- wella mynediad i'r cwricwlwm
- gwneud gwelliannau ffisegol i gynyddu cyfranogiad mewn addysg
- darparu gwybodaeth mewn fformatau priodol.
Dylai ysgolion geisio cyngor ynglŷn ag addasiadau rhesymol, gweithgareddau amgen/addasedig ac offer ac adnoddau priodol y gellir eu defnyddio i gefnogi cyfranogiad llawn gan yr holl ddysgwyr, gan gynnwys rhai sy'n defnyddio dull arall o gyfathrebu heblaw am iaith lafar.
Ar gyfer dysgwyr nad ydynt yn siarad Cymraeg na Saesneg fel iaith gyntaf, dylai ysgolion gymryd camau penodol i'w helpu i ddysgu Cymraeg a Saesneg drwy'r cwricwlwm. Dylai ysgolion ddarparu deunydd i ddysgwyr sy'n cyfateb â'u gallu, eu haddysg a'u profiad blaenorol, ac sy'n ymestyn eu datblygiad ieithyddol. Dylai ysgolion hefyd annog y defnydd o ieithoedd cartref y dysgwyr wrth ddysgu.
Hawliau dysgwyr
Dylai ysgolion yng Nghymru sicrhau bod pob dysgwr yn ymrwymo'n aelodau llawn o gymuned eu hysgol, ac yn cael mynediad i'r cwricwlwm ehangach a holl weithgareddau'r ysgol gan weithio ochr yn ochr â'u cyfoedion lle bo hynny'n bosibl. Dylai'r ysgol addysgu'r holl raglenni astudio a fframweithiau mewn modd sy'n cyfateb i aeddfedrwydd a gallu dysgwyr sy'n dal i ddatblygu. Dylai hefyd sicrhau bod dysgwyr yn gallu gwneud defnydd llawn o'u dull dewisedig o gyfathrebu er mwyn cael mynediad i'r cwricwlwm. I ehangu eu dysgu, dylai dysgwyr brofi amrywiaeth o arddulliau dysgu ac addysgu.
Er mwyn galluogi pob dysgwr i fanteisio ar sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth berthnasol ar bob lefel, gall ysgolion ddefnyddio cynnwys o gyfnodau neu gyfnodau allweddol blaenorol o fewn y cwricwlwm. Dylai ysgolion ddefnyddio deunyddiau mewn modd sy'n addas i oedran, profiad, dealltwriaeth a chyrhaeddiad blaenorol y dysgwyr, er mwyn ennyn eu diddordeb yn y broses ddysgu.
Ar gyfer dysgwyr sy'n gweithio ar lefel sy'n llawer is na'r hyn a ddisgwylir mewn unrhyw gyfnod allweddol, dylai ysgolion ddefnyddio anghenion y dysgwr fel man cychwyn ac addasu rhaglenni astudio i gyfateb â'r anghenion hynny. Mae'r cwricwlwm yn ddigon hyblyg i ddiwallu anghenion dysgwyr heb orfod datgymhwyso. Mewn achosion eithriadol, gellir datgymhwyso dysgwyr unigol, am gyfnod dros dro fel arfer. Serch hynny, ni ddylid datgymhwyso grwpiau na datgymhwyso ar raddfa fawr.
Os nad oes modd ymdrin â chynnwys yr holl raglenni astudio ar gyfer pob cyfnod allweddol, gellir bodloni'r gofyniad statudol i ddarparu cwricwlwm eang a chytbwys drwy ddewis pynciau/themâu priodol o'r cwricwlwm yn gyd-destunau ar gyfer dysgu.
Ar gyfer dysgwyr mwy galluog a thalentog sy'n gweithio ar lefelau uwch, dylai ysgolion gynnig mwy o her iddynt drwy ddefnyddio deunyddiau mewn modd sy'n ymestyn ehangder a dyfnder yr astudio a chyfleoedd i ddysgu'n annibynnol. Gellir cynyddu'r her hefyd drwy ddatblygu a chymhwyso meddwl, a sgiliau cyfathrebu, TGCh a rhif ar draws y cwricwlwm.
Dylai ysgolion ddewis deunydd a fydd yn:
- darparu cwricwlwm ystyrlon a phernasol sy'n cymell eu dysgwr
- diwallu anghenion penodol eu dysgwyr a hyrwyddo'u datblygiad yn gyffredinol.
Dylai dysgwyr o bob gallu gael mynediad i asesu ac achredu priodol.
Sgiliau ar draws y cwricwlwm
Mae Fframwaith sgiliau ar gyfer dysgwyr 3 i 19 oed yng Nghymru anstatudol wedi cael ei ddatblygu er mwyn cynnig arweiniad ynghylch parhad a dilyniant mewn datblygu meddwl, cyfathrebu, TGCh a rhif i ddysgwyr 3-19 oed.
Yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3, dylid rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr adeiladu ar y sgiliau y maent wedi dechrau eu caffael a'u datblygu yn ystod y Cyfnod Sylfaen. Dylai'r dysgwyr barhau i gaffael, datblygu, ymarfer, cymhwyso a mireinio'r sgiliau hyn trwy dasgau grŵp a thasgau unigol mewn amryw o gyd-destunau ar draws y cwricwlwm. Gellir gweld cynnydd yn nhermau mireinio'r sgiliau hyn a thrwy eu cymhwyso i dasgau sy'n symud o'r diriaethol i'r haniaethol; syml i'r cymhleth; personol i'r 'darlun mawr'; cyfarwydd i'r anghyfarwydd; a dibynnol i'r annibynnol a'r cyd-ddibynnol.
Ar gyfer dysgwyr 14-19 oed, dylai'r fframwaith ddarparu'r sail ar gyfer gwneud cynnydd effeithiol yn y sgiliau hyn, y gellir eu hasesu drwy ystod o gymwysterau, gan gynnwys Sgiliau Allweddol.
Datblygu meddwl
Bydd y dysgwyr yn datblygu eu meddwl ar draws y cwricwlwm trwy'r prosesau cynllunio, datblygu a myfyrio.
Mewn addysg grefyddol, bydd y dysgwyr yn datblygu sgiliau meddwl trwy amrywiaeth o weithgareddau. Bydd y dysgwyr yn gofyn cwestiynau sylfaenol sy'n codi trwy brofiad dynol, y byd ac agweddau ar grefydd. Byddant yn archwilio ac yn gwneud cysylltiadau rhwng y credoau, dysgeidiaethau ac ymarferion crefyddol a astudiant. Byddant yn cynllunio ymchwiliadau trwy gasglu a defnyddio ystod o ffynonellau crefyddol ac anghrefyddol ac yn eu defnyddio i werthuso a chyfiawnhau eu hymatebion personol. Byddant yn defnyddio amrywiaeth o dechnegau datrys problemau beirniadol a chreadigol er mwyn datblygu syniadau ac archwilio a herio dehongliadau, rhagdybiaethau a phosibiliadau.
Datblygu cyfathrebu
Bydd y dysgwyr yn datblygu eu sgiliau cyfathrebu ar draws y cwricwlwm trwy'r sgiliau llafaredd, darllen, ysgrifennu a chyfathrebu ehangach
Mewn addysg grefyddol, bydd y dysgwyr yn datblygu sgiliau llafaredd, darllen, ysgrifennu a chyfathrebu ehangach trwy amrywiaeth o weithgareddau. Bydd y dysgwyr yn gofyn cwestiynau, trosglwyddo syniadau ac yn mynegi eu teimladau a'u barn eu hunain gan ddefnyddio gwahanol ffurfiau fel y bo'n briodol i'r gynulleidfa a phwrpas y gweithgaredd. Byddant yn gwrando'n ofalus ar eraill, gan nodi cryfderau a gwendidau safbwyntiau neu drywydd rhesymu. Byddant yn defnyddio gwahanol strategaethau darllen/ysgrifennu yn dibynnu ar yr ymchwiliad neu'r gweithgaredd dan sylw ac yn dangos dealltwriaeth gynyddol o iaith grefyddol/symbolaidd gyda mwy o ymwybyddiaeth o'r amrywiaeth o ddehongliadau posib.
Datblygu TGCh
Bydd y dysgwyr yn datblygu eu sgiliau TGCh ar draws y cwricwlwm trwy ddarganfod, datblygu, creu a chyflwyno gwybodaeth a syniadau a thrwy ddefnyddio ystod eang o offer a meddalwedd.
Mewn addysg grefyddol, bydd y dysgwyr yn defnyddio TGCh: i gyfathrebu a rhannu gwybodaeth (gan ddefnyddio, er enghraifft, e-bost a PowerPoint); i gyflwyno gwybodaeth mewn amryw o fformatau gan ddefnyddio prosesu geiriau a graffeg; i ganfod a datblygu gwybodaeth ar y rhyngrwyd a ffynonellau eraill gan gynnwys CD-ROMau, ac ati; i gynorthwyo cyflwyniadau llafar a chreu syniadau a strategaethau i wella effaith eu gwaith
Datblygu rhif
Bydd y dysgwyr yn datblygu eu sgiliau rhif ar draws y cwricwlwm trwy ddefnyddio gwybodaeth fathemategol, cyfrifo, a dehongli a chyflwyno casgliadau.
Mewn addysg grefyddol, bydd y dysgwyr yn datblygu sgiliau cymhwyso rhif trwy ddefnyddio gwybodaeth fel trefnu digwyddiadau mewn amser, mesur amser trwy galendrau crefyddau amrywiol, gan gyfrifo canrannau degymiad ac ystyried arwyddocâd rhif o fewn crefyddau. Byddant yn dehongli deilliannau/data ac yn cyflwyno casgliadau o holiaduron, graffiau a ffurfiau eraill o ddata er mwyn tynnu casgliadau a gofyn cwestiynau pellach am faterion sy'n ymwneud â chrefydd a'r byd.
Dysgu ar draws y cwricwlwm
Yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3, dylid rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr adeiladu ar y profiadau a gafaelwyd yn ystod y Cyfnod Sylfaen, a hybu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o Gymru, eu datblygiad personol a chymdeithasol a'u lles, a'u hymwybyddiaeth o'r byd gwaith.
Yng Nghyfnod Allweddol 4 ac Ôl-16, dylai gwybodaeth a dealltwriaeth y dysgwyr gael eu datblygu a'u cymhwyso o fewn cyd-destunau eu llwybrau 14-19 unigol gan gynnwys y Craidd Dysgu.
Y Cwricwlwm Cymreig (7-14) a Chymru, Ewrop a'r Byd (14-19)
Dylai dysgwyr 7-14 oed gael cyfleoedd i ddatblygu a chymhwyso gwybodaeth a dealltwriaeth o nodweddion diwylliannol, economaidd, amgylcheddol, hanesyddol ac ieithyddol Cymru. Dylai dysgwyr 14-19 oed gael cyfleoedd i fod yn weithredol wrth ddeall agweddau gwleidyddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol ar Gymru fel rhan o'r byd cyfan. Ar gyfer dysgwyr 14-19 oed, mae'n rhan o hawl y Craidd Dysgu ac yn ofyniad yng Nghyfnod Allweddol 4 ac Ôl-16.
Bydd addysg grefyddol yn cyfrannu at y Cwricwlwm Cymreig trwy alluogi'r dysgwyr i werthfawrogi arwyddocâd, gwerth ac effaith treftadaeth Gristnogol gyfoethog a chyfansoddiad aml-ffydd deinamig Cymru yn y gorffennol a'r presennol. Trwy ddefnyddio ystod o adnoddau ysgogol o'r gymdogaeth caiff y dysgwyr eu herio i ofyn cwestiynau sylfaenol am ystyr a phwrpas bywyd ac arwyddocâd ac effaith crefydd a meddwl crefyddol ar gymdeithas yr unfed ganrif ar hugain. Bydd mewnwelediad o'r fath yn cefnogi cydlyniad cymdeithasol, ymwybyddiaeth ddiwylliannol/crefyddol a chydweithrediad o fewn y gymdeithas a chymunedau unigol
Bydd addysg grefyddol yn cyfrannu at Gymru, Ewrop a'r Byd drwy ofyn cwestiynau heriol o safbwyntiau crefyddol ac anghrefyddol: cwestiynau sy'n ymwneud â gwneud penderfyniadau gwleidyddol, cam-fanteisio a chyfiawnder, rhyddid a chyfrifoldeb cymdeithasol, materion hawliau dynol, ffyniant economaidd a chyfrifoldeb Cymru am ei dinasyddion ei hun a'r rheiny mewn mannau eraill o'r byd, a'i pherthynas â hwy. Bydd addysg grefyddol yn helpu dysgwyr i ddatblygu agweddau cadarnhaol i'w helpu i ymdrin â materion moesol a chrefyddol heriol yn sensitif, gan ddarparu tir cyffredin ar gyfer cydweithio ac archwilio gwerthoedd a chredoau sy'n gyffredin i Gymru, Ewrop a'r Byd
Addysg bersonol a chymdeithasol
Dylai dysgwyr gael cyfleoedd i hyrwyddo eu hiechyd a'u lles emosiynol a'u datblygiad moesol ac ysbrydol; bod yn ddinasyddion gweithgar a hybu datblygiad cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang; a pharatoi ar gyfer dysgu gydol oes. Ar gyfer dysgwyr 14-19 oed, mae'n rhan o hawl y Craidd Dysgu ac yn ofyniad yng Nghyfnod Allweddol 4 ac Ôl-16.
