Toglo gwelededd dewislen symudol

Hwb ariannol i ragor o brosiectau gwledig yn Abertawe

Mae tro natur llesol sy'n cysylltu eglwysi hanesyddol, marchnad flodau a chynlluniau i helpu i dorri ôl troed carbon Abertawe ymysg y rheini a fydd yn elwa cyn bo hir o hwb ariannol sylweddo

Gower meadow

Gower meadow

Mae Cyngor Abertawe bellach wedi dyfarnu cyllid sy'n werth cyfanswm o £178,000 ar y cyd i 14 cynllun fel rhan o ail rownd y prosiect angori gwledig cyffredinol sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae hyn yn dilyn cyllid sydd wedi'i ddyfarnu'n flaenorol i brosiectau eraill fel rhan o'r rownd ariannu gyntaf.

Mae cynlluniau sydd wedi gwneud cais llwyddiannus am gyllid prosiect rownd dau yn cynnwys:

  • Prosiect Troeon Myfyriol yng Ngŵyr, sy'n darparu troeon natur llesol a gweithgareddau creadigol yn seiliedig ar yr eglwysi hanesyddol sy'n rhan o Lwybr Pererindod Gŵyr a sefydlwyd i gerddwyr a beicwyr yn 2022 gan ddefnyddio grant gwledig a ddyfarnwyd yn flaenorol. Caiff y cyllid ei ddefnyddio i gyflogi cydlynydd digwyddiadau i archwilio'r prosiect fel cynllun peilot a sefydlu sylfaen o wirfoddolwyr.
  • Creu marchnad flodau fisol yn fferm flodau Petallica yn Nyfnant. Byddai'r farchnad yn gwerthu cynnyrch a dyfwyd yn lleol, sy'n foesegol ac yn llesol i'r amgylchedd i siopau blodau lleol a'r cyhoedd, gan helpu i sefydlu system cadwyn gyflenwi leol.
  • Gosod pympiau gwres ffynhonnell aer yn Eglwys Gymunedol Bont Elim ym Mhontarddulais i leihau ôl troed carbon yr adeilad a gwella'i effeithlonrwydd ynni.
  • Cyfarpar sylfaenol fel matiau i amddiffyn y ddaear ar gyfer lleoliad glaswelltir bioamrywiol, biniau ailgylchu ac uned storio a fydd yn fuddiol i farchnad bwyd a chrefftau leol yn Neuadd Les Felindre.
  • Gosod llifoleuadau ynni-effeithlon, llygredd isel mewn ardal gemau aml-ddefnydd cymunedol pob tywydd mynediad agored arfaethedig yng Nghraig-cefn-parc.

Mae'r holl brosiectau sy'n cyflwyno ceisiadau am arian yn cael eu hasesu gan grŵp ymgynghorol lleol.

Caiff mesurau lleihau carbon eu cyflwyno hefyd yn Neuadd Gymunedol Cilâ Uchaf, gyda gwelliannau i'r inswleiddio, paneli solar ar y to a gosod system storio batris i gynnal y goleuadau yno.

Close Dewis iaith