Toglo gwelededd dewislen symudol

Mwy o ddewis i siopwyr wrth i stondinau newydd agor yn y farchnad

Mae gan siopwyr fwy o resymau newydd i ymweld â marchnad hanesyddol Abertawe.

Market Traders

Market Traders

Mae ganddi dair stondin barhaol newydd sy'n cynnig nwyddau sy'n amrywio o rygiau i smwddis a chludfwyd.

Maent yn ymuno â dwsinau o fasnachwyr eraill sy'n cynnig ystod eang o nwyddau a gwasanaethau.

Mae stondin Rugs Central yn cynnig dewis eang o rygiau, matiau a charpedi hirion o safon ac mae hefyd yn cynnig gwerthiannau ar-lein yn www.rugs-central.com.

Meddai'r perchennog, Vivian Presgrave, "Rydw i eisiau ehangu fy musnes ac mae stondin newydd ym Marchnad Abertawe yn gyfle gwych i wneud hynny.

"Mae cwsmeriaid yma eisoes wedi rhoi adborth gwych i mi ac rwy'n edrych ymlaen at ddod i adnabod llawer mwy dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf."

Mae'r Smoothie Den yn gwerthu amrywiaeth o smwddis iach, suddion ffres ac ysgytlaethau.

Meddai'r perchennog, Dr Tinn Sreekanth, meddyg wedi ymddeol, "Rwy'n frwd am fanteision iechyd sudd ffres a wneir o ffrwythau a llysiau i bobl Abertawe.

"Mae ein hysgytlaethau'n cynnwys mwtrin ffrwythau go iawn. Nid ydym yn ychwanegu unrhyw iâ, siwgr na dŵr at ein suddion ac maent yn bur, heb unrhyw gadwolion. Rydym yn eu paratoi'n ffres o flaen pob cwsmer."

Mae Bowla yn cynnig cludfwyd sydd wedi'i baratoi'n ffres ac wedi'i weini mewn torthau bara bach siâp hetiau bowler sy'n unigryw i'r busnes.

Mae'r stondin yn cael ei rhedeg gan Clayton a Hannah Worth. Meddai Hannah, "Rydym yn pobi'r rholiau'n ffres bob dydd yn ein stondin farchnad ac mae ein hamrywiaeth o lenwadau o gynhyrchion lleol yn boblogaidd iawn."

Cyngor Abertawe sy'n rheoli'r farchnad.

Meddai Aelod y Cabinet a'r Cyd-ddirprwy Arweinydd David Hopkins, "Mae'n gyffrous gweld busnesau arloesol newydd yn ymuno â'r llu o fasnachwyr eraill sydd eisoes yn cynnig y fath amrywiaeth o gynnyrch a gwasanaethau lleol o safon i'r cyhoedd."

Gall y rheini sydd am agor stondinau newydd yn y farchnad e-bostio tîm y farchnad i drafod cyfleoedd yma: citycentremanagement@abertawe.gov.uk

Mwy

Llun: Vivian Presgrave yn Rugs Central a Dr Tinn Sreekanth yn y Smoothie Den, Marchnad Abertawe.

 

 

Close Dewis iaith