Bydd addysg grefyddol yn cyfrannu at addysg bersonol a chymdeithasol drwy archwilio'r dimensiynau ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol. Bydd y dysgwyr yn datblygu dealltwriaeth amrywiaeth o grefyddau'r byd gan ddatblygu parch tuag atynt hefyd. Byddant yn archwilio sut y mae crefydd yn effeithio ar y penderfyniadau a wneir, a'r ffyrdd o fyw a fabwysiedir gan unigolion a chymdeithas mewn gwahanol ddiwylliannau o amgylch y byd. Bydd y dysgwyr yn canolbwyntio ar awydd llawer o grefyddau i feithrin gwerthoedd a dyheadau megis cydraddoldeb, cyfiawnder, cyfrifoldeb, heddwch a moesoldeb drwy bethau megis gweithredu cymdeithasol, cynaliadwyedd a dinasyddiaeth fydeang. Anogir y dysgwyr hefyd i gwestiynu gwerthoedd a dyheadau eu bywydau eu hunain, bywydau eraill a'r gymdeithas.
Gyrfaoedd a'r byd gwaith
Dylai dysgwyr 11-19 oed gael cyfleoedd i ddatblygu eu hymwybyddiaeth o'r maes gyrfaoedd a'r byd gwaith a sut mae eu hastudiaethau'n cyfrannu at baratoi ar gyfer bywyd gwaith. Ar gyfer dysgwyr 14-19 oed, mae'n rhan o hawl y Craidd Dysgu ac yn ofyniad yng Nghyfnod Allweddol 4 ac Ôl-16.
Bydd addysg grefyddol yn cyfrannu at yrfaoedd a'r byd gwaith drwy ddarparu mewnwelediad i'r ffordd y mae crefydd yn dylanwadu ar gredinwyr yn eu dewis o yrfa a'r safonau y disgwylir ganddynt yn eu bywyd gwaith. Gellir gwella cydlyniad cymunedol a dealltwriaeth yn y gweithle drwy wybodaeth am gredoau ac arferion crefyddol, diwylliannol a moesegol hanfodol (e.e. arferion gwisg, diwrnodau gŵyl, defod marwolaeth, ac ati). Bydd yr wybodaeth hon yn hanfodol ar gyfer galwedigaethau megis meddygaeth, gwleidyddiaeth, y gyfraith, addysg, ynghyd â galwedigaethau sy'n ymwneud â theithio, adloniant, y cyfryngau a'r lluoedd arfog, ac mewn gwirionedd ar gyfer pob dinesydd yn ein byd amlddiwylliannol.
Wrth geisio creu cymdeithas gyfiawn a theg, gall y dysgwyr werthuso amrywiaeth o safbwyntiau crefyddol a moesol sy'n ymwneud â, er enghraifft hawliau cyflogaeth, entrepreneuriaeth foesegol, moesegau busnes, benthyg arian, a hyrwyddo prosesau ac arferion diwydiannol gwyrdd cynaliadwy. Yn ogystal, bydd addysg grefyddol yn cyfrannu at amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy megis mewnwelediad, datrys problemau, meddwl yn feirniadol, y gallu i werthuso gwahanol safbwyntiau a phwyso a mesur y canlyniadau, ac ati. Bydd y sgiliau hyn i gyd yn graidd i lawer o'r rhinweddau sydd eu hangen yn y byd gwaith heddiw sy'n heriol, cymhleth ac yn newid yn barhaus.
Agweddau ar addysg grefyddol
Mae datblygiad ysbrydol, moesol, diwylliannol, meddyliol a chorfforol yn agweddau hanfodol ar addysg grefyddol a dylid eu diffinio'n eglur.
Yn y maes llafur cytûn hwn
mae'r ysbrydol yn canolbwyntio ar:
- chwilio am ystyr, sy'n mynd y tu hwnt i agweddau corfforol a materol bywyd, ac archwilio ymatebion i Dduw/Realiti Terfynol a gwirionedd (y byd);
- hanfod yr hyn y mae'n ei olygu i fod yn ddynol, sy'n archwilio gwerthoedd cyffredin, hunaniaeth, gwerth personol, creadigrwydd, dychymyg, cariad, ffyddlondeb a daioni (profiad dynol);
- twf 'bywyd mewnol', sy'n canolbwyntio ar ddatblygu chwilfrydedd deallus, meddwl agored, emosiwn, myfyrio, greddf a chredoau, gan gynnwys perthynas â Duw (chwilio am ystyr).
mae'r moesol yn canolbwyntio ar:
- archwilio gwerthoedd ac agweddau cyffredin, sy'n tynnu sylw at wreiddiau crefyddol/diwylliannol a gweithgareddau cymdeithasol/gwleidyddol cyfoes sy'n dylanwadu ar ein dealltwriaeth ac yn ei herio (y byd);
- y gallu sydd gan fodau dynol i wneud dewisiadau moesol da neu ddrwg, sy'n canolbwyntio ar ddeall codau moesol, perthnasoedd, cyfrifoldeb, parchu amrywiaeth, temtasiwn, pŵer hunanaberth a chariad (profiad dynol);
- ymateb personol i faterion moesol, sy'n canolbwyntio ar ddatblygu unplygrwydd personol, cydwybod, herio normau personol/cymdeithasol a 'dysgu beth sy'n haeddu parch a beth sydd ddim' (Hans Küng) (chwilio am ystyr);
mae'r diwylliannol yn canolbwyntio ar:
- y ffyrdd y mae diwylliant/crefydd wedi dylanwadu ar hanes lleol, hanes y byd a phrofiad dynol mewn ffyrdd cadarnhaol a negyddol, gan ymchwilio i'r gwahaniaeth rhwng safbwyntiau swyddogol a phersonol (y byd);
- yr angen i fodau dynol gael synnwyr o hunaniaeth ddiwylliannol, perthyn a phwrpas, a fu'n amlwg yng Nghymru trwy'r ffordd y mae crefydd a diwylliant wedi cydblethu (profiad dynol);
- ymateb personol disgyblion i Gymru, Ewrop a'r Byd amlddiwylliannol/ aml-ffydd (chwilio am ystyr);
mae'r meddyliol yn canolbwyntio ar:
- heriau deallusol cynnal ymchwil, gwerthuso tystiolaeth, meddwl yn feirniadol, cyfiawnhau safbwyntiau a theorïau, datblygu a dehongli esboniadau eraill (y byd);
- y gallu i wahaniaethu, herio rhagfarn a barnu gwerth a'r gallu i syntheseiddio a dadansoddi gwybodaeth gymhleth sy'n aml yn gwrthddweud ei hunan (profiad dynol);
- eglurder meddwl, myfyrdod, meddwl sythweledol, dealltwriaeth symbolaidd a sgiliau dehongli (chwilio am ystyr).
mae'r corfforol yn canolbwyntio ar:
- weithgaredd corfforol sy'n ymateb yn ymarferol i anghenion eraill ac yn arddangos gweithrediad (cymdeithasol) cyfrifol a ffordd gadarnhaol o fyw (y byd);
- gweithgareddau corfforol sy'n greadigol, yn ymatebol ac yn cynorthwyo pobl i gysylltu ac ymdrin â heriau bywyd, er enghraifft defod, dawns grefyddol a gweddi (profiad dynol);
- gweithgareddau corfforol sy'n hyrwyddo lles a chydbwysedd, yn helpu i egluro prosesau meddwl, ac yn ysbrydoli, er enghraifft myfyrdod, llonyddwch a ioga (chwilio am ystyr).
Dilyniant mewn addysg grefyddol
Addysg grefyddol yn y Cyfnod Sylfaen
O fewn y Cyfnod Sylfaen bydd plant yn chwilfrydig ac wrth reswm yn gofyn cwestiynau am fywyd a'r byd o'u cwmpas. Bydd y plant yn ymddiddori yn eu hunain, eu teuluoedd, pobl eraill a rhyfeddodau'r byd. Bydd y diddordeb hwn yn ymwneud yn uniongyrchol â'u datblygiad ysbrydol, moesol a diwylliannol a gellir ei feithrin trwy brofiadau sy'n gysylltiedig â 'Phobl, credoau a chwestiynau'. Bydd y diddordeb a'r brwdfrydedd naturiol hwn yn golygu y bydd plant eisiau cael, yn ystod y Cyfnod Sylfaen, sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth briodol sy'n darparu'r sail hanfodol ar gyfer addysg grefyddol yng Nghyfnod Allweddol 2. Trwy weithgareddau ymarferol, integredig sy'n cynnal diddordeb y plant, gallant ddysgu mwy am eu hunain, pobl eraill a'r byd o'u hamgylch a datblygu dealltwriaeth o dreftadaeth ddiwylliannol a chrefyddol gyfoethog Cymru. Bydd gwybodaeth am eu treftadaeth a'u traddodiadau eu hunain (trwy storïau a chwarae rôl) yn eu galluogi i ddeall mwy am eu hunain ac yn eu cynorthwyo i ddatblygu dealltwriaeth o safbwyntiau eraill, sydd hefyd yn datblygu parch ac agweddau cyfrifol. Trwy chwarae bydd plant yn datblygu eu syniadau, barnau a theimladau gyda dychymyg, creadigrwydd a sensitifrwydd a all helpu lliwio eu barn o'r byd, eu gobeithion a'u breuddwydion. Wrth fynegi eu teimladau a'u barnau eu hunain gallant adnabod sut y gall eu gweithrediadau effeithio ar eraill, cydnabod bod safbwyntiau pobl eraill yn wahanol i'w safbwynt nhw a myfyrio ar eu persbectifau eu hunain ar fywyd, a'u haddasu fel y bo'n briodol.
Addysg grefyddol yng Nghyfnod Allweddol 2
Yng Nghyfnod Allweddol 2, bydd addysg grefyddol yn meithrin diddordeb a rhyfeddod dysgwyr o'r byd a'r profiad dynol. Mae hyn yn eu hysgogi i ofyn ac ymchwilio cwestiynau dwfn sy'n ymwneud â'u profiadau personol, crefydd a bywyd yn gyffredinol, gan felly adeiladu ar y sgiliau, yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth a gaffaelwyd yn ystod y Cyfnod Sylfaen. Trwy weithgareddau ysgogol ymarferol ac archwilio crefydd yn eu cymdogaeth yng Nghymru, ym Mhrydain ac yn y byd ehangach, bydd y dysgwyr yn datblygu sgiliau ac yn casglu gwybodaeth a fydd yn eu cynorthwyo i feddwl yn greadigol am gwestiynau crefyddol a moesol sylfaenol a rhannu syniadau trwy drafod. Bydd gwybodaeth am grefydd(au) a chydnabod pwysigrwydd crefydd ym mywydau pobl yn helpu datblygu goddefgarwch a pharch, a dylai helpu meithrin agweddau cyfrifol mewn cymdeithas leol a byd-eang. Trwy gyfranogi'n weithredol bydd y dysgwyr yn archwilio dimensiynau ysbrydol a moesol i'w cynorthwyo wrth iddynt chwilio am ystyr a phwrpas. Bydd y dysgwyr yn mynegi eu teimladau a'u barnau eu hunain, adnabod sut y gall eu gweithrediadau effeithio ar eraill, cydnabod bod safbwyntiau pobl eraill yn wahanol i'w safbwynt nhw a myfyrio ar eu persbectifau eu hunain ar fywyd, a'u haddasu fel y bo'n briodol.
