Toglo gwelededd dewislen symudol

Yn eisiau: Sefydliad partner sy'n awyddus i helpu'r ddinas i fynd yn sero-net

Mae Cyngor Abertawe'n galw ar fusnesau a sefydliadau i helpu'r ddinas yn ei brwydr dros ddyfodol y blaned.

Thermometer

Thermometer

Mae grŵp - neu fframwaith - o bartneriaid yn cael ei greu i helpu i gyflwyno prosiectau dros y blynyddoedd nesaf a fydd yn helpu Abertawe i ddod yn ddinas sero-net erbyn 2050.

Gall y prosiectau y gallent helpu gyda nhw amrywio o redeg hybiau cymunedol i gyflwyno prosiectau sy'n cynnig atebion bwyd neu gludiant cynaliadwy.

Gall eu meysydd arbenigedd amrywio o reoli prosiectau i gynnal arolygon, ac o gynnal digwyddiadau a chydweithrediad cymunedol i helpu i newid ymddygiadau er gwell a gweithio gyda grwpiau lleiafrifol.

Mae proses dendro newydd ddechrau wrth i'r cyngor ddechrau adeiladu ei fframwaith partner amgylcheddol. Gall sefydliadau a busnesau sy'n ymgeisio fod o unrhyw faint.

Meddai Andrea Lewis, Dirprwy Arweinydd ar y cyd y cyngor, "Bydd sefydliadau sy'n awyddus i fod yn rhan o daith Abertawe i fod yn sero-net yn gweld bod cymryd rhan yn ein fframwaith yn rhoi boddhad mawr.

"Mae'n rhan o'n hymgyrch tuag at wneud y ddinas yn lle gwych i fod ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol - ac mae croeso i bob math o fusnesau a sefydliadau wneud cais.

"Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan y rheini y mae eu gwerthoedd yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru."

Mae'r cyngor eisoes wedi dechrau cyflwyno prosiectau a fydd yn helpu'r ddinas a'r cyngor i leihau allyriadau carbon, gan gynnwys mannau gwefru cerbydau trydan, plannu rhagor o goed ac adeiladu cartrefi cyngor newydd ynni