Toglo gwelededd dewislen symudol

Siopwyr yn barod i fwynhau atyniad newydd trawiadol yn y farchnad

Bydd cyfnod newydd cyffrous i Farchnad Abertawe yn cychwyn cyn bo hir.

Market Garden Plan

Market Garden Plan

Mae'r lleoliad eiconig yn mynd i fod yn fwy croesawgar byth i bobl sy'n siopa, yn gweithio ac yn byw yng nghanol y ddinas.

Bydd gwaith adeiladu'n dechrau'r wythnos nesaf ar ardal newydd wedi'i dylunio'n greadigol yng nghanol y farchnad lle gall pobl fwyta, gweithio a mwynhau eu hunain.

Bydd y gwaith yn cymryd sawl wythnos, ond bydd cyn lleied â phosib o darfu a bydd yr farchnad yn aros ar agor yn llawn. Bydd ffensys tryloyw yn mynd o gwmpas yr ardal adeiladu i gadw pobl yn ddiogel ac i gynnal llinellau golwg ar gyfer stondinau cyfagos.

Bydd Gardd y Farchnad sydd â thema werdd - y bwriedir iddi agor mewn da bryd ar gyfer y Nadolig - yn cynnwys mwy na 170 o blanhigion ynghyd â chymysgedd o fyrddau a chadeiriau i ymwelwyr fwynhau bwyd a diod a brynwyd o amrywiaeth eang o stondinau'r farchnad.

Yn yr ardal hon a weithredir yn unol â'r canllawiau COVID diweddaraf bydd Wi-Fi cyhoeddus am ddim, cyfleusterau gwefru pŵer, biniau ailgylchu a gorsaf ddŵr lle gellir ail-lenwi poteli dŵr.

Bydd cadeiriau uchel ar gael i'r rheini â phlant ifanc.  Bydd cynheswyr ar gyfer poteli a bwyd babanod a bydd bwrdd chwarae i blant bach.

Am y tro cyntaf, gall y rheini â chŵn ddod â'u hanifeiliaid anwes sy'n ymddwyn yn dda i'r farchnad. Bydd cŵn yn awr yn gallu mwynhau powlen o ddŵr yng nghwt ci Jac Abertawe - cyhyd ag y bônt yn dilyn rheolau cŵn newydd y farchnad.

Meddai Aelod y Cabinet Robert Francis-Davies, "Mae Gardd y Farchnad yn rhan o raglen wella gwerth £440,000 yn y lleoliad bendigedig hwn.

"Bydd yn helpu'r farchnad i chwarae rôl allweddol yn nyfodol gwych Abertawe sy'n cael ei arwain gan ein cynllun adfywio gwerth £1 biliwn.

"Mae'n gyfnod cyffrous i'r farchnad ac i ardal ehangach canol y ddinas.

Bydd Gardd y Farchnad a fydd yn agos i'r stondinau cocos enwog, yn weladwy o bob cyfeiriad oherwydd ei bergola 7.5m o uchder, y mae ei siâp yn adlewyrchu to cromennog anferth y farchnad.

Pan fydd wedi'i hadeiladu, bydd Gardd y Farchnad yn sefyll ar wagle yng nghanol y farchnad nad yw'n cael ei ddefnyddio digon. Mae byrddau sy'n cael eu rhentu fesul diwrnod gan fasnachwyr achlysurol yno ar hyn o bryd.

Byddant yn stopio masnachu yn yr ardal honno ar ôl dydd Sadwrn ond byddant yn aros yn y farchnad ac yn llogi lle mewn ardal newydd smart ychydig lathenni i ffwrdd, sy'n dal i fod ar bwys y stondinau enwog sy'n gwerthu cocos, bara lawr a danteithion eraill.
 

Llun:Sut bydd ardal fwyta, cwrdd a chyfarch newydd Marchnad Abertawe - Gardd y Farchnad - yn edrych.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Hydref 2021