Addysg grefyddol yng Nghyfnod Allweddol 3
Yng Nghyfnod Allweddol 3, bydd addysg grefyddol yn ysgogi dysgwyr i feddwl drostynt eu hunain er mwyn datblygu dealltwriaeth o fywyd, y byd, a chwilio am ystyr gan felly adeiladu ar y sgiliau, yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth a gaffaelwyd yng Nghyfnod Allweddol 2. Trwy wneud gweithgareddau ymarferol, cynnal trafodaethau ysgogol ac ymchwiliadau personol i grefydd yn eu cymdogaeth yng Nghymru, ym Mhrydain ac yn fyd-eang, bydd y dysgwyr yn gallu cymhwyso a gwerthuso eu mewnwelediadau ynghylch cwestiynau crefyddol a moesol sylfaenol; trwy wneud hynny byddant yn cael cyfleoedd i feddwl yn greadigol a gofyn cwestiynau dyfnach a mwy heriol. Bydd gwybodaeth am grefydd(au) ac effaith crefydd a syniadau crefyddol yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang yn meithrin mwy o ddealltwriaeth o arwyddocâd crefydd a'i phwysigrwydd o ran hybu cydlyniad cymdeithasol, sefydlogrwydd, dinasyddiaeth fyd-eang a chynaliadwyedd. Trwy brofiadau ysgogol bydd y dysgwyr yn myfyrio ar ddimensiynau ysbrydol a moesol bywyd, gan gydnabod pwysigrwydd yr anfaterol i bobl grefyddol ac anghrefyddol. Bydd y dysgwyr yn cael cyfleoedd i fynegi a chyfiawnhau eu teimladau a'u barnau eu hunain wrth iddynt chwilio am ystyr gyda digon o symbyliadau i ysbrydoli a hybu parodrwydd i fod yn agored i syniadau newydd.
Addysg grefyddol yng Nghyfnod Allweddol 4 ac Ôl-16
Yng Nghyfnod Allweddol 4 ac Ôl-16, bydd addysg grefyddol yn ysgogi dysgwyr i ystyried cwestiynau a materion sylfaenol sy'n ymwneud â'u hanghenion unigol, yn ateb galwadau'r byd modern ac yn ysgogi ac yn herio eu prosesau meddwl eu hunain ac eraill, gan felly adeiladu ar y sgiliau, yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth a gaffaelwyd yn y cyfnodau allweddol blaenorol. Trwy gyfranogi a chymryd rhan yn weithredol, cynnal dadleuon heriol ac ymchwilio'n fanwl i grefydd a syniadau crefyddol/anghrefyddol sy'n amlwg yn eu cymdogaeth yng Nghymru, ym Mhrydain ac yn fyd-eang, dylai'r dysgwyr ddefnyddio a chymhwyso eu gwybodaeth er mwyn cyflwyno damcaniaethau a chreu rhagdybiaethau, gan felly ysgogi cwestiynau dyfnach a mwy heriol. Bydd gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl a helaeth o grefydd a syniadau crefyddol yn meithrin sensitifrwydd a pharch diwylliannol, gwerthfawrogiad o amrywiaeth, mwy o gydlyniad cymdeithasol a chyfrifoldeb yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang. Bydd addysg grefyddol yn crisialu datblygiad ysbrydol a moesol, a gall ysgogi ymatebion personol llawn mynegiant pan fydd y dysgwyr yn darganfod ystod eang o safbwyntiau a gwerthoedd y byd, y tu hwnt i'r cyffredin a'r materol, a phan fyddant yn cael eu goleuo gan gysylltiadau neu ymwybyddiaeth sydd newydd eu deall. Trwy eu gwaith archwilio dylai'r dysgwyr ddechrau deall bod y casgliadau a wneir ynghylch cwestiynau sylfaenol a phersonol yn rhannol, yn amhendant ac yn agored i wahanol ddehongliadau.
Addysg grefyddol yn y Cyfnod Sylfaen
Gofynion Statudol
Ni fydd cyflwyno'r Cyfnod Sylfaen yn effeithio ar ddyletswydd statudol ysgolion a gynhelir i ddarparu addysg grefyddol ar gyfer pob plentyn cofrestredig yn yr ysgolion hynny, gan gynnwys y rhai mewn dosbarthiadau derbyn ond heb gynnwys plant mewn ysgolion a dosbarthiadau meithrin. Mae hwn yn amodol ar hawliau rhieni/gwarcheidwaid i dynnu eu plentyn (plant) allan o wersi addysg grefyddol. Bydd cynnwys yr addysg grefyddol yn cael ei bennu yn y maes llafur cytûn hwn trwy archwilio Pobl, credoau a chwestiynau. Wrth gynllunio darpariaeth y Cyfnod Sylfaen, dylai ysgolion ystyried y Fframwaith Cyfnod Sylfaen a'r maes llafur cytûn hwn.
Pobl, credoau a chwestiynau
Drwy archwilio Pobl, credoau a chwestiynau, bydd y plant yn naturiol yn datblygu sgiliau ac yn gwneud cysylltiadau gyda phob Maes Dysgu yn y Cyfnod Sylfaen:
- Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Ddiwylliannol
- Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu
- Datblygiad Mathemategol
- Datblygu'r Gymraeg
- Gwybodaeth a Dealltwriaeth o'r Bryd
- Datblygiad Corfforol
- Datblygiad Creadigol
Mae sgiliau penodol a glustnodir yn y maes llafur cytûn hwn yn ymwneud â Gwybodaeth a Dealltwriaeth o'r Byd, a Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Ddiwylliannol. Mae'n bwysig gwneud cysylltiadau â phob Maes Dysgu arall yn y Cyfnod Sylfaen pryd bynnag y bo'n bosibl er mwyn sicrhau bod y plant yn cael profiad dysgu cyfannol.
Pobl, credoau a chwestiynau ar gyfer lleoliadau meithrin
Bydd y Cyfnod Sylfaen yn hyrwyddo datblygiad ysbrydol, moesol, diwylliannol, meddyliol a chorfforol y plant ar draws pob Maes Dysgu gan gynnwys Pobl, credoau a chwestiynau.
Mae Pobl, credoau a chwestiynau yn rhoi hawl anstatudol i blant mewn ysgolion meithrin, dosbarthiadau a lleoliadau meithrin fel sail i ddatblygu darpariaeth statudol ar gyfer plant yng ngweddill y Cyfnod Sylfaen. Bydd y plant yn canolbwyntio ar gael mynediad i storïau diwylliannol a thraddodiadol a phrofiadau ymarferol sy'n ymwneud ag ymdrech ysbrydol, moesol a diwylliannol.
Pobl, credoau a chwestiynau ar gyfer gweddill y Cyfnod Sylfaen
Drwy ddefnyddio'r adran sy'n amlinellu Pobl, credoau a chwestiynau o fewn addysg grefyddol statudol, sy'n cynnwys dosbarthiadau derbyn a'r rhai hyd at Gyfnod Allweddol 2, bydd y plant yn canolbwyntio ar y ffordd y mae storïau a gweithgareddau crefyddol penodol yn adeiladu ar brofiad ysbrydol, moesol, diwylliannol, meddyliol a chorfforol blaenorol.
Drwy ddatblygu eu sgiliau ymholi, ymchwilio ac arbrofi ar draws pob Maes Dysgu yn y Cyfnod Sylfaen, dylai'r plant gael cyfle i baratoi ar gyfer Cyfnod Allweddol 2.
Pobl, credoau a chwestiynau
Sgiliau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth o'r Byd
Er mwyn cael profiad o'r byd cyfarwydd, trwy ymchwilio'r amgylchedd dan do ac yn yr awyr agored, dylid annog plant i fod yn chwilfrydig a darganfod trwy:
- archwilio ac arbrofi gyda chyfleoedd dysgu newydd, gan gynnwys chwarae rôl, ymweld â mannau arbennig/crefyddol, gwneud a defnyddio arteffactau a bwydydd a TGCh.
- meddwl am gwestiynau amdanynt eu hunain, pobl eraill a phethau byw, gofyn y cwestiynau hynny a gwrando ar yr atebion.
- ymateb i'w syniadau eu hunain a syniadau pobl eraill, gan gynnwys eu gobeithion, breuddwydion, barn, rheolau a'r ffyrdd y maent yn ymdrin ag adegau hapus a thrist.
- bod yn ymwybodol o gyflawniadau pobl, gan gynnwys pobl grefyddol dylanwadol yn y gorffennol a'r presennol, a'r 'syniadau mawr' sydd wedi llunio'r byd.
- ymchwilio ffynonellau a materion sy'n codi drwy storïau, llyfrau cysegr-lân, diwrnodau gŵyl, dathliadau a defodau newid byd.
- cymharu ac adnabod nodweddion tebyg a gwahanol mewn hunaniaeth, ffordd o fyw, cymuned a thraddodiad.
- meddwl yn greadigol ac yn ddychmygus ynglŷn â chwestiynau dynol a chrefyddol pwysig.
- disgrifio'r hyn a ganfuwyd ganddynt am Bobl, credoau a chwestiynau a chynnig esboniadau syml.
- mynegi eu barnau a'u teimladau eu hunain a gwneud penderfyniadau gan ystyried safbwyntiau pobl eraill.
- defnyddio a dod yn gyfarwydd â geiriau ac ymadroddion cyffredin ar gyfer eu byd a'r ffyrdd y mae pobl yn mynegi syniadau, credoau ac ystyr.
Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Ddiwylliannol
Datblygiad personol
Dylai plant gael cyfleoedd i:
- fynegi a chyfleu gwahanol deimladau ac emosiynau - rhai eu hunain a rhai pobl eraill.
- dangos chwilfrydedd a datblygu agweddau cadarnhaol tuag at brofiadau newydd a dysgu, yn enwedig wrth ddysgu am bobl o grefyddau a diwylliannau eraill.
- meddwl a dysgu yn annibynnol gan ddefnyddio syniadau a strategaethau sydd wedi'u hystyried yn drylwyr.
- gwerthfawrogi dysgu, llwyddiant a chyflawniadau eu hunain a phobl eraill.
Datblygiad cymdeithasol
Dylai plant gael cyfleoedd i:
- fod yn ymwybodol o anghenion pobl eraill a'u parchu.
- cymryd cyfrifoldeb am eu gweithredoedd eu hunain.
- ystyried canlyniadau geiriau a gweithredoedd arnynt hwy eu hunain ac ar bobl eraill.
- datblygu dealltwriaeth o'r hyn sy'n deg ac yn annheg gan ddangos parch at ei gilydd.
- gwerthfawrogi ffrindiau a theuluoedd a dangos gofal ac ystyriaeth.
- datblygu hunanddelwedd gadarnhaol ac ymdeimlad o berthyn fel rhan o wahanol gymunedau a deall eu hunaniaeth eu hunain.
- datblygu ymwybyddiaeth o wahanol ddiwylliannau, a gwahanol anghenion, safbwyntiau a chredoau pobl eraill yn eu diwylliant eu hunain ac mewn diwylliannau eraill.
- trin pobl o bob cefndir diwylliannol mewn ffordd sy'n dangos parch a dealltwriaeth.
- datblygu dealltwriaeth o'r amrywiaeth o rannau y mae pobl yn eu chwarae mewn gwahanol grwpiau a chymunedau crefyddo.
- dechrau cwestiynu stereoteipio.
Datblygiad moesol ac ysbrydol
Dylai plant gael cyfleoedd i:
- ymateb i syniadau a chwestiynau yn frwdfrydig, yn sensitif, yn greadigol, ac yn reddfo.
- nodi'r hyn sy'n dda ac yn ddrwg, yn iawn ac yn anghyfiawn, yn deg ac yn annheg, yn ofalgar ac yn anystyriol.
- nodi a myfyrio ar y penderfyniadau a wnaed mewn storïau a sefyllfaoedd, neu yn bersonol, gan awgrymu ymatebion eraill, gan gynnwys y rhai o safbwyntiau crefyddol.
