Toglo gwelededd dewislen symudol

Syniadau marchnata am ddim ar gyfer busnesau newyd

Bydd syniadau marchnata am ddim ar gael i fusnesau newydd yn Abertawe.

Jenny Harding ReThink PR & Marketing

Jenny Harding ReThink PR & Marketing

Bydd Jenny Harding, cyfarwyddwr ReThinkPR and Marketing yn Abertawe, yn cynnal digwyddiad ar-lein ddydd Iau 9 Mai rhwng 12.30pm a 2pm.

Bydd y digwyddiad, a gynhelir ar Microsoft Teams, yn trafod pynciau fel adnabod eich cynulleidfa darged, creu tôn a llais a sut i werthuso a dysgu o ymgyrchoedd marchnata.

Rhoddir hefyd cyflwyniad i amrywiaeth o adnoddau am ddim i helpu gyda marchnata, yn ogystal â strwythur negeseuon a throsolwg o dactegau marchnata gwahanol.

Trefnwyd y digwyddiad gan Gyngor Abertawe, o ganlyniad i gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae ein clwb mentrau newydd wedi helpu cynifer o fusnesau newydd dros y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i gyngor gan arbenigwyr mewn meysydd fel cyfryngau cymdeithasol, cyfraith cyflogaeth a rhwydweithio.

"Bydd llawer o fusnesau newydd yn sicr o elwa o'r syniadau marchnata, felly hoffwn annog unrhyw fusnesau y mae ganddynt ddiddordeb yn y sesiwn ddydd Iau 9 Mai i gadw eu lle cyn gynted â phosib.

"Mae'r clwb mentrau newydd yn un o'r ffyrdd niferus y mae'r cyngor ar gael i gefnogi busnesau trwy'r ddinas, ac fel rhan o'n hymrwymiad i helpu i annog yr economi leol a chreu cynifer o swyddi â phosib."

Gall busnesau y mae ganddynt ddiddordeb mewn dod i ddigwyddiad marchnata'r clwb mentrau newydd am ddim fynd i dudalen Eventbrite Cyngor Abertawe i gadw lle.

Ewch i www.abertawe.gov.uk/cyngorbusnes am ragor o wybodaeth ynghylch y cymorth i fusnesau sydd ar gael drwy'r cyngor.

Close Dewis iaith