Toglo gwelededd dewislen symudol

Meddygon Teulu'n Adrodd am Farwolaethau

Ar hyn o bryd mae Gwasanaeth y Crwner ar gyfer Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn cyflwyno system electronig newydd ar gyfer unrhyw atgyfeiriadau i Grwner EM.

Bydd hyn yn cynnwys mewnbynnu'r wybodaeth yn uniongyrchol i system y Crwner drwy borth. Bydd hyn yn sicrhau bod yr wybodaeth y mae'r Crwner yn ei derbyn yn gywir oherwydd fe'i derbynnir yn uniongyrchol o'r feddygfa.

Mae'r system newydd yn gweithio drwy gyrchu dolen i'n porth lle mae'r data'n cael ei fewnbynnu'n uniongyrchol.

Defnyddiwch y ddolen atgyfeirio hon

Y ddolen y mae'n rhaid i'ch tîm ei defnyddio i gael mynediad at dudalen atgyfeiriadau ein porth yw: https://coronersswanseaportal.icasework.com/form?Type=CorornersReferral&Login=False.

Gall pawb ddefnyddio'r un ddolen gan nad yw'n benodol i'r defnyddiwr. Gellir arbed y ddolen yn eu porwr drwy ei nodi fel ffefryn (favourite). Mae hyn yn gweithio orau gyda naill ai Microsoft Edge neu Google Chrome.

Canllaw

Gellir lawrlwytho canllaw cam wrth gam i bob tudalen yma. Os oes gennych unrhyw gwestiynau e-bostiwch neu ffoniwch brif swyddfa'r Crwner.

Meddygfeydd teulu - canllaw i nodi atgyfeiriadau marwolaeth ym mhorth y crwner (Word doc) [860KB]

Ar dudalen 2 bydd angen nodi'r 'côd cyfeirio', sef GP01 (sero yw'r trydydd nod) ar gyfer meddygon teulu. Hefyd ar frig tudalen 2 mae'r opsiwn i lanlwytho unrhyw ddogfennau ategol fel y Dystysgrif Feddygol dros Achos y Farwolaeth neu Grynodeb o'r Claf etc.Byddai'n well gan y Crwner i'r Crynodeb o'r Claf gael ei lanlwytho gyda'r atgyfeiriad os yw hyn yn bosib.

Ar dudalen 4, nodwch y rheswm dros y ffurflen atgyfeirio o'r dewislen. Gallwch ychwanegu rhagor o wybodaeth yn y blwch 'Rhesymeg fanwl"

Close Dewis iaith