Mwy o deithio ar fysus am ddim yn rhan o fuddsoddiad i gefnogi preswylwyr
Bydd teithiau ar fysus am ddim i breswylwyr yn dychwelyd yr haf hwn fel rhan o fuddsoddiad newydd mawr gan Gyngor Abertawe er budd teuluoedd a chymunedau sy'n ei chael hi'n anodd.
Bydd y cynnig teithio ar fysus am ddim sydd ar gael yn ystod gwyliau haf yr ysgol a'r prif wyliau ysgol ar adeg y Nadolig a'r Pasg ymysg pecyn cymorth y mae'r cyngor yn ei ddarparu.
Mae cynlluniau eraill sy'n cael eu hariannu gan yr hwb o £4.53m dros y flwyddyn nesaf yn cynnwys:
- Parhau i wella llochesi bysus
- Parhau i osod biniau sbwriel a baw cŵn newydd
- Buddsoddiad pellach mewn atgyweirio ffyrdd
- Gosod rhagor o mwy o gyrbau wedi'u gostwng mewn palmentydd mewn ardaloedd â nifer uchel o ymwelwyr
- Parhau i ddarparu adnoddau ychwanegol ar gyfer timau draenio i lleihau'r tebygolrwydd o broblemau llifogydd mewn cymunedau
Gwneud gwelliannau i ragor o feysydd chwarae yn y ddinas a chyflwyno llwybrau natur mewn ardaloedd a dargedir.
Gellid cynnal astudiaeth hefyd i ariannu dylunio a gosod cofeb addas i gydnabod y rheini a gollodd eu bywydau o ganlyniad i COVID, wrth ddathlu ymroddiad gweithwyr allweddol yn ystod y pandemig.
Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Bydd y buddsoddiad hwn yn cael ei dargedu lle mae ei angen fwyaf er budd cynifer o breswylwyr a chymunedau yn Abertawe â phosib.
"Gwyddom fod problemau fel biniau a chyflwr ein ffyrdd yn flaenoriaeth i bobl leol felly bydd buddsoddiad ychwanegol mewn gwelliannau ac atgyweiriadau yn parhau.
"Bydd y cynnig teithio ar fysus am ddim yn Abertawe hefyd ar gael unwaith eto i bobl leol yn ystod gwyliau haf yr ysgol wrth i ni barhau i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi preswylwyr yn ystod yr argyfwng costau byw.
"Mae'r holl gynlluniau sy'n rhan o'r buddsoddiad hwn gwerth £4.53m yn cael eu hariannu gan gronfa adferiad economaidd y cyngor, gydag arian wedi'i neilltuo ar gyfer meysydd blaenoriaeth dros y flwyddyn nesaf."
Mae cynlluniau eraill y mae'r buddsoddiad yn eu cynnwys yn cynnwys datblygu mannau ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau gyda chyfleusterau gwefru ffonau symudol sydd wedi'u pweru gan ynni adnewyddadwy.
Bydd arian hefyd yn cael ei fuddsoddi mewn offer teledu cylch cyfyng newydd fel rhan o fesurau i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghymunedau'r ddinas.