Toglo gwelededd dewislen symudol

Ceisiadau am gyllid Men's Sheds ar gael

Mae grantiau gwerth £25,000 bellach ar gael i gefnogi Men's Sheds presennol yn Abertawe a chefnogi rhai newydd.

Mens Shed Generic

Mens Shed Generic

Mannau cymunedol yw Men's Sheds, lle gall dynion a menywod o bob cefndir gwrdd, sgwrsio a chymryd rhan mewn gweithgareddau'r sied.

Maent yn rhan o rwydwaith sy'n ehangu o amgylch Abertawe a'r DU.

I wneud cais ewch i: https://www.abertawe.gov.uk/cymorthAriannolMensSheds erbyn y dyddiad cau, sef dydd Llun 8 Gorffennaf.

Does dim isafswm neu uchafswm wedi'i osod ar gyfer ceisiadau, ond rhagwelir y bydd grantiau cyfartalog oddeutu £1,750.

E-bostiwch tacklingpoverty@abertawe.gov.uk os hoffech drafod eich cais cyn ei gyflwyno.