- ymateb yn bersonol i sefyllfaoedd moesol dychmygol syml, gan eu hystyried o safbwyntiau crefyddol a rhoi rhesymau am y penderfyniadau a wneir.
- profi adegau cyffrous, rhyfeddol, ysbrydoledig, creadigol a/neu dawel a mynegi syniadau a theimladau ynglŷn â'r adegau hyn yn greadigol, gan esbonio pam eu bod yn bwysig.
- ystyried pam y mae pobl, gan gynnwys pobl grefyddol, yn gwerthfawrogi ac yn ceisio adegau o greadigrwydd, ysbrydoliaeth, parchedig ofn a rhyfeddod, heddwch a thawelwch a datguddiad.
- siarad am y dewisiadau sydd ar gael i unigolion a thrafod a yw'r dewisiadau sydd ar gael yn gwneud penderfyniad yn haws neu'n fwy cymhleth.
- gofyn cwestiynau ynglŷn â'r hyn sy'n bwysig mewn bywyd o safbwynt personol ac o safbwynt pobl eraill.
- trosglwyddo syniadau, gwerthoedd a chredoau amdanynt eu hunain, eraill a'r byd.
Lles
Dylai plant gael cyfleoedd i:
- werthfawrogi a chyfrannu at eu lles eu hunain a lles eraill.
- bod yn ymwybodol o'u teimladau a'u safbwyntiau eu hunain a datblygu'r gallu i'w mynegi mewn ffordd gytbwys a phriodol.
- deall y berthynas rhwng teimladau, credoau a gweithredoedd.
- deall bod gan bobl eraill deimladau a chredoau sy'n effeithio ar y ffordd y maent yn meddwl ac yn ymddwyn.
- dangos gofal, parch a hoffter tuag at blant eraill, oedolion a phethau byw eraill a'u hamgylchedd.
- datblygu diddordeb cynyddol yn y byd o'u hamgylch a datblygu dealltwriaeth a chyfrifoldeb am bethau byw a'u hamgylchedd.
Ystod
Drwy gydol y Cyfnod Sylfaen dylai plant gael cyfleoedd i:
- archwilio ystod eang o symbyliadau.
- defnyddio adnoddau o amrywiaeth o gyddestunau, gan gynnwys ffurfiau rhyngweithiol.
- ymchwilio amgylcheddau dysgu dan do ac yn yr awyr agored, gan gynnwys amgylchiadau naturiol wrth iddynt godi.
- cymryd rhan mewn gwahanol fathau o chwarae ac ystod o weithgareddau wedi'u cynllunio, gan gynnwys rhai a gychwynnir gan y plentyn a rhai sy'n adeiladu ar brofiadau blaenorol.
- gweithio ar eu pennau eu hunain ac mewn grwpiau bach a mawr.
Ystod ar gyfer lleoliadau meithrin
Ceir mwy o fanylion am yr ystod yn Atodiad 2.
Dylai plant gael cyfleoedd (trwy storïau, gweithgareddau a phrofiadau) i:
- gael mewnwelediad i hunaniaeth, ffordd o fyw a thraddodiadau ysbrydol, moesol a diwylliannol hwy eu hunain a phobl eraill.
- ystyried dylanwad agweddau ysbrydol, moesol a diwylliannol ar fywyd sydd wedi rhoi arweiniad i fywydau pobl, yn y gorffennol a'r presennol, yn lleol ac yng Nghymru.
- gofyn cwestiynau am eu credoau, eu gweithredoedd a'u safbwyntiau hwy eu hunain a phobl eraill.
- archwilio a mynegi ystyr mewn ffyrdd creadigol (drwy gelf, dawns, defod, arteffactau).
- rhannu eu hymatebion personol i gwestiynau personol, ysbrydol a moesol pwysig.
- dangos cyfrifoldeb, gofal a/neu bryder am bethau byw ac am y byd naturiol.
Ystod ar gyfer gweddill y Cyfnod Sylfaen
Ceir mwy o fanylion am yr ystod yn Atodiad 2.
Dylai plant gael cyfleoedd (trwy storïau, gweithgareddau a phofiadau) i:
- gael mewnwelediad i grefydd, pobl grefyddol ac agweddau crefyddol ar fywyd.
- archwilio sut y mae crefydd wedi dylanwadu ar fywydau pobl a rhoi arweiniad iddynt, yn y gorffennol a'r presennol, gan gynnwys pwyslais crefydd ar ysbrydolrwydd a phrofiad crefyddol, yng Nghymru a'r byd ehangach.
- gofyn cwestiynau ynglŷn â chredoau, gwerthoedd a gweithredoedd sy'n deillio o archwilio.
- ymchwilio a mynegi ystyr (gan gynnwys ystyr crefyddol) drwy arwyddion, symbolau, arteffactau a delweddaeth.
- mynegi ymatebion personol i gwestiynau personol, crefyddol a moesol.
- archwilio ein cyfrifoldeb ni a chyfrifoldeb crefydd am bethau byw ac am y byd naturiol
- gofyn ac archwilio cwestiynau mwy cymhleth (gan gynnwys cwestiynau personol, crefyddol, ysbrydol a moesol) am y byd, profiad dynol, ac agweddau ar grefydd.
Rhaglen Astudio Cyfnod Allweddol 2
Dylai'r disgyblion gael cyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau, eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o Gristnogaeth a dwy brif grefydd arall. Gellir hefyd cynnwys agweddau o grefyddau eraill, sydd yn briodol i destunau neu themâu o bryd i'w gilydd. Defnyddir y rhain i ofyn ac ymateb i gwestiynau dynol a chrefyddol sylfaenol. Dylid cyflawni hyn trwy ryngberthynas tri sgil craidd y pwnc.
- Ymdrin â'r cwestiynau sylfaenol - cwestiynau dynol a chrefyddol sy'n canolbwyntio ar chwilio am ystyr, arwyddocâd a gwerth mewn bywyd yw cwestiynau sylfaenol. Mae ganddynt ddyfnder a dwyster sy'n sail i unrhyw agwedd ar astudiaeth mewn addysg grefyddol.
- Archwilio credoau, dysgeidiaethau ac arfer(ion) crefyddol - mae hyn yn cynnwys archwilio storïau crefyddol, testunau cysegredig, ffordd o fyw, defodau a symbolaeth, sy'n darparu mewnwelediad i'r cwestiynau sylfaenol hyn ac yn codi cwestiynau crefyddol a dynol pellach.
- Mynegi ymatebion personol - mae hyn yn cynnwys cysylltu'r materion sy'n codi yn ystod astudiaethau â phrofiadau'r disgyblion eu hunain a chaniatáu datblygu ymatebion personol i gredoau, dysgeidiaethau ac arfer(ion) a chwestiynau sylfaenol, a'u gwerthuso.
Mae'r sgiliau craidd hyn yn cyd-blethu a dylid cymhwyso'r tri ohonynt yn briodol i'r ystod a astudir.
Sgiliau
Ymdrin â'r cwestiynau sylfaenol
Dylid rhoi cyfleoedd i'r disgyblion:
- ofyn, trafod ac ymateb i gwestiynau sylfaenol sy'n codi trwy eu profiadau eu hunain, y byd o'u cwmpas ac agweddau ar grefydd.
- archwilio ystod o dystiolaeth o ffynonellau crefyddol ac anghrefyddol, gan gynnwys disgyblaethau eraill, er mwyn ystyried y materion sy'n codi.
- defnyddio tystiolaeth o ystod o ffynonellau yn effeithiol er mwyn cyflwyno ac ategu dadleuon a barnau.
- datblygu esboniadau eraill ac awgrymu posibiliadau newydd.
- gwneud ymchwiliadau gan gadw meddwl agored a bod yn barod i dderbyn her yn dilyn gwybodaeth neu dystiolaeth newydd.
Ystod
Dylai disgyblion gael cyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau drwy ganolbwyntio ar y cyd-destunau canlynol i'w hastudio. Ni ddylid ystyried y rhain fel pynciau ar wahân ond yn hytrach fel meysydd astudio sydd wedi'u rhyng-gysylltu ac sy'n rhoi cyfleoedd i ddisgyblion ystyried, archwilio, a mynegi syniadau ac ymatebion. Yn ystod cyfnod allweddol cyfan byddai'n rhesymol disgwyl bod pob agwedd ar yr ystod wedi cael ei hastudio.
Dylid rhoi cyfleoedd i'r disgyblion ddatblygu sgiliau trwy ymdrin â:
Y byd
- dechreuad a phwrpas bywyd - sut y mae dehongliadau o ddechreuad y byd a bywyd yn dylanwadu ar farn pobl, e.e. ystyr a gwerthoedd.
- y byd naturiol a phethau byw - sut y mae crefyddau yn dangos pryder a chyfrifoldeb, e.e. stiwardiaeth; cynaliadwyedd.
Archwilio credoau, dysgeidiaethau ac arfer(ion) crefyddol
Dylid rhoi cyfleoedd i'r disgyblion:
- alw i gof, disgrifio a dechrau esbonio'r credoau, dysgeidiaethau ac arferion crefyddol.
- ymchwilio a gwneud cysylltiadau rhwng credoau, dysgeidiaethau ac arferion crefyddol.
- disgrifio a dechrau esbonio effaith crefydd ar fywydau credinwyr.
- nodi'r nodweddion sy'n debyg ac yn wahanol o fewn ac ar draws crefyddau.
- adnabod a dechrau dehongli'r haenau o ystyr/symbolaeth o fewn storïau, defodau, celf, dawns a cherddoriaeth grefyddol.
Mynegi ymatebion personol
Dylid rhoi cyfleoedd i'r disgyblion:
- fynegi a dechrau cyfiawnhau eu teimladau a'u barnau eu hunain mewn gwahanol ffyrdd, e.e. ar lafar, yn ysgrifenedig, a thrwy'r celfyddydau creadigol.
- dangos sut y mae'r hyn y maent wedi'i ddysgu wedi cael effaith ar eu safbwyntiau/syniadau.
- ystyried, gwerthfawrogi, parchu ac empatheiddio â safbwyntiau eraill.
- cydnabod, archwilio a myfyrio ar ochr ysbrydol bywyd.
- defnyddio ystod o iaith grefyddol yn addas.
- defnyddio TGCh a dulliau eraill i gael gwybodaeth a throsglwyddo cysyniadau crefyddol.
Profiad dynol
- hunaniaeth ddynol - y ffyrdd y mae crefyddau yn deall bodolaeth ddynol, e.e. delwedd o Dduw; unigrywiaeth, ysbrydolrwydd.
- ystyr a phwrpas bywyd - sut y mae syniadau, gwerthoedd a chredoau crefyddol yn dylanwadu ar werthoedd/ymatebion pobl i fywyd a marwolaeth.
- perthyn - sut y mae credinwyr lleol, drwy ddathliadau cartref/cymunedol, yn rhannu ymdeimlad o hunaniaeth ac ymrwymiad.
- awdurdod a dylanwad - sut y mae gwahanol fathau o awdurdod, megis testunau cysegredig, arweinwyr a chodau crefyddol, yn arwain ac yn dylanwadu ar fywydau pobl.
- perthnasoedd a chyfrifoldeb - sut y mae pwysigrwydd perthnasoedd personol a chyfrifoldeb tuag at eraill yn cael ei arddangos drwy grefyddau.
- taith bywyd - sut y caiff gwahanol gyfnodau bywyd a digwyddiadau naturiol eu cydnabod, a sut yr ymatebir iddynt a'u dathlu mewn crefydd, e.e. defodau newid byd; profiadau heriol ac ysbrydoledig.
Chwilio am ystyr
- anfaterol / ysbrydol - sut y mae crefyddau yn dangos (drwy storïau, dathliadau a gweithgareddau) bod bywyd yn rhywbeth ysbrydol (mwy na rhywbeth materol/ corfforol).
- gwybodaeth a phrofiad o'r anfaterol / ysbrydol - sut y caiff profiad crefyddol/ ysbrydol ei ddatblygu a'i ddeall, e.e. perthynas â Duw; ffordd o fyw, ymrwymiad, addoliad, gweddi, cerddoriaeth, dawns, myfyrdod ac ympryd.
Dylai'r disgyblion gael cyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau, eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o Gristnogaeth a phrif grefyddau eraill (fel y bo'n briodol) a defnyddio'r rhain i ofyn ac ymateb i gwestiynau dynol a chrefyddol sylfaenol. Dylid cyflawni hyn trwy ryngberthynas tri sgil craidd y pwnc.
