Gwella cysylltedd dyfeisiau symudol yng nghanol dinas Abertawe
Mae cynlluniau i wella cysylltedd ffonau symudol yng nghanol dinas Abertawe wedi cymryd cam mawr ymlaen.
Yn dilyn cytundeb newydd rhwng Cyngor Abertawe a chwmni o'r enw Freshwave bydd technoleg celloedd bach yn cael ei gosod ar oleuadau stryd i helpu i hybu capasiti'r rhwydwaith yn ystod cyfnodau prysur.
Mae Virgin Media O2 wedi ymrwymo i osod hyd at 10 cell fach yng nghanol y ddinas i ddechrau, a rhagwelir y bydd rhagor o fuddsoddiadau.
Mae'r celloedd bach hefyd yn cefnogi'r posibilrwydd o gyflwyno technoleg arall i fonitro pethau fel biniau clyfar a llygredd aer.
Mae'r cytundeb yn cyd-fynd â nod Rhaglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe i roi hwb economaidd rhanbarthol o £318 miliwn yn y blynyddoedd nesaf.
Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe: "Nod y cynllun hwn yw mynd i'r afael â materion cysylltedd yng nghanol dinas Abertawe yn ogystal â chefnogi ein huchelgais i ddod yn ddinas sy'n fwy datblygedig yn ddigidol.
"Hefyd bydd yn cael ei ddiogelu at y dyfodol i ateb y galw cynyddol am ddata a chysylltedd, gan feithrin arloesi er budd ein trigolion a'n busnesau.
"Mae'r cydweithio rhwng Rhaglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe a Chyngor Abertawe, Freshwave a Virgin Media O2 yn gam pwysig tuag at sicrhau bod canol dinas Abertawe yn fwy cysylltiedig ac yn fwy datblygedig yn dechnegol gydag asedau sy'n gallu arwain at dirwedd ddinesig fwy ffyniannus i drigolion, ymwelwyr a buddsoddwyr posibl."
Mae cytundeb mynediad agored wedi'i lofnodi, gan ganiatáu i weithredwyr rhwydweithiau symudol ddefnyddio a rhannu asedau sy'n eiddo i'r cyngor ar gyfer eu seilwaith digidol.
Mae'r dull mynediad agored anghyfyngol yn galluogi awdurdodau lleol i gadw rheolaeth ar eu hasedau wrth ymgysylltu â nifer o weithredwyr rhwydweithiau symudol.
Mae manteision y model mynediad agored hwn yn cynnwys lleihau rhwystrau ar gyfer gweithredwyr rhwydweithiau symudol, cymell y defnydd o'r seilwaith presennol, gwella'r ôl troed ffeibr, a hwyluso defnyddio technolegau newydd yn gyflymach.
Dywedodd Steven Verigotta, Pennaeth Cyflawni Ôl-drosglwyddo Symudol a Radio yn Virgin Media O2: "Mae gennym y rhwydwaith mwyaf o ran celloedd bach o blith unrhyw weithredwyr mawr yn y DU, ac felly rydym yn deall mor effeithiol y gallant fod wrth hybu capasiti'r rhwydwaith lleol mewn ardaloedd prysur.
"Gyda rhaglenni uwchraddio ar waith ar draws ein rhwydwaith, rydym yn gweithio'n galed i sicrhau bod ein cwsmeriaid yn cael profiad rhwydwaith eithriadol ble bynnag y maen nhw a hyd yn oed ar yr adegau prysuraf."
Mae Freshwave - darparwr cysylltedd seilwaith fel gwasanaeth - yn hwyluso cydweithio rhwng gweithredwyr symudol, endidau o'r llywodraeth, a darparwyr eiddo tirol, gan gynnig atebion cysylltedd cyflymach, cost-effeithiol ac mewn mannau strategol.
Dywedodd Nick Wiggin, Pennaeth Partneriaethau yn Freshwave: "Rydym yn hapus iawn ein bod wedi llofnodi cytundeb mynediad agored gyda Chyngor Abertawe ac rydym yn edrych ymlaen at roi'r dechnoleg ar waith ar ran Virgin Media O2 er budd eu cwsmeriaid. Mae cytundebau mynediad agored yn ei gwneud hi'n haws gosod technolegau newydd fel y gall cymunedau fwynhau cysylltedd gwell a'r holl fanteision a ddaw yn sgil hynny."
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Laura Jenkins - Rheolwr Cysylltiadau Cysylltedd Digidol - Laura.jenkins@swansea.gov.uk