Toglo gwelededd dewislen symudol

Busnes bara o Abertawe'n bwriadu mynd yn genedlaethol

Mae busnes bara arloesol o Abertawe'n bwriadu datblygu marchnad ar draws y DU, diolch i hwb digidol.

Bowla Swansea Market

Bowla Swansea Market

Mae Bowla - A Bowl with a Roll - yng nghanol uwchraddio'i wefan, sy'n golygu y gall y busnes gymryd archebion ar gyfer ei dorthau siâp het o bob rhan o'r wlad cyn bo hir.

Os ydych yn tynnu gwaelod y dorth oddi wrth y top, mae'n creu powlen fara ar gyfer dipio, gydag unrhyw ddewis o lenwad.

Yn stondin Bowla ym Marchnad Abertawe, mae llenwadau'n cynnwys cawl cig oen Cymreig, tikka masala cyw iâr, porc wedi'i dynnu, pelenni cig figanaidd, porc wedi'i dynnu figanaidd, a chyri corbys Pwnjabaidd.

Mae'r gwaith i uwchraddio'r wefan yn cael ei ariannu gan Gyngor Abertawe drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU Llywodraeth y DU.

Mae Bowla - A Bowl with a Roll - yn cael ei redeg gan Clayton a Hannah Worth, tad a merch sydd hefyd yn berchen ar y busnes.

Meddai Hannah, "Cawsom y syniad ar gyfer y busnes ar ôl i fy nhad gael damwain gyda pheiriant bara un tro - o ganlyniad roedd ganddo dorth o fara a oedd yn edrych fel het silc.

"Rydym bellach wedi bod ar agor ers blwyddyn bron yn ein stondin ym Marchnad Abertawe, er rydym yn awyddus i ehangu'r busnes drwy ddefnyddio e-fasnach ar ein gwefan, a fyddai'n galluogi pobl a busnesau eraill o bob rhan o'r DU i brynu'n torthau siâp hetiau bowler a nwyddau eraill.

"Mae'r tîm cymorth busnes yng Nghyngor Abertawe wedi bod yn llawer o help, a bydd y grant datblygu gwefan yn ein helpu i gymryd y cam nesaf ymlaen yn ein taith fusnes.

"Rydym yn rhagweld y bydd ein gwefan ar ei newydd wedd yn barod erbyn diwedd y mis."

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae Bowla'n enghraifft o fusnes lleol gwych a'r math o frwdfrydedd entrepreneuraidd rydym mor awyddus i'w gefnogi fel Cyngor.

"Mae'n un o nifer o fusnesau yn Abertawe yr ydym yn parhau i'w gefnogi, diolch i nifer o gynlluniau grant sydd ar gael gennym.

"Mae'r Cyngor yn barod i helpu busnesau lleol mewn unrhyw ffordd y gall."

Mae grantiau Cyngor eraill sydd bellach ar gael drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU Llywodraeth y DU yn cynnwys grantiau lleihau carbon, grantiau cyn dechrau, grantiau twf a grantiau datblygu cyflenwyr.

Ewch i www.abertawe.gov.uk/ariannubusnesau am ragor o wybodaeth am yr holl grantiau busnes sydd ar gael yn ogystal â chymorth busnes arall sydd ar gael yng Nghyngor Abertawe.

Close Dewis iaith