- Ymdrin â'r cwestiynau sylfaenol - cwestiynau dynol a chrefyddol sy'n canolbwyntio ar chwilio am ystyr, arwyddocâd a gwerth mewn bywyd yw cwestiynau sylfaenol. Mae ganddynt ddyfnder a dwyster sy'n sail i unrhyw agwedd ar astudiaeth mewn addysg grefyddol.
- Archwilio credoau, dysgeidiaethau ac arfer(ion) crefyddol - mae hyn yn cynnwys archwilio storïau crefyddol, testunau cysegredig, ffordd o fyw, defodau a symbolaeth, sy'n darparu mewnwelediad i'r cwestiynau sylfaenol hyn ac yn codi cwestiynau crefyddol a dynol pellach.
- Mynegi ymatebion personol - mae hyn yn cynnwys cysylltu'r materion sy'n codi yn ystod astudiaethau â phrofiadau'r disgyblion eu hunain a chaniatáu datblygu ymatebion personol i gredoau, dysgeidiaethau ac arfer(ion) a chwestiynau sylfaenol, a'u gwerthuso.
Mae'r sgiliau craidd hyn yn cyd-blethu a dylid cymhwyso'r tri ohonynt yn briodol i'r ystod a astudir.
Sgiliau
Ymdrin â'r cwestiynau sylfaenol
Dylid rhoi cyfleoedd i'r disgbylion:
- ofyn, trafod ac ymateb i gwestiynau sylfaenol sy'n codi trwy eu profiadau eu hunain, y byd o'u cwmpas ac agweddau ar grefydd.
- tynnu ar eu profiadau eu hunain ac ar amrywiaeth o ffynonellau crefyddol ac anghrefyddol gwybodus eraill, gan gynnwys disgyblaethau eraill, er mwyn casglu tystiolaeth a datblygu dadleuon priodol.
- defnyddio technegau datrys problemau, meddwl beirniadol, creadigol a greddfol i archwilio rhagdybiaethau, posibiliadau/ esboniadau.
- ffurfio dadleuon a chyfiawnhau safbwyntiau gan gydnabod bod casgliadau yn rhannol yn unig, yn amhendant ac yn agored i ddehongliadau gwahanol.
Ystod
Dylai disgyblion gael cyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau drwy ganolbwyntio ar y cyd-destunau canlynol i'w hastudio. Ni ddylid ystyried y rhain fel pynciau ar wahân ond yn hytrach fel meysydd astudio sydd wedi'u rhyng-gysylltu ac sy'n rhoi cyfleoedd i ddisgyblion ystyried, archwilio, a mynegi syniadau ac ymatebion. O fewn cyfnod allweddol cyfan byddai'n rhesymol disgwyl bod pob agwedd ar yr ystod wedi cael ei hastudio.
Dylid rhoi cyfleoedd i'r disgyblion ddatblygu sgiliau trwy ymdrin â:
Y byd
- dechreuad a phwrpas bywyd - pam y mae crefyddau yn gwerthfawrogi pethau byw ac yn mabwysiadu safbwyntiau cadarnhaol am y byd naturiol: drwy ddadleuon cyfoes ynglŷn â tharddiad, diben a sancteiddrwydd bywyd, a'r berthynas rhwng y byd naturiol, bodau dynol a Duw.
- y byd naturiol a phethau byw - pam y mae crefyddau unigol yn cydnabod pwysigrwydd cymryd cyfrifoldeb am y byd naturiol a phethau byw a rhoi eu credoau ar waith trwy weithredu, e.e. bywyd fel rhodd; cynaliadwyedd.
Profiad dynol
- hunaniaeth ddynol - pam y mae crefyddau o'r farn bod gan fodau dynol statws unigryw ymysg pethau byw a goblygiadau'r gred hon ar ymddygiad dynol, gwerthoedd, rhyddid, cyfrifoldeb ac ymwybyddiaeth, e.e. delwedd o Dduw.
Rhaglen Astudio Cyfnod Allweddol 3
Archwilio credoau, dysgeidiaethau ac arfer(ion) crefyddol
Dylid rhoi cyfleoedd i'r disgyblion:
- alw i gof, disgrifio ac esbonio'r credoau, dysgeidiaethau ac ymarferion crefyddol a ymchwilir.
- gwneud ac ymchwilio cysylltiadau rhwng credoau, dysgeidiaethau ac arferion crefyddol er mwyn dangos dealltwriaeth o ystod o syniadau/cysyniadau crefyddol.
- disgrifio ac esbonio'r nodweddion tebyg a gwahanol o fewn ac ar draws crefyddau.
- esbonio effaith crefydd ar fywydau unigolion, cymunedau lleol a'r gymdeithas ehangach, gan ddefnyddio ystod o ddehongliadau.
- dadansoddi a dehongli'r haenau o ystyr/ symbolaeth o fewn storïau, defodau, celf, dawns a cherddoriaeth grefyddol.
Mynegi ymatebion personol
Dylid rhoi cyfleoedd i'r disgyblion:
- gyfleu syniadau a chysyniadau crefyddol gan ddefnyddio dadl resymegol, barn bersonol a syniadau mewn amryw o ffyrdd creadigol, e.e. ar lafar, yn ysgrifenedig, a thrwy'r celfyddydau creadigol.
- esbonio sut y gallai'r hyn y maent wedi'i ddysgu am brofiad crefyddol/ysbrydol ac am wneud penderfyniadau moesol fod yn berthnasol i'w bywyd eu hunain a bywydau pobl eraill.
- gwerthfawrogi, parchu, empatheiddio â safbwyntiau eraill a'u gwerthuso, gan gydnabod y nodweddion tebyg a gwahanol rhyngddynt â'u safbwyntiau hwy eu hunain.
- cydnabod, archwilio a myfyrio ar ochr ysbrydol bywyd.
- defnyddio ystod o iaith grefyddol yn addas.
- defnyddio TGCh a dulliau eraill i gael gwybodaeth a throsglwyddo cysyniadau crefyddol.
- ystyr a phwrpas bywyd - sut a pham yr ystyrir bod crefydd yn darparu mewnwelediad i gwestiynau ynghylch gwirionedd, ystyr, pwrpas a gwerth, e.e. bywyd/marwolaeth/ bywyd tragwyddol; da/drwg/dioddefaint/ gobaith, ac ati.
- perthyn - sut a pham y mae unigolion, cymunedau a chymdeithasau lleol yn mynegi hunaniaeth grefyddol ac yn arddangos ymrwymiad drwy addoliad, dathliad, ffordd o fyw, ac ati.
- awdurdod a dylanwad - sut y mae awdurdod crefyddol yn cyfleu syniadau ynglŷn â datguddiad, doethineb, gwirionedd/dehongliad, a pham y mae hyn yn dylanwadu ar gredinwyr, e.e. drwy destunau cysegredig, sylfaenwyr crefyddol, ac arweinwyr hanesyddol a chyfoes.
- perthnasoedd a chyfrifoldeb - sut y mae crefyddau yn arddangos rheolau ar gyfer byw, cynghori ynghylch gwneud penderfyniadau moesol anodd, argymell ffyrdd o ddatblygu a chynnal perthynas a darparu rhesymau pam y mae'r rhain yn bwysig, e.e. da/drwg; cyfiawnder/cydraddoldeb; goddefgarwch/parch; gwrthdrawiad/cymod.
- taith bywyd - sut a pham y mae pobl grefyddol yn derbyn gwahanol swyddogaethau, cyfrifoldebau ac ymrwymiadau ar wahanol gyfnodau bywyd, e.e. bod yn oedolyn/rhiant/hunanymwadu; cymryd rhan mewn pererindod, ac ati.
Chwilio am ystyr
- anfaterol / ysbrydol - sut y mae pobl yn archwilio ac yn mynegi materion, syniadau a phrofiadau o natur dra-rhagorol / ysbrydol a pham y mae'r agwedd ysbrydol hon ar fywyd yn bwysig iddynt hwy, e.e. natur Duw / yr enaid; profiad crefyddol / dimensiynau ysbrydol y profiad dynol a gwirionedd / ystyr /dehongliad.
- gwybodaeth a phrofiad o'r anfaterol / ysbrydol - sut a pham y mae pobl yn datblygu, dehongli ac yn gweithredu ar eu profiad crefyddol / ysbrydol e.e. perthynas â Duw ac ymrwymiad i Dduw; ffordd o fyw / aberth; effaith crefydd / ymrwymiad crefyddol ar unigolion, cymunedau of chymdeithas; hunaniaeth / amrywiaeth a fewn ac ar draws crefydd.
Disgrifiadau lefel ar gyfer addysg grefyddol
Mae'r disgrifiadau lefel canlynol yn disgrifio'r mathau a'r ystod o berfformiad a ddylai fod yn nodweddiadol o'r disgyblion sy'n gweithio ar lefel benodol. Wrth benderfynu ar lefel cyrhaeddiad disgybl ar ddiwedd cyfnod allweddol, dylai athrawon farnu pa ddisgrifiad sy'n cyd-fynd orau â pherfformiad y disgybl. Dylid ystyried pob disgrifiad ar y cyd â'r disgrifiadau lefel cyfagos.
Erbyn diwedd Cyfnod Allweddol 2, dylai perfformaidd y mwyafrif mawr o'r disgyblion ddod o fewn ystod Lefelau 2 i 5, ac erbyn diwedd Cyfnod Allweddol 3 o fewn yr ystod 3 i 7. Mae Lefel 8 ar gael i ddisgyblion galluog iawn ac, i helpu athrawon i wahaniaethu Perfformiad Eithriadol yng Nghyfnod Allweddol 3, darperir disgrifiad uwchlaw Lefel 8.
Dylid darllen pob datganiad o fewn y lefelau gan eu bod yn berthnasol i Grisnogaeth a'r prif grefyddau eraill a ddangosir o fewn y maes llafur cytûn.
Lefel 1
Bydd y disgyblion yn siarad am eu profiadau eu hunain, y byd o'u cwmpas ac agweddau ar grefydd. Byddant yn galw i gof act yn ymateb i rai credoau, dysgeidiaethau ac ymarferion crefyddol sylfaenol a ymchwilir iddynt. Byddant yn ymwybodol i raddau fod yr agweddau hyn ar grefydd yn arbennig. Byddant yn cydnabod bod eu teimladau, eu gweithrediadau a'u barnau yn gallu bod yn debyg neu'n wahanol i rai pobl eraill. Byddant yn defnyddio geirfa grefyddol syml mewn modd addas i fynegi eu syniadau ar adegau.
Lefel 2
Bydd y disgyblion yn gofyn cwestiynau am eu profiadau eu hunain, y byd o'u cwmpas ac agweddau ar grefydd, ac yn awgrymu rhai atebion. Byddant yn galw i gof ac yn cyfathrebu'n syml rai o'r credoau, dysgeidiaethau ac arferion crefyddol sylfaenol a ymchwilir iddynt. Byddant yn awgrymu, mewn termau syml, pam y mae'r agweddau hyn ar grefydd yn bwysig i rai pobl. Byddant yn siarad mewn termau syml am eu teimladau, eu gweithrediadau a'u barnau eu hunain a rhai pobl eraill. Byddant yn defnyddio geirfa grefyddol syml yn addas.
Lefel 3
Bydd y disgyblion yn trafod y cwestiynau sy'n codi o'u profiadau eu hunain, y byd o'u cwmpas ac agweddau ar grefydd, gan gynnig eu barn eu hunain. Byddant yn disgrifio rhai o'r credoau, dysgeidiaethau ac arferion crefyddol sylfaenol a ymchwilir iddynt. Byddant yn disgrifio sut mae rhai o'r agweddau hyn ar grefydd yn effeithio ar fywydau credinwyr. Byddant yn disgrifio eu teimladau, eu gweithrediadau a'u barnau eu hunain, ac yn cynnig sylwadau syml ar safbwyntiau pobl eraill. Byddant yn dechrau cydnabod bod ystyr i symbolau crefyddol, ac yn defnyddio geirfa grefyddol yn addas.
