Toglo gwelededd dewislen symudol

Mynedfeydd newydd wedi'u cynllunio i wella Marchnad Abertawe

​​​​​​​Mae cynlluniau newydd ar y gweill i wneud Marchnad Abertawe hyd yn oed yn fwy croesawgar i siopwyr a masnachwyr.

Market Entrance Jan

Market Entrance Jan

Mae Cyngor Abertawe, sy'n rheoli'r cyfleuster mawr yng nghanol y ddinas, wedi dechrau ar broses o ddiweddaru a gwella'r mynedfeydd cyhoeddus ar y stryd.   

Mae masnachwyr y farchnad yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y gwelliannau arfaethedig gwerth £240,000 i'r mynedfeydd. Byddant yn gwella edrychiad y mynedfeydd yn ogystal â diogelwch.

Meddai dirprwy arweinydd ar y cyd y cyngor, David Hopkins,"Wrth i'r cyngor barhau â'i gynllun gwerth £1bn i adfywio canol y ddinas, mae'r farchnad yn parhau i fod yn gyrchfan allweddol ar gyfer siopwyr ac ymwelwyr.

"Mae'n parhau i helpu i wneud canol y ddinas yn lle gwych i fyw, siopa, gweithio, astudio a mwynhau amser rhydd o safon.

"Rydym yn y camau cynnar o'n cynllun i ailwampio'r mynedfeydd. Bydd masnachwyr yn rhan o hyn a byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cyhoedd."

Meddai Wayne Holmes, cadeirydd Ffederasiwn Masnachwyr Marchnad Abertawe, "Mae'n wych bod mynedfeydd y farchnad yn mynd i gael edrychiad newydd; bydd yn helpu i wneud y farchnad yn fwy apelgar i siopwyr a masnachwyr."

Yn dilyn proses gaffael helaeth, dyfarnwyd contract y prosiect i The Tangent Partnership Ltd. o Dde Cymru.

Meddai cyfarwyddwr Tangent, Mary Kerfoot, "Rydym yn frwd dros ddarparu ateb creadigol ar gyfer y mynedfeydd ar eu newydd wedd, a fydd yn cael eu defnyddio gan ddegau ar filoedd o bobl bob wythnos".

Mae gan Farchnad Abertawe fynedfeydd cyhoeddus ar y stryd yn Whitewalls, Union Street a Stryd Rhydychen - yn ogystal â mynedfa o ganolfan siopa'r Cwadrant.

Y gobaith yw y bydd y mynedfeydd ar eu newydd wedd yn cael eu cwblhau eleni. Y nod yw achosi cyn lleied â phosib o aflonyddwch yn ystod y gwaith.

Yn y blynyddoedd diweddar, mae'r cyngor wedi buddsoddi mewn toiledau cyhoeddus newydd yn y farchnad arobryn ac wedi cyflwyno Gardd y Farchnad, man poblogaidd i fwyta, cwrdd, a mwynhau digwyddiadau.

Close Dewis iaith