Toglo gwelededd dewislen symudol

Cefnogaeth farchnata am ddim yn helpu cannoedd o fusnesau twristiaeth

Mae bron 200 o fusnesau twristiaeth yn Abertawe bellach yn derbyn help llaw i godi eu proffil ledled y DU a thu hwnt, diolch i gefnogaeth farchnata am ddim.

El Pescador

El Pescador

Mae cynllun gwerth £80,000 gan Gyngor Abertawe yn golygu y caiff ffïoedd eu hepgor eto - am y drydedd flwyddyn - fel y gall busnesau twristiaeth a lletygarwch barhau i ymddangos ar wefan cyrchfannau Croeso Bae Abertawe yn rhad ac am ddim tan fis Mawrth 2023.

Gall y busnesau hyn elwa hefyd o gyfres o ymgyrchoedd marchnata y bwriedir iddynt annog ymwelwyr newydd i Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr.

Mae'n un o nifer o gynlluniau sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Adferiad Economaidd y cyngor gwerth £25m i gefnogi busnesau a chymunedau ledled Abertawe i'w helpu i adfer o effaith economaidd y pandemig.

Mae Cyngor Abertawe hefyd wedi cynnig y cyfle i fusnesau twristiaeth wella'u cynnig i ymwelwyr gyda Chronfa Cymorth i Dwristiaeth a lansiwyd ym mis Hydref. Mae'r gronfa hon bellach wedi'i neilltuo'n llwyr ar ôl ymateb cadarnhaol iawn gan weithredwyr lleol a oedd yn dymuno gwella'u busnes er mwyn gallu denu rhagor o ymwelwyr.

Meddai'r Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae twristiaeth yn gwneud cyfraniad sylweddol at economi Abertawe, felly  rydym yn benderfynol o wneud y cyfan y gallwn i gefnogi'r sector yn ystod cyfnod hynod heriol y pandemig.

"Ers i ni hepgor ffïoedd gyntaf ar ddechrau'r pandemig er mwyn i fusnesau twristiaeth ymddangos yn croesobaeabertawe.com mae dros 70 o fusnesau ychwanegol wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth. Mae hyn yn golygu bod bron 200 o fusnesau twristiaeth bellach yn elwa nid yn unig o'r ffaith eu bod yn fwy amlwg, ond hefyd am eu bod wedi'u cynnwys yn ein hymgyrchoedd marchnata blwyddyn o hyd, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol newydd a fideos newydd, a hysbysebu ar deledu ar alw sy'n cyfeirio pobl yn ôl at y wefan i gael rhagor o wybodaeth.

"Dengys ffigurau fod miliynau lawer o bobl y flwyddyn yn mynd i wefan Croeso Bae Abertawe, felly mae hyn yn gyfle gwych i fusnesau twristiaeth godi eu proffil ymhellach wrth i ni nesáu at dymhorau hollbwysig y Pasg a'r haf i'r sector twristiaeth."

Mae busnesau sydd wedi elwa o hepgor y ffi ar gyfer y wefan yn cynnwys bwyty a bar El Pescador ar Trawler Road, yn ogystal â gwesty'r King Arthur yn Reynoldston, Gŵyr.

Meddai Carly Shapton o westy'r King Arthur , "O gofio'r effaith y mae Coronafeirws wedi'i chael ar y sector lletygarwch ers mis Mawrth 2020, mae'r cymorth a roddwyd gan Gyngor Abertawe drwy hepgor ffïoedd partneriaeth Croeso Bae Abertawe wedi cael ei werthfawrogi'n fawr.

"Mae'r diweddariadau e-bost wythnosol ac ymweliadau gan newyddiadurwyr, ac yn enwedig yr adran 'Argaeledd Hwyr' ar wefan Croeso Bae Abertawe, wedi bod yn ddefnyddiol iawn. Mae hyn wedi rhoi hwb ychwanegol i'n busnes yn ystod yr hyn sydd wedi bod yn flynyddoedd anodd."

Mae Cyngor Abertawe bellach wedi neilltuo dros £13.6m i fwy na 50 o brosiectau fel rhan o'i Gronfa Adferiad Economaidd. Mae cynlluniau eraill a gwmpesir gan y gronfa hon yn cynnwys mentrau teithio ar fysus am ddim, darparu defnydd o fannau cyhoeddus awyr agored am ddim er mwyn i fusnesau ehangu a gosod goleuadau Nadolig ychwanegol yng nghanol y ddinas dros dymor yr ŵyl.

Cwmpesir yr Hwb Ymwybyddiaeth Ynni newydd ar Nelson Street gan y gronfa hefyd. Bwriad yr hwb a gomisiynwyd gan y cyngor ac a redir gan Ganolfan yr Amgylchedd yw ceisio helpu pobl leol i leihau eu biliau tanwydd drwy ddarparu cefnogaeth hygyrch, annibynnol am ddim.

Close Dewis iaith