Lefel 4
Bydd y disgyblion yn trafod eu hymatebion hwy ac eraill i gwestiynau am fywyd, y byd o'u cwmpas a chrefydd. Byddant yn disgrifio ac yn dechrau esbonio'r credoau, dysgeidiaethau ac arferion crefyddol a ymchwilir iddynt. Byddant yn rhoi enghreifftiau penodol o'r ffyrdd y bydd yr agweddau hyn yn effeithio ar fywydau credinwyr ac yn dechrau nodi'r hyn sy'n debyg ac yn wahanol mewn crefyddau.
Lefel 5
Bydd y disgyblion yn mynegi ac yn cyfiawnhau syniadau a barnau am gwestiynau sylfaenol, yn ôl eu hymchwiliadau a'u profiadau eu hunain. Byddant yn gwneud cysylltiadau rhwng y credoau, dysgeidiaethau ac arferion a astudir, gan ddisgrifio'r effaith ar fywydau credinwyr ac yn nodi'r hyn sy'n debyg ac yn wahanol o fewn ac ar draws crefyddau. Byddant yn esbonio sut mae eu teimladau, eu gweithrediadau a'u barnau eu hunain yn effieithio ar eu bywydau, ac yn disgrifio sut mae safbwyntiau pobl eraill yn yr un modd yn effeithio ar eu bywydau nhw. Byddant yn defnyddio ystod o eirfa grefyddol yn addas ac yn dangos dealltwriaeth sylfaenol o iaith symbolaidd.
Lefel 6
Bydd y disgyblion yn defnyddio amrywiaeth o ffynonellau gwybodus a'u profiadau eu hunain i gyflwyno tystiolaet a datblygu ymatebion priodol i gwestiynau sylfaenol. Byddant yn defnyddio eu dealltwriaeth o'r cysylltiadau rhwng y credoau, dysgeidiaethau ac arferion crefyddol yr ymchwilir iddynt i gryfhau eu dealltwriaeth o grefydd ac i esbonio gwahanol safbwyntiau crefyddol. Byddant yn esbonio'r berthynas rhwng eu credoau a'u gweithrediadau eu hunain. Byddant hefyd yn esboio'r berthynas rhwng credoau a gweithrediadau pobl eraill. Byddant yn defnyddio ystod o eirfa grefyddol yn addas ac yn dangos dealltwriaeth sylfaenol o symbolaeth ac iaith symbolaidd.
Lefel 7
Bydd y disgyblion yn ystyried cwestiynau crefyddol a moesol sylfaenol o ystod o safbwyntiau crefyddol ac yn dechrau dod i gasgliadau rhesymegol. Byddant yn cymhwyso ystod eang o gysyniadau crefyddol i amrywiaeth o gredoau, dysgeidiaethau ac arferion. Byddant yn esbonio a chyfiawnhau'r rhesymau dros yr ystod o safbwyntiau sydd gan bobl grefyddol. Byddant yn ystyried goblygiadau eu credoau a'u gweithrediadau eu hunain, ac yn cymharu'r rhain gyda rhai pobl eraill ac yn dod i gasgliadau cytbwys. Byddant yn defnyddio ystod o eirfa grefyddol yn addas ac yn gallu esbonio ystyr symbolaidd gwrthrychau, gweithrediadau a/neu iaith grefyddol.
Lefel 8
Bydd y disgyblion yn ystyried cwestiynau crefyddol a moesol sylfaenol, yn gwerthuso ystod o bosibiliadau ac yn dod i gasgliadau rhesymegol yn seiliedig ar y dystiolaeth a gasglwyd. Byddant yn dangos dealltwriaeth o ystod eang o gysyniadau crefyddol, gan gynnwys safbwyntiau amrywiol ar gredoau, gwerthoedd a thraddodiadau o fewn y crefyddau a astudir. Byddant yn gwerthuso'r agweddau amrywiol ar grefydd ac yn esbonio sut y mae'r rhain yn effeithio ar fywydau unigolion, cymunedau a chymdeithas. Byddant yn ymchwilio i'r cysyniadau crefyddol a astudir, yn gwerthuso eu safbwyntiau eu hunain ac eraill trwy ddadleuon rhesymegol a thystiolaeth. Byddant yn defnyddio ystod eang o eirfa grefyddol yn addas ac yn dangos dealltwriaeth ddatblygedig o iaith symbolaidd.
Perfformiad Eithriadol
Bydd y disgyblion yn cydnabod bod cwestiynau crefyddol sylfaenol yn aml yn gymhleth ac mai rhannol ac amhendant yw'r atebion yn aml. Byddant yn dadansoddi ac yn cynnig rhesymau dros y gwahanol safbwyntiau a geir yn ymwneud a'r credoau, gwerthoedd a thraddodiadau'r crefyddau a astudir, gan gydnabod y gwahaniaethau rhwng y crefyddau a gwerthfawrogi'r tyndra rhwng undod ac amlblwyfaeth o fewn pob crefydd. Bydd ganddynt wybodaeth a dealltwriaeth fanwl o ymddygiad a chredoau ymlynwyr o fewn ystod o systemau ffydd. O ran y cysyniadau crefyddol a moesol a astudir, byddant yn mynegi barn, sydd wedi'i hystyried yn llawn, ar safbwyntiau pobl eraill a hynny'n seiliedig ar ymchwiliad manwl. Byddant yn defnyddio ystod helaeth o eirfa grefyddol yn addas ac yn dangos dealltwriaeth ddatblygedig iawn o iaith symbolaidd.
Delliannau ar gyfer addysg grefyddol
Mae'r deilliannau canlynol ar gyfer addysg grefyddol yn anstatudol. Cawsant eu hysgrifennu i gydnabod cyrhaeddiad disgyblion sy'n gweithio islaw Lefel 1. Mae Deilliannau 1, 2 a 3 ar gyfer addysg grefyddol yn cydredeg â Deilliannau 1, 2 a 3 y Cyfnod Sylfaen.
Cyfnod Sylfaen | Addysg Grefyddol |
---|---|
Deilliant 1 Cyfnod Sylfaen | Deilliant 1 Addysg Grefyddol |
Deilliant 2 Cyfnod Sylfaen | Deilliant 2 Addysg Grefyddol |
Deilliant 3 Cyfnod Sylfaen | Deilliant 3 Addysg Grefyddol |
Deilliant 4 Cyfnod Sylfaen | Lefel 1 Addysg Grefyddol |
Deilliant 5 Cyfnod Sylfaen | Lefel 2 Addysg Grefyddol |
Deilliant 6 Cyfnod Sylfaen | Lefel 3 Addysg Grefyddol |
Mae deilliannau addysg grefyddol yn disgrifio'r mathau a'r ystod o berfformiad a ddylai fod yn nodweddiadol o'r disgyblion sy'n gweithio ar ddeilliant penodol. Wrth benderfynu ar ddeilliant cyrhaeddiad disgybl ar ddiwedd cyfnod allweddol, dylai athrawon farnu pa ddisgrifiad sy'n cydfynd orau â pherfformiad y disgybl. Dylid ystyried pob disgrifiad ar y cyd â'r disgrifiadau ar gyfer deilliannau cyfagos.
Deilliant 1
Bydd y disgyblion yn adnabod eu hunain, pobl gyfarwydd, lleoedd a gwrthrychau mewn lluniau/storïau ac yn dangos gwybodaeth o arferion bob dydd. Bydd y disgyblion yn defnyddio geiriau, arwyddion neu symbolau i gyfleu arsylwadau am storïau ac arteffactau crefyddol cyfarwydd. Gydag anogaeth, bydd y disgyblion yn dechrau cyfleu sut y teimlant ac am brofiadau megis ymweliadau ag adeiladau arbennig, gwyliau a dathliadau.
Deilliant 2
Bydd y disgyblion yn ymateb i gwestiynau penagored am eu teimladau a'u profiadau ('beth?', 'ble?'). Byddant yn cynnig eu syniadau eu hunain, gan wneud cysylltiadau/rhagfynegiadau ar adegau. Bydd y disgyblion yn trin ac yn archwilio arteffactau ac yn dangos peth gwybodaeth o bobl arbennig, llyfrau, a mannau addoli. Byddant yn ymateb i storïau a digwyddiadau, yn y gorffennol a'r presennol. Byddant yn dechrau uniaethu â theimladau pobl eraill fel y cânt eu portreadu mewn storïau a digwyddiadau crefyddol yn y gorffennol a'r presennol.
Deilliant 3
Bydd y disgyblion yn cofio digwyddiadau o bwys yn y gorffennol ac yn rhagweld digwyddiadau yn y dyfodol. Bydd y disgyblion yn cynnig syniadau ac arsylwadau annibynnol ynghylch pethau sy'n eu poeni yn eu bywydau. Bydd y disgyblion yn cyfleu eu gwybodaeth gynyddol o storïau, digwyddiadau a gwrthrychau crefyddol ac yn dangos peth gwerthfawrogiad bod y rhain yn arbennig. Bydd y disgyblion yn fwyfwy ymwybodol a sensitif i anghenion eraill ac yn deall y dylai pethau byw gael eu trin gyda pharch a chonsýrn.
Addysg grefyddol yng Nghyfnod Allweddol 4 ac Ôl-16
Llwybrau Dysgu 14-19
Ar gyfer dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 4 ac Ôl-16, bydd addysg grefyddol yn rhan o lwybr dysgu statudol pob unigolyn. Dylid cynllunio'r cwrs astudio a ddilynir fel ei fod yn hybu galluoedd pobl ifanc i fod yn ddysgwyr yn ogystal â hybu eu dyhead i gyrchu cyfleoedd dysgu yn y dyfodol. Yn benodol, dylai'r cwrs gyfrannu mor eang â phosibl at y pedair agwedd ar ddysgu a nodir yn y Craidd Dysgu 14-19.
Mae'r maes llafur cytûn hwn yn darparu Rhaglenni Astudio ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 ac Ôl-16. Mae'r sgiliau yng Nghyfnod Allweddol 4 ac Ôl-16 yr un fath, ond mae'r ystod yn wahanol.
Cyfnod Allweddol 4
Yng Nghyfnod Allweddol 4, mae rhaglen astudio'r maes llafur cytûn yn ymwneud â gofynion cymwysterau TGAU presennol, ond mae hefyd yn darparu awgrymiadau ar gyfer cyrsiau cyfoethogi arloesol wedi'u lleoli yn yr ysgol sy'n ymwneud â'r Craidd Dysgu 14-19 a/neu gymwysterau priodol eraill (e.e. Sgiliau Allweddol/Bagloriaeth Cymru). Byddai asesu ar gyfer astudiaethau o'r fath naill ai'n cael ei gynnal yn ffurfiol trwy'r gweithdrefnau a fabwysiadir gan gorff dyfarnu neu drwy bennu deilliannau ysgol benodol. Dylid cynnig cyfle priodol i bob myfyriwr/wraig i sefyll arholiadau allanol mewn astudiaethau crefyddol, heb i anfantais annheg ddeillio oddi wrth grwpiau pwnc a chyda dyraniadau amser ac adnoddau yn cyfateb i bynciau eraill a ddilynir i'r lefelau hyn.
Ôl-16
Gellir gweithredu'r rhaglen astudio enghreifftiol amrywiol i ddisgyblion Ôl-16 mewn amryw o ffyrdd arloesol fel rhan o raglen cyfoethogi ysgol. Maent yn ymwneud â'r Craidd Dysgu 14-19 a/neu gymwysterau priodol eraill (e.e. Sgiliau Allweddol/Bagloriaeth Cymru), gan gynnig modd i ysgolion gyflawni eu rhwymedigaethau statudol i ddisgyblion hyd at 19 oed. Byddai asesu ar gyfer astudiaethau o'r fath naill ai'n cael ei gynnal yn ffurfiol trwy'r gweithdrefnau a fabwysiadir gan gorff dyfarnu neu drwy bennu deilliannau ysgol benodol. Dylid cynnig cyfle priodol i bob myfyriwr/wraig i sefyll arholiadau allanol mewn astudiaethau crefyddol, heb i anfantais annheg ddeillio oddi wrth grwpiau pwnc a chyda dyraniadau amser ac adnoddau yn cyfateb i bynciau eraill a ddilynir i'r lefelau hyn.
