Toglo gwelededd dewislen symudol

Disgwylir i Gynghorydd hir ei wasanaeth ddod yn Arglwydd Faer

Disgwylir i ddau o gynghorwyr hwyaf eu gwasanaeth Abertawe ddod yn Arglwydd Faer ac yn Ddirprwy Arglwydd Faer.

Paxton Hood-Williams (Deputy Lord Mayor)

Paxton Hood-Williams (Deputy Lord Mayor)

Bydd y Cyng. Paxton Hood-Williams yn olynu'r Cynghorydd Graham Thomas i ddod yn Arglwydd Faer ar gyfer 2024/25, a'i ddirprwy fydd y Cyng. Wendy Fitzgerald.

Bydd y Cyng. Hood-Williams, sydd wedi bod yn aelod ward dros Fairwood ers 2004, yn dechrau yn ei swydd ar ôl ei urddo ym mis Mai ar ôl i'r Cyngor Llawn gytuno i'r symudiad yn ei gyfarfod ar 21 Mawrth.

Fel Arglwydd Faer, bydd gan y Cyng. Hood-Williams rôl ddinesig a seremonïol bwysig fel llysgennad swyddogol y ddinas. Bydd hefyd yn ymwneud â chodi arian er sawl achos da lleol.

Mae'r Arglwydd Faer, y Cyng. Paxton Hood-Williams yn cynrychioli ardaloedd Y Crwys, Cilâ Uchaf a Fairwood. Mae'n byw yn Y Crwys.

Cafodd y Cyng. Hood-Williams ei eni a'i fagu yng Nghilâ Uchaf a symudodd i'r Crwys ar ôl iddo briodi. Mae wedi bod yn Gynghorydd Cymunedol ar gyfer Y Crwys (ers canol y 1980au) a Chilâ Uchaf (ers dechrau'r 2000au), ac mae'n frwdfrydig dros wasanaethu'r gymuned.

Meddai'r Cyng. Hood-Williams, "Rwy'n ddiolchgar iawn i'm cyd-gynghorwyr am eu cefnogaeth wrth fy enwebu'n Arglwydd Faer. Mae'n anrhydedd ac yn fraint enfawr cael gwasanaethu cymunedau Abertawe fel eu Harglwydd Faer dros y flwyddyn nesaf."

"Mae fy ngwraig, Patricia a minnau eisoes yn edrych ymlaen at fynd hwnt ac yma i gwrdd â phobl y ddinas wych hon rydym yn meddwl y byd ohoni, yn ogystal â chynrychioli Abertawe i ymwelwyr ac fel llysgennad ar adeg gyffrous iawn i'n cymunedau."

Mae'r Cyng. Hood-Williams wedi cefnogi clwb pêl-droed Dinas Abertawe ers y 1950au a gweithiodd ar safle gwaith dur Margam cyn ymddeol fel uwch-reolwr y gwasanaethau peirianneg yn 2004.

Ers hynny mae wedi cynnal ei gyfranogaeth helaeth mewn gwasanaethu ei gymuned fel Cadeirydd Cyngor Cymunedol Y Crwys, aelod o Gyngor Cymunedol Cilâ Uchaf a llywodraethwr yn Ysgolion Cynradd Crwys a Chilâ.

Meddai, "Rwy'n hynod falch o gyflawniadau staff, athrawon a disgyblion y ddwy ysgol. Rydym mor ffodus o fyw yn un o ardaloedd harddaf Cymru, sy'n un o'r rhesymau pam rwy'n ymwneud â nifer o sefydliadau lleol sy'n gofalu am fuddion AoHNE Gŵyr.

Mae gan Paxton a Patricia ferch o'r enw Laura, a dwy wyres, Felicite, sy'n astudio bioleg môr ar hyn o bryd, a Gwenllian, sy'n astudio peirianneg awyrofod. Maent yn byw yn Berkshire, lle mae gŵr Laura, Stephen, sy'n beilot gleidiwr byd-enwog, yn rhedeg ei fusnes awyrenegol.

Close Dewis iaith