Gwaith ymchwilio'n digwydd yn fuan ar safle datblygu yng nghanol dinas Abertawe
Bydd mwy o waith ymchwilio'n mynd rhagddo'n fuan yn safle datblygu canol dinas Abertawe wrth i baratoadau ar gyfer cynlluniau adfywio mawr barhau.
Gwneir y gwaith gan yr arbenigwyr adfywio Urban Splash fel rhan o waith creu cynigion ar gyfer y safle yn hen safle Canolfan Siopa Dewi Sant mewn partneriaeth â'r cwmni eiddo tirol, Milligan.
Urban Splash yw partner adfywio tymor hir Cyngor Abertawe ar gyfer nifer o safleoedd yng nghanol y ddinas ac ar y glannau. Mae cynigion defnydd cymysg manwl ar gyfer safle Dewi Sant yn cael eu datblygu ar hyn o bryd a byddant yn cynnwys hwb sector cyhoeddus, yn ogystal ag ardal swyddfeydd newydd a fydd yn cynhyrchu swyddi newydd yn yr ardal ac yn cynyddu nifer yr ymwelwyr sy'n ymweld â busnesau yng nghanol y ddinas a thu hwnt.
Yn dilyn diwrnod o waith tebyg y mis diwethaf, bydd y gwaith ymchwilio safle nesaf yn dechrau ddydd Llun 13 Mai a bydd yn para tua wythnos.
Caiff ffens ei chodi o amgylch rhan o'r ardal laswelltog y tu allan i Eglwys Dewi Sant wrth i'r gwaith fynd rhagddo a gwneir pob ymdrech i sicrhau cyn lleied o darfu â phosib ar y cyhoedd.
Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, Mae'r cynlluniau ar gyfer hen safle Canolfan Siopa Dewi Sant, a arweinir gan Urban Splash mewn partneriaeth â Milligan, yn rhan allweddol o waith trawsnewid parhaus canol ein dinas sy'n werth £1 biliwn, sy'n parhau'n gyflym.
"Byddant yn ychwanegu at yr holl gynlluniau eraill sydd naill ai wedi'u cwblhau neu wedi'u cynllunio i greu canol dinas mwy bywiog i breswylwyr, busnesau ac ymwelwyr, gan greu swyddi i bobl leol."
Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Pan fyddant yn barod, bydd cynlluniau manwl ar gyfer y cynllun hwn ar gael ar gyfer adborth gan y cyhoedd. Byddant yn helpu i greu ardal newydd wych sy'n cysylltu canol y ddinas â'r bont newydd dros Oystermouth Road, Arena Abertawe a'r parc arfordirol, a bydd hefyd yn dod â mwy o ymwelwyr i'n busnesau presennol.
"Mae gwaith ymchwilio safle'n rhan arferol o unrhyw gynllun adfywio mawr, ond mae'n dangos y cynnydd a wneir â'r cynlluniau hyn, sy'n rhan o'n hymrwymiad i gyflwyno canol dinas mwy ffyniannus er lles pawb."
Mae safleoedd eraill i'w hailddatblygu gan Urban Splash yn y blynyddoedd sy'n dod yn cynnwys y Ganolfan Ddinesig ar lan y môr. Bydd y cynigion ar gyfer y safle hwnnw'n cael eu darparu i'r cyhoedd hefyd er mwyn iddynt roi adborth arnynt unwaith y maent wedi'u sefydlu'n fanylach.