Rhaglen Astudio Cyfnod Allweddol 4 ac Ôl-16
Dylai'r disgyblion gael cyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau, eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o Gristnogaeth a'r prif grefyddau eraill fel y bo'n briodol. Gellid ehangu'r cwrs astudio Ôl 16 i gynnwys archwiliad o grefyddau nad ydynt yn brif rai, sectau a mudiadau crefyddol. Defnyddio'r rhain i ofyn ac ymateb i gwestiynau dynol a chrefyddol sylfaenol. Dylid cyflawni hyn trwy ryngberthynas tri sgil craidd y pwnc.
- Ymdrin â'r cwestiynau sylfaenol - cwestiynau dynol a chrefyddol sy'n canolbwyntio ar chwilio am ystyr, arwyddocâd a gwerth mewn bywyd yw cwestiynau sylfaenol. Mae ganddynt ddyfnder a dwyster sy'n sail i unrhyw agwedd ar astudiaeth mewn addysg grefyddol.
- Archwilio credoau, dysgeidiaethau ac arfer(ion) crefyddol - mae hyn yn cynnwys archwilio storïau crefyddol, testunau cysegredig, ffordd o fyw, defodau a symbolaeth, sy'n darparu mewnwelediad i'r cwestiynau sylfaenol hyn ac yn codi cwestiynau crefyddol a dynol pellach.
- Mynegi ymatebion personol - mae hyn yn cynnwys cysylltu'r materion sy'n codi yn ystod astudiaethau â phrofiadau'r disgyblion eu hunain a chaniatáu datblygu ymatebion personol i gredoau, dysgeidiaethau ac arfer(ion) a chwestiynau sylfaenol, a'u gwerthuso.
Mae'r sgiliau craidd hyn yn cyd-blethu a dylid cymhwyso'r tri ohonynt yn briodol i'r ystod a astudir.
Sgiliau ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 ac Ôl-16
Ymdrin â'r cwestiynau sylfaenol
Dylid rhoi cyfleoedd i'r disgyblion:
- ofyn, trafod ac ymateb i gwestiynau sylfaenol sy'n codi trwy eu profiadau eu hunain, y byd o'u cwmpas ac agweddau ar grefydd.
- ymchwilio i gwestiynau sylfaenol o amryw o ffynonellau crefyddol ac anghrefyddol gwybodus er mwyn gwerthuso ystod o bosibiliadau a dechrau tynnu casgliadau rhesymegol yn seiliedig ar y dystiolaeth a gasglwyd.
- gweithio ar eu pennau eu hunain a gydag eraill i greu rhagdybiaeth, defnyddio technegau datrys problemau, meddwl beirniadol, creadigol, greddfol a meta wybyddiaeth ddatblygedig i werthuso ystod o dybiaethau, posibiliadau ac esboniadau.
- gwerthuso a chyfiawnhau dadleuon a safbwyntiau gan gydnabod bod casgliadau yn rhannol yn unig, yn amhendant ac yn agored i wahanol ddehongliadau.
Archwilio credoau, dysgeidiaethau ac arfer(ion) crefyddol
Dylid rhoicyfleoedd i'r disgyblion:
- alw i gof, disgrifio ac esbonio'r credoau, dysgeidiaethau ac arferion crefyddol a ymchwilir.
- gwneud ac ymchwilio cysylltiadau rhwng credoau, dysgeidiaethau ac arferion crefyddol er mwyn dangos dealltwriaeth gydlynol o syniadau/cysyniadau crefyddol.
- cymhwyso ystod eang o gysyniadau crefyddol er mwyn cyflwyno dadleuon o blaid ac yn erbyn amrywiaeth o gredoau, dysgeidiaethau ac arferion ac esbonio yn fanwl gywir ystod o safbwyntiau sydd gan bobl grefyddol.
- ystyried tystiolaeth ynghylch sut mae crefydd yn cael effaith ar fywydau unigolion, cymunedau a chymdeithas, gan werthuso ystod o ddehongliadau.
- dadansoddi, dehongli a gwerthuso haenau o ystyr/ symbolaeth o fewn storïau, defodau, celf, dawns a cherddoriaeth grefyddol.
Mynegi ymatebion personol
Dylid rhoi cyfleoedd i'r disgyblion:
- gyfleu syniadau a chysyniadau crefyddol gan ddefnyddio dadleuon rhesymegol, barn a syniadau personol mewn amryw o ffyrdd creadigol, e.e. ar lafar, yn ysgrifenedig, a thrwy'r celfyddydau creadigol.
- gwerthuso sut y gallai dysgu am yr amrywiaeth o brofiadau crefyddol/ysbrydol a phenderfyniadau moesol effeithio ar eu bywyd eu hunain a bywydau pobl eraill.
- gwerthfawrogi, parchu, empatheiddio â safbwyntiau eraill a'u gwerthuso er mwyn iddynt allu tynnu eu casgliadau rhesymegol eu hunain a datblygu agweddau cadarnhaol.
- myfyrio ar ddehongliadau o ochr ysbrydol bywyd.
- defnyddio ystod eang o eirfa grefyddol a dangos dealltwriaeth ddatblygedig o iaith symbolaidd.
- defnyddio TGCh a dulliau eraill i gael gwybodaeth a throsglwyddo cysyniadau crefyddol.
Ystod ar gyfer addysg grefyddol statudol wedi'i hachredu / heb ei hachredu yng Nghyfnod Allweddol 4
Dylid rhoi cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu eu sgiliau drwy ganolbwyntio ar y cyddestunau astudio canlynol. Ni ddylid ystyried y rhain fel pynciau ar wahân, ond yn hytrach fel meysydd astudio sydd wedi'u rhyng-gysylltu ac sy'n darparu cyfleoedd i ddisgyblion ystyried, archwilio a mynegi syniadau ac ymatebion. O fewn cyfnod allweddol cyfan byddai'n rhesymol disgwyl bod pob agwedd ar yr ystod wedi cael ei hastudio.
Dylid rhoi cyfleoedd i'r disgyblion ddatblygu sgiliau trwy ymdrin â:
Y byd
- lle, pwrpas a gwerth bywyd - dylanwad ac effaith ddwyochrog crefydd ar berthnasoedd, cymunedau a diwylliannau yng Nghymru, Ewrop a'r Byd, e.e. sialensiau perthnasoedd (dynol/Dwyfol); dyfodol y gymuned; amrywiaeth o ran diwylliant a chrefydd.
- y byd naturiol a phethau byw - sut mae crefydd yn ysbrydoli pobl i weithredu o fewn y gymuned leol a'r gymuned fyd-eang, e.e. asiantaethau cymorth lleol, cenedlaethol a byd-eang; dylanwad crefydd ar ddinasyddiaeth; stiwardiaeth; cynaliadwyedd; lles anifeiliaid; sancteiddrwydd bywyd.
Profiad dynol
- hunaniaeth ddynol - sut y canfyddir ac y gwerthfawrogir natur a hunaniaeth ddynol mewn crefydd a diwylliant yn yr unfed ganrif ar hugain, e.e. agweddau a gwerthoedd dynol; hunanoldeb ac anhunanoldeb; tegwch, cyfiawnder a chydraddoldeb.
- ystyr a phwrpas bywyd - materion yn ymwneud â gwirionedd, ystyr, pwrpas a gwerth mewn crefydd, megis da, drwg, ewyllys rhydd, tynged, dioddefaint, diniweidrwydd, gobaith, bywyd/marwolaeth/ bywyd tragwyddol a materion sy'n codi o ddehongliadau crefyddol ac anghrefyddol o ddigwyddiadau a ffenomena cyfoes, e.e. gwneud penderfyniadau gwleidyddol; gwariant cyhoeddus; trychinebau naturiol; dyled unigolyn, cenedlaethol a byd-eang.
- perthyn - sut mae crefydd a diwylliant yn ysbrydoli ymrwymiad, addewid, ymroddiad, myfyrio a dyhead, e.e. tebygrwydd rhwng chwaraeon a chrefydd; defnyddio a chamddefnyddio amser hamdden; mynegi ffydd trwy astudio, gweithredu, myfyrdod ac addoli.
- awdurdod a dylanwad - effaith crefydd ar y broses gwneud penderfyniadau a fabwysiadir gan unigolion a chymunedau yng Nghymru, Ewrop a'r Byd, e.e. sialensiau i ryddid crefyddol; rhyddid barn/ gwybodaeth/ symud; cyfreithiau sanctaidd/ seciwlar; iawnderau dynol/sifil; cydwybod, cyfiawnder, rhyddhad, rhyfel, heddwch; cymodi.
- perthnasoedd a chyfrifoldeb - effaith crefydd ar ddatblygiad personol, cymdeithasol a moesol yr hunan ac eraill, e.e. rheolau ar gyfer byw; iawnderau a dyletswyddau; croesawu amrywiaeth; agweddau tuag at adnoddau a'r defnydd a wneir ohonynt; sialensiau i grefydd yn y gweithle/dewisiadau o ran gyrfa/ galwedigaeth; urddas dynol, cydraddoldeb, unplygrwydd, goddefgarwch; cyfrifoldeb.
- taith bywyd - sut y mae crefydd yn herio ac yn dylanwadu ar hunaniaeth bersonol a chyfunol, e.e. ffasiwn, chwaraeon, amser hamdden; addoli a dathlu; magwraeth; cymuned leol.
Chwilio am ystyr
- anfaterol / ysbrydol - ffyrdd traddodiadol a chyfoes o fynegi profiad crefyddol ac ysbrydolrwydd, e.e. natur Duw; symbolau/ delweddau; profi Duw; rhesymau dros gredu yn Nuw; ffydd ac amheuaeth.
- gwybodaeth a phrofiad o'r anfaterol / ysbrydol - cryfder cred grefyddol/ysbrydol sy'n galluogi pobl i fentro bod yn wahanol a gweithredu er mwyn cyflwyno newid cadarnhaol, e.e. perthynas â Duw ac ymateb i Dduw; effaith crefydd/ymrwymiad crefyddol ar unigolion, cymunedau a chymdeithas; hunaniaeth/amrywiaeth o fewn ac ar draws crefydd.
Ystod ar gyfer addysg grefyddol statudol wedi'i hachredu / heb ei hachredu Ôl-16
Dylid rhoi cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu eu sgiliau drwy ganolbwyntio ar y cyddestunau astudio canlynol. Ni ddylid ystyried y rhain fel pynciau ar wahân, ond yn hytrach fel meysydd astudio sydd wedi'u rhyng-gysylltu ac sy'n darparu cyfleoedd i ddisgyblion ystyried, archwilio a mynegi syniadau ac ymatebion. O fewn cyfnod allweddol cyfan byddai'n rhesymol disgwyl bod agweddau ar yr ystod wedi cael ei hastudio.
Dylid rhoi cyfleoedd i'r disgyblion ddatblygu sgiliau trwy ymdrin â:
Y byd
- lle, pwrpas a gwerth bywyd - sut mae crefydd yn pwysleisio gwerth bodolaeth ddynol, e.e. cymhellion, penderfyniadau a chanlyniadau; camfanteisio a chaethwasiaeth fodern; cyfiawnhau masnach deg / cydraddoldeb / cyfiawnder.
- y byd naturiol a phethau byw - cyfiawnhad a gwrthwynebiad crefyddol i ddefnyddio a chamddefnyddio'r byd naturiol a phethau byw, e.e. moeseg feddygol; dehongliadau o'r ddeddf naturiol; llywodraethu'r byd.
Profiad dynol
- hunaniaeth ddynol - cwestiynau am sicrwydd a gwirionedd crefyddol yn y gymdeithas gyfoes, e.e. dehongliadau o Dduw; teledu realiti; gwirionedd a gonestrwydd yn y cyfryngau; hedoniaeth.
- ystyr a phwrpas bywyd - sut mae gwerthoedd a syniadau crefyddol a chyfoes yn dylanwadu ar hunan-barch a barn am eraill, e.e. sut mae'r cyfryngau'n portreadu Duw, crefydd a moesoldeb; sut mae'r cyfryngau'n cyflwyno modelau ymddwyn; enwogion a phobl sy'n ysbrydoli.
- perthyn - goblygiadau Cymru a'r pentref byd-eang o ran crefydd, e.e. cymdeithas amlddiwylliannol; amlblwyfaeth; cyfoeth ac amrywiaeth; hygyrchedd byd-eang; erydu gwerthoedd traddodiadol; twf cyfathrebu electronig a pherthnasoedd yn chwalu.
