Un o hoff farchnadoedd Prydain! Marchnad Abertawe
Enwyd Marchnad Abertawe fel marchnad dan do orau Prydain yn ystod cynllun gwobrau cenedlaethol.
Rhoddwyd yr anrhydedd i'r lleoliad yng nghanol y ddinas gan y corff masnachu Cymdeithas Genedlaethol Awdurdodau Marchnadoedd Prydain (NABMA).
Mae'r wobr yn dilyn asesiad gan feirniaid y wobr.
Dyma un o'r gwobrau gyda'r galw mwyaf amdani yn ystod y gwobrau NABMA blynyddol. Cyflwynwyd y wobr i Abertawe yn ystod cynhadledd NABMA yn Birmingham nos Iau, 25 Ionawr.
Dyma'r acolâd diweddaraf ar gyfer Marchnad Abertawe a enillodd yr un wobr yn 2015 a 2020. Mae beirniaid wedi ei chanmol am hyrwyddo entrepreneuriaid lleol, ei hymrwymiad at ddatblygiad a'i hanes cyfoethog.
Meddai Aelod y Cabinet a'r Cyd-ddirprwy Arweinydd David Hopkins, "Ni fyddwn wedi gallu ennill y wobr hon heb gymorth a chefnogaeth ein cwsmeriaid a'n masnachwyr anhygoel - ac rydym yn diolch i bawb sydd wedi pleidleisio drosom ar draws y wlad a'r rheini sy'n cefnogi'r farchnad bob dydd.
"Mae'n parhau i fod yn ganolog i'n cymunedau, yn chwarae rôl allweddol yng ngwaith adfywio parhaus y cyngor gwerth £1 biliwn ac mae'n ffactor pwysig wrth sicrhau bod pobl yn gallu mwynhau canol eu dinas."
Meddai Wayne Holmes, cadeirydd Ffederasiwn Masnachwyr Marchnad Abertawe, "Mae'n wych bod y farchnad wedi ennill y wobr hon. Mae cydnabyddiaeth fel hyn yn sicrhau bod gwaith caled ein holl fasnachwyr yn cael ei gydnabod."
Yn y blynyddoedd diweddar, mae'r cyngor wedi buddsoddi mewn toiledau cyhoeddus newydd yn y farchnad arobryn ac wedi cyflwyno Gardd y Farchnad, man poblogaidd i fwyta, cwrdd, a mwynhau digwyddiadau.
Llun: Goruchwyliwr Marchnad Abertawe, Darren Cox - a Dirprwy Arweinydd ar y cyd Cyngor Abertawe, David Hopkins - gyda rhai o fasnachwyr y lleoliad a gwobr marchnad dan do orau Prydain.