Rhagor o blant dwy flwydd oed i gael gofal plant am ddim
Gall rhagor o blant dwy flwydd oed yn rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig Abertawe gael hwb cyn dechrau mynd i'r ysgol gan eu bod bellach yn gymwys ar gyfer 12 awr a hanner o ofal plant wedi'i ariannu yr wythnos.
Mae Cyngor Abertawe wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i ehangu'r ddarpariaeth Blynyddoedd Cynnar fesul cam yn ystod y tymor ysgol.
O heddiw, bydd rhieni a gofalwyr yng nghymunedau mwyaf difreintiedig y ddinas nad yw eu plant eisoes yn rhan o raglen Dechrau'n Deg yn gallu gwirio a ydynt bellach yn gymwys fel rhan o gam nesaf cyflwyno'r cynnig gofal plant a gallant wneud cais wedyn os ydynt.
Gallwch wneud hyn drwy ddilyn y ddolen hon: www.abertawe.gov.uk/cymhwyseddgofalplantdechraundeg
Os ydynt yn gymwys, gall rhieni a gofalwyr ddewis wedyn a ydynt yn dymuno i'w plentyn gael dwy awr a hanner o ofal plant a ariennir y dydd, naill ai yn un o 18 o leoliadau gofal plant presennol y cyngor neu gyda darparwr gofal plant sydd wedi'i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) sydd wedi'i restru ar restr gymeradwy'r cyngor.