- awdurdod a dylanwad - sut y mae awdurdodau crefyddol a seciwlar yn ymateb i'r cyfryngau a'r diwydiannau adloniant cyfoes, e.e. fideos a cherddoriaeth; cyfleu trais fel rhywbeth cyffrous; bychanu ymddygiad rhywiol.
- perthnasoedd a chyfrifoldeb - sut y mae crefydd, y llywodraeth a sefydliadau bydeang yn cael effaith ar gytgord/anghytgord byd-eang, e.e. cyfrifoldebau'r Cenhedloedd Unedig; diwinyddiaeth rhyddhad; rhyfel/ heddwch; democratiaeth/rheolau Duw.
- taith bywyd - dehongliadau crefyddol o'r cread a phwrpas y ddynoliaeth, e.e. natur yn erbyn magwraeth; dehongliadau o dynged, ffawd ac iachawdwriaeth.
Chwilio am ystyr
- anfaterol / ysbrydol - diffiniadau a dealltwriaeth draddodiadol a chyfoes o'r profiad crefyddol ac ysbrydolrwydd, e.e. ydy crefydd yn weithredol neu'n oddefol?; profiad crefyddol trwy'r cyfryngau; safbwyntiau crefyddol a seicolegol yn ymwneud â chydwybod/ymwybod.
- gwybodaeth a phrofiad o'r anfaterol / ysbrydol - effaith yr anfaterol/crefyddol/ ysbrydol ar unigolion, cymunedau a chymdeithasau a sut mae'r effaith hon yn cael ei rhwystro/hybu gan gymdeithas seciwlar, e.e. portreadu profiadau bron marw/ gwyrthiau yn y cyfryngau; gwleidyddiaeth; apathi/ymrwymiad/eithafiaeth.
Atodiad 1 - Gofynion cyfreithiol ar gyfer meysydd llafur cytûn
'Bydd pob maes llafur cytûn yn adlewyrchu'r ffaith bod traddodiadau crefyddol Prydain Fawr, ar y cyfan, yn rhai Cristnogol ond bydd yn rhoi sylw i ddysgeidiaeth ac ymarferion y prif grefyddau eraill a gynrychiolir ym Mhrydain Fawr'. (Deddf Addysg 1996, Adran 375 (3)).
'Ni fydd unrhyw faes llafur cytûn yn darparu i addysg grefyddol gael ei chyflwyno i ddisgyblion mewn ysgol y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddi trwy unrhyw gatecism neu fformiwlari sy'n nodweddiadol o enwad crefyddol penodol (ond ni ddylid cymryd bod hyn yn gwahardd darpariaeth o fewn maes llafur ar gyfer astudio catecism neu fformiwlari o'r fath).'
(Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, Atodlen 19: paragraff 2(5)).
Dylai addysg grefyddol, ynghyd â phynciau eraill ar y cwricwlwm, hybu:
'(a)...datblygiad ysbrydol, moesol, diwylliannol, meddyliol a chorfforol disgyblion yn yr ysgol, a'r gymdeithas; ac yn
(b) paratoi disgyblion ar gyfer cyfleoedd, cyfrifoldebau a phrofiadau bywyd fel oedolion.'
(Deddf Diwygio Addysg 1988, Rhan 1 (2)(a)(b))
'(1) Mae'r cwricwlwm ar gyfer ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir yn bodloni gofynion:
(a) hybu datblygiad ysbrydol, moesol, diwylliannol, meddyliol a chorfforol disgyblion yn yr ysgol, a'r gymdeithas, ac yn
(b) paratoi'r disgyblion hynny ar gyfer y cyfleoedd, y cyfrifoldebau a'r profiadau a ddaw yn hwyrach yn eu bywydau.
(2) Mae'r cwricwlwm ar gyfer unrhyw addysg feithrin a gyllidir ac a ddarperir mewn lleoliadau heblaw am ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir yn bodloni gofynion yr adran hon os yw'n gwricwlwm cytbwys ac eang sy'n:
(a) hybu datblygiad ysbrydol, moesol, diwylliannol, meddyliol a chorfforol disgyblion yn yr ysgol, a'r gymdeithas, ac yn
(b) paratoi'r disgyblion hynny ar gyfer y cyfleoedd, y cyfrifoldebau a'r profiadau a ddaw yn hwyrach yn eu bywydau.'
(Deddf Addysg 2002, Adran 99 (1)(a)(b)(2)(a)(b))
'(1) Bydd y cwricwlwm ar gyfer pob ysgol a gynhelir yn Nghymru yn cynnwys cwricwlwm sylfaenol sy'n cynnwys:
(a) darpariaeth ar gyfer addysg grefyddol i bob disgybl cofrestredig yn yr ysgol (yn unol â darpariaethau Atodlen 19 Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (c.31) fel y bo'n gymwys i'r ysgol)...'
(2) Nid yw Is-adran (1)(a) yn berthnasol:
(a) o ran dosbarth meithrin mewn ysgol gynradd, neu
(b) yn achos ysgol arbennig a gynhelir (gwneir darpariaeth ar gyfer Addysg Grefyddol mewn ysgolion arbennig gan reoliadau dan adran 71(7) Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (c.31)).'
(Dedf Addysg 2002, Adran 101 (1)(a)(2)(a)(b))
Atodiad 2 - Addysg grefyddol yn y Cyfnod Sylfaen - Pynciau a awgrymir ar gyfer Pobl, credoau a chwestiynau
Pobl, credoau a chwestiynau ar gyfer lleoliadau meithrin
O fewn lleoliadau meithrin, bydd y plant yn canolbwyntio ar gael storïau diwylliannol a thraddodiadol a phrofiadau ymarferol sy'n ymwneud ag ymdrech ysbrydol a moesol. Bydd y storïau a'r profiadau hyn yn annog plant i fod yn ymwybodol o'r canlynol a gofyn cwestiynau am:
Eu hunain
- eu cartrefi, eu teuluoedd a'u profiadau er mwyn archwilio eu hunaniaeth (gan gynnwys y Cwricwlwm Cymreig, amrywiaeth diwylliannol)
- eu hoffterau, eu cas bethau a'u teimladau (gan gynnwys gobeithion, breuddwydion, barn a synnwyr o hwyl)
- eu swyddogaeth a'u lle yn y gymuned (fel aelod o'u teulu, gweithgareddau y tu allan i'r ysgol)
- y dewisiadau a wnânt (rhannu, caredigrwydd, ymddygiad)
- ystyr ysbrydol / moesol a fynegir mewn storïau, cerddi, atreffactau, celf, symudiad, defodau a dathliadau (pen-blwyddi, dydd Gŵyl Dewi, storïau traddodiadol am bobl sy'n helpu eraill, ymdrin ag adegau hapus a thrist)
Pobl eraill
- cartrefi, teuluoedd a phrofiadau pobl eraill er mwyn archwilio nodweddion tebyg a gwahanol yn y ffordd o fyw a thraddodiadau (dathliadau a thraddodiadau teuluol)
- pobl arbennig a phobl sy'n eu helpu (storïau am bobl ddylanwadol yn y gorffennol a'r presennol fel Iesu Grist a Dewi Sant, teulu'r plant, athrawon a phobl yn eu cymuned)
- hoffterau, cas bethau a theimladau (gan gynnwys rhannu gobeithion, breuddwydion, barn a synnwyr o hwyl gydag eraill)
- swyddogaeth a lle pobl yn y gymuned (fel aelodau o deuluoedd a grwpiau)
- penderfyniadau y bydd pobl eraill yn eu gwneud (rheolau, arferion, canlyniadau gwneud dewis, fel rhan o gymuned)
- rhesymau pam y bydd pobl eraill yn mynegi empathi ysbrydol / moesol dyfnach at bobl eraill (archwilio pam y bydd pobl yn helpu eraill yn eu gwaith a'u hamser hamdden)
- yr angen i barchu / herio eu syniadau / credonau eu hunain a rhai pobl eraill (gofyn cwestiynau, rhannu syniadau a barn).
Pethau byw
- y ffyrdd y byddant hwy ac eraill yn dangos gofal, consýrn a pharch at bethau byw, yr amgylchedd a'r byd naturiol (bod yn gyfrifol am anifeiliaid / planhigion, gofyn cwestiynau a rhannu barn)
- cyfrifoldeb / ailgylchu / consýrn byd-eang am y byd (darganfod sut y gall pobl wneud gwahaniaeth)
- parchedig ofn / rhyfeddod (ymchwilio natur, y byd naturiol a'r tymhorau)
Pobl, credoau a chwestiynau ar gyfer gweddill y Cyfnod Sylfaen
Trwy ddatblygu eu sgiliau ymholi, ymchwilio ac arbrofi ar draws pob Maes Dysgu yn y Cyfnod Sylfaen, dylai plant gael cyfleoedd i baratoi ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 trwy ehangu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth am:
Eu hunain
- eu cartrefi, eu teuluoedd a'u profiadau er mwyn archwilio eu hunaniaeth a theimlad o berthyn (profiadau personol o wyliau, dathliadau, defodau newid byd gan gynnwys y Cwricwlwm Cymreig, amrywiaeth ddiwylliannol)
- eu hymatebion personol (mewn adegau o lawenydd a thristwch, eu gobeithion, breuddwydion, barn a synnwyr o hwyl)
- eu swyddogaeth a'u lle yn y gymuned (fel aelod o'u teulu, gweithgareddau grŵp gan gynnwys gweithgareddau crefyddol a gwaith elusennol)
- y penderfyniadau a wnânt a'r canlyniadau sy'n dilyn (ymddygiad, dewis, agweddau)
- ystyr ysbrydol / moesol a fynegir mewn storïau crefyddol, delio ag adegau hapus a thrist, holi am y cwestiynau mawr).
Pobl eraill
- cartrefi, teuluoedd a phrofiadau pobl eraill er mwyn archwilio nodweddion tebyg a gwahanol yn y ffordd o fyw a thraddodiadau (profiad o wyliau crefyddol, addoli, rheolau, bwyd)
- pobl arbennig a phobl sy'n eu helpu (storïau am Iesu Grist a phobl grefyddol ddylanwadol eraill yn y gorffennol a'r presennol)
- ymatebion personol (gan gynnwys rhannu teimladau, syniadau, profiadau, barn a synnwyr o hwyl gydag eraill)
- swyddogaeth a lle pobl yn y gymuned (fel aelodau o deuluoedd, grwpiau crefyddol, arweinwyr crefyddol lleol)
- penderfyniadau y bydd pobl eraill yn eu gwneud a'r canlyniadau sy'n dilyn (rheolau, arferion, dewisiadau, bod yn rhan o gymuned)
- rhesymau pam y bydd pobl eraill yn mynegi empathi ysbrydol / moesol dyfnach at bobl eraill (arhwilio pam y bydd pobl yn helpu eraill yn eu gwaith a'u hamser hamdden - a yw eu credoau yn dylanwadu ar eu bywydau?)
- yr angen i barchu / herio eu syniadau / credoau eu hunain a rhai pobl eraill (gofyn cwestiynau, rhannu syniadau a barnau).
Pethau byw
- y ffyrdd y byddant hwy ac eraill yn dangos gofal, consýrn a pharch at bethau byw, yr amgylchedd a'r byd naturiol (bod yn gyfrifol am anifeiliaid / planhigion, gofyn cwestiynau a rhannu barn)
- cyfrifoldeb ailgylchu / consýrn byd-eang am y byd (darganfod sut y gall pobl wneud gwahaniaeth)
- parchedig ofn / rhyfeddod (ymchwilio natur, y byd naturiol a'r tymhorau).
Yn ystod y cyfnod hwn mewn addysg dylai plant ehangu eu sgiliau hefyd er mwyn iddynt allu dechrau:
- datblygu mewnwelediad i grefydd a phobl grefyddol
- deall am gred a gweithred
- cydnabod a gwerthfawrogi sut y mae crefydd wedi dylanwadu ar fywydau pobl, a'u harwain yn y gorffennol a'r presennol, gan gynnwys pwyslaid ar ysbrydolrwydd a phrofiad crefyddol
- gofyn cwestiynau a chodi materion crefyddol a moesol sy'n fwyfwy cymhleth am y profiad dynol, y byd ac agweddau ar grefydd.