Toglo gwelededd dewislen symudol

Nesaf yn eich haf llawn digwyddiadau gwych: Penwythnos o gerddoriaeth

​​​​​​​Bydd haf llawn digwyddiadau gwych Abertawe yn parhau'r wythnos hon gyda thri digwyddiad cerddoriaeth pwysig ym Mharc Singleton.

James Arthur

James Arthur

Mae'r lleoliad sy'n dod yn fwyfwy boblogaidd ar gyfer perfformwyr o'r radd flaenaf yn paratoi i groesawu James Arthur, Classic Ibiza Abertawe a Let's Rock Wales o nos Iau i nos Sadwrn. Gwybodaeth lawn

Mae'r Cyngor yn gweithio gyda hyrwyddwyr y sioe i sicrhau bod y rhai sydd wedi prynu tocynnau'n cael amser gwych a bod yr holl hwyl yn tarfu cyn lleied â phosib ar breswylwyr a modurwyr lleol.

Dim ond un ffordd fydd ar gau, sef rhan o Brynmill Lane ddydd Sadwrn.

Meddai Aelod Cabinet y Cyngor, Robert Francis-Davies, "Rydym yn falch iawn bod Parc Singleton wedi denu enwogion o'r byd cerddoriaeth wrth i'n haf llawn digwyddiadau gwych barhau." 

Bydd James Arthur, y canwr/cyfansoddwr caneuon sydd wedi cyrraedd brig siartiau'r DU yn dod â'i sioe haf i Barc Singleton nos Iau.    

Bydd Classic Ibiza Abertawe yn dod i'r ddinas nos Wener ac mae'n addo noson o anthemau dawns enwog wedi'u perfformio o dan y sêr.

Mae Let's Rock Wales yn ŵyl gerddoriaeth 'retro' a fydd yn dod i Abertawe am y tro cyntaf ddydd Sadwrn.

Dim ond un ffordd fydd ar gau ddydd Sadwrn. Bydd Brynmill Lane ar gau o Oystermouth Road i gylchfan Bryn Road rhwng 4pm a 11.30pm.

Bydd cyfyngiadau parcio dros dro ar waith o 4pm ddydd Iau tan 11.30pm nos Sadwrn. Bydd y cyfyngiadau ar waith ar Gower Road - bydd cyfyngiad 200m ar bob ochr i fynedfa'r parc a chyfyngiad 50m ar bob ochr i fynedfa'r ysgol.

Cwestiynau cyffredin a gwybodaeth am y ffyrdd

Llun:James Arthur.

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 17 Gorffenaf 2024