Toglo gwelededd dewislen symudol

Cymerwch gip ar y sêr sy'n dod i'ch arena ym mis Mawrth

Mae Arena Abertawe yn y ras i ennill gwobr bwysig i gydnabod rhagoriaeth ei dyluniad.

Swansea Arena (Sunny Day)

Swansea Arena (Sunny Day)

Mae'r Arena sydd wedi bod ar agor ers mis Mawrth 2022 ymysg y rhai sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobr Pensaernïaeth Cymru y Gymdeithas Frenhinol Penseiri yng Nghymru.

Dyluniwyd yr Arena, a ddatblygwyd gan Gyngor Abertawe ac sy'n cael ei rhedeg gan Ambassador Theatre Group, gan yr arbenigwyr pensaernïol ACME.

Mae'r tu allan i'r adeilad yn cynnwys dros 1,600 o baneli lliw aur, a defnyddir 100,000 o oleuadau LED i hyrwyddo sioeau a digwyddiadau sydd ar ddod yn y lleoliad.

Mae lefel ei mynedfa wedi'i gwydro'n llawn ar bob ochr gan greu golygfeydd rhwng y cyntedd, ystafelloedd VIP, ardaloedd cynadleddau a'r parc tirluniedig newydd.

Mae perfformwyr a fydd yn ymddangos ar lwyfan yr Arena'n cynnwys 10cc, Rob Brydon, Status Quo, Gladys Knight, Romesh Ranganathan a Strictly Come Dancing The Professionals.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae Arena Abertawe wedi dod yn olygfa eiconig wrth borth allweddol i mewn ac allan o ganol dinas Abertawe yn ystod oriau golau dydd ac wedi iddi nosi. Mae'n dyst i ansawdd dyluniad yr adeilad, felly mae'n galonogol iawn fod yr arena bellach wedi cael ei chynnwys ar y rhestr fer am wobr bensaernïol bwysig."

Bydd yr holl brosiectau sydd ar y rhestr fer yn cael eu hasesu nawr gan banel beirniadu o Gymru, a chyhoeddir yr enillwyr yn nes ymlaen yn y gwanwyn. Byddant hefyd yn y ras ar gyfer Gwobr Genedlaethol Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain yn yr haf.

Close Dewis iaith