Rhagor o enwogion dawns a chomedi'n rhan o restr berfformio'r arena
Mae dau berfformiwr enwog arall wedi'u hychwanegu at restr berfformio Arena Abertawe ar gyfer 2022.


Mae tocynnau bellach ar werth ar gyfer seren Strictly Come Dancing, Johannes Radebe, a'r digrifwr Rob Beckett.
Bydd Radebe yn perfformio yn y lleoliad nos Iau 24 Mawrth a bydd Beckett yn cyflwyno'i daith 'Wallop' yn yr atyniad newydd nos Iau 12 Mai.
Mae'r arena, a gaiff ei gweithredu gan Ambassador Theatre Group, yn un nodwedd o ardal newydd cam un Bae Copr gwerth £135m sy'n cael ei datblygu gan Gyngor Abertawe a'i chynghori gan y rheolwyr datblygu RivingtonHark.
Mae nodweddion eraill yr ardal newydd yn cynnwys parc arfordirol 1.1 erw, cartrefi newydd, mannau ar gyfer busnesau hamdden a lletygarwch, lleoedd parcio newydd a'r bont newydd dros Oystermouth Road.
Bydd y gwaith adeiladu, dan arweiniad Buckingham Group Contracting Ltd, yn cael ei orffen yn ddiweddarach yn y flwyddyn, a disgwylir i'r arena agor ei drysau'n gynnar yn 2022.
Ewch i www.swansea-arena.co.uk i brynu tocynnau ar gyfer Arena Abertawe, i gael gwybodaeth ac i danysgrifio i e-gylchlythyr yr arena er mwyn cael cyfle arbennig i brynu tocynnau cyn iddynt fynd ar werth a chael y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf am sioeau.