Toglo gwelededd dewislen symudol

Cefnogaeth yn parhau fis ar ôl y digwyddiad

Diolchwyd i gymunedau yn Abertawe am barhau i gefnogi'r rheini yr effeithiwyd arnynt gan y ffrwydrad mewn eiddo preswyl yn Nhreforys.

Scene of gas explosion in Morriston

Scene of gas explosion in Morriston

Fis ar ôl y digwyddiad dinistriol, mae rhoddion i apêl frys a sefydlwyd i helpu aelwydydd yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol yn parhau i gael eu rhoi.

Mae Cyngor Abertawe a'i bartneriaid hefyd yn parhau i gefnogi'r gymuned a byddant yn parhau i wneud hynny gyhyd ag y bydd angen.

Mae nifer o aelwydydd na allant ddychwelyd adref nes i atgyweiriadau gael eu gwneud wrthi'n trafod â'u cwmnïau yswiriant.

Mewn rhai achosion, mae angen gwneud cryn dipyn o waith a allai gymryd misoedd i'w gwblhau. Mae gwasanaethau Cyngor Abertawe yn parhau i gysylltu â deiliaid tai a chwmnïau yswiriant i roi cyngor wrth i'r gwaith hwn barhau.

Mae'r cyngor wedi lleoli pwynt cefnogaeth gymunedol yn Llyfrgell Treforys lle mae tîm wedi bod yn helpu'r rheini yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol gydag amrywiaeth eang o ymholiadau.

Roedd timau'r cyngor yn allweddol yn yr ymgyrch lanhau gychwynnol wrth iddynt glirio'r ffyrdd o gwmpas safle'r ffrwydrad.

Maent wedi creu ffordd dros dro fel y gall pobl yn Field Close gael mynediad i'w cartrefi.

Mae Cyngor Abertawe wedi bod yn cefnogi'n partneriaid yng Nghyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe a sefydlodd apêl frys, a bydd pob ceiniog a godir o hyn yn mynd i'r preswylwyr.

Diolch i haelioni rhyfeddol unigolion, sefydliadau a busnesau, mae mwy na £30,000 wedi'i godi hyd yma gyda mwy i ddod gan gynnwys arian a godwyd mewn cyngerdd gymunedol yng nghapel y Tabernacl Treforys yr wythnos diwethaf.

Meddai Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, "Erys ein meddyliau o hyd gyda'r rheini y mae'r trychineb ofnadwy hwn wedi effeithio arnynt.

"Rydym wedi ceisio mynd gam ymhellach wrth wneud yr hyn y gallwn i gefnogi preswylwyr yn uniongyrchol a hoffwn ddiolch i'n timau ar lawr gwlad am eu gwaith a fydd yn parhau gyhyd ag y mae ei angen."

 

Close Dewis iaith