Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhwydwaith biniau sbwriel y ddinas yn cael ei uwchraddio er mwyn helpu i gadw Abertawe'n daclus

Mae cymunedau ar draws Abertawe'n cael cannoedd o finiau gwastraff newydd i annog preswylwyr ac ymwelwyr i chwarae eu rhan wrth gadw'r ddinas yn daclus.

Dros y chwe mis diwethaf, mae mwy na 400 o finiau newydd wedi cael eu gosod mewn parciau, strydoedd ac ar draethau fel rhan o ystod o fesurau a fydd yn gwella'r ddarpariaeth biniau ac ymdrin â phroblemau sbwriel.

Mae biniau mawr sy'n gallu derbyn pob math o wastraff yn cael eu gosod yn lle biniau baw cŵn sydd wedi dyddio ac mae biniau 'clyfar' newydd sy'n dweud wrthych pryd maent yn llawn yn cael eu treialu.

Mae'r fenter yn rhan o addewid y cyngor i greu amgylchedd glanach i bawb ac annog preswylwyr i ymfalchïo yn eu cymuned.

Dywedodd Cyril Anderson, Aelod y Cabinet dros Gymunedau fod y biniau sbwriel newydd yn cael eu gosod mewn lleoliadau prysur o gwmpas y ddinas yn ogystal ag mewn parciau ac wrth draethau fel Langland a Caswell.

Meddai, "Mae gwacáu a chynnal biniau sbwriel yn y ddinas yn dasg enfawr ac yn un sy'n hanfodol o ran cadw cymunedau'n lan.

Meddai, "Y Pasg yw tymor gwyliau mawr cyntaf y flwyddyn felly rydym hefyd yn annog preswylwyr ac ymwelwyr fel y'i gilydd i chwarae eu rhan wrth gadw Abertawe'n daclus drwy ddefnyddio'r biniau, neu - os ydynt yn llawn - drwy fynd â'u gwastraff adref gyda nhw.

"Dros y chwe mis diwethaf, rydym wedi bod yn gweithio gydag aelodau wardiau, Cadwch Gymru'n Daclus a phreswylwyr lleol i arolygu lleoliadau biniau sbwriel a baw cŵn presennol i asesu'r defnydd ohonynt a'u cyflwr ac i edrych ar a oes angen rhai newydd yn eu lle.

"Ble bynnag y ceir gwared arnynt, mae biniau newydd sy'n derbyn pob math o wastraff yn cael eu gosod yn eu lle, y gall ein tîm ddidoli'r gwastraff cyn iddo gael ei ailgylchu neu ei waredu."

 

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 22 Mai 2023