Toglo gwelededd dewislen symudol

Abertawe i ddod yn arweinydd y DU wrth dorri tir newydd yn y maes cynhyrchion naturiol

Wrth helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, disgwylir i Abertawe ddod yn arweinydd y DU o ran ymchwil a menter yn y sector cynhyrchion naturiol.

Natural Products BioHUB

Natural Products BioHUB

Mae Prifysgol Abertawe wedi gwneud cais llwyddiannus am £587,000 gan Gyngor Abertawe ar gyfer y Prosiect BioHYB Cynhyrchion Naturiol drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Mae cynhyrchion naturiol yn sylweddau neu'n gyfansoddion a ganfyddir mewn natur, organebau morol, bacteria, ffyngau a phlanhigion.

Nod y Prosiect BioHYB Cynhyrchion Naturiol yw annog defnydd ehangach o gynhyrchion naturiol yn y diwydiannau amaethyddol, fferyllol a gweithgynhyrchu i helpu i ddatblygu dinas a rhanbarth iachach, gwyrddach a mwy cynaliadwy.

Bydd y prosiect yn:

  • Cefnogi twf busnesau bio-seiliedig neu fiodechnegol drwy ddarparu arbenigedd ymchwil a datblygu. Cynnwys busnesau newydd a busnesau deillio.
  • Arwain at ddatblygu cynhyrchion naturiol a gwasanaethau newydd, diolch i'r cydweithio rhwng arbenigwyr academaidd a diwydiant. Cynnwys rhwydweithio rhwng cwmnïau bio-seiliedig a biodechnegol a chwmnïau gwyddor data a roboteg.
  • Hybu cymunedau drwy wella isadeiledd gwyrdd a galluogi mynediad at gynhyrchion lleol sy'n seiliedig ar natur
  • Buddiol i fusnesau lleol oherwydd y cynnydd yn nifer y bobl a fydd yn dod i gysylltiad â hyn drwy ddigwyddiadau rhwydweithio cynlluniedig a chynadleddau rhyngwladol.
  • Archwilio cyfleoedd i weithio gyda chwmnïau bio-seiliedig a biodechnegol sy'n bwriadu adleoli i Ddinas-ranbarth Bae Abertawe.

Meddai Dr Farooq Shah, o Brifysgol Abertawe, "Mae'r prosiect yn darparu llwybr carlam er mwyn trosi ymchwil arloesol yn gynhyrchion ecogyfeillgar sy'n seiliedig ar natur, gan feithrin manteision economaidd drwy gwmnïau deillio, busnesau newydd a buddsoddiadau. Bydd yn helpu i hyrwyddo cyfleoedd lleol, cynnwys y gweithlu a datblygu polisi i fynd i'r afael â heriau byd-eang."

Bydd Prifysgol Abertawe yn gweithio hefyd gyda Chyngor Abertawe a Hacer Developments i archwilio ffynonellau ariannu a allai helpu i sefydlu hwb deori yn yr 'adeilad byw' sy'n cael ei godi ar hyn o bryd yn Iard Picton yng nghanol y ddinas. Byddai'r hwb yn cynnig labordy a swyddfeydd ar gyfer busnesau newydd a chwmnïau deillio.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae'r prosiect BioHYB Cynhyrchion Naturiol yn deilwng iawn o'n cefnogaeth gan fod ganddo botensial enfawr nid yn unig i roi Abertawe wrth wraidd arloesedd cynhyrchion naturiol byd-eang ond hefyd i gyfrannu at ddinas iachach, gwyrddach a fwy cynaliadwy yn y dyfodol.

"Mae ei ffocws ar fusnesau newydd a deillio lleol yn y sector bio-seiliedig a biodechnegol hefyd yn creu cyfleoedd swyddi medrus i bobl leol, wrth annog busnesau eraill yn y sector hwn i adleoli i Abertawe, gan roi hwb pellach i'n heconomi leol a chynhyrchu mwy o swyddi.

"Bydd y prosiect yn ategu'r holl waith y mae'r cyngor a'n partneriaid yn y sectorau cyhoeddus a phreifat yn ei wneud i helpu i greu dinas carbon sero net."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 22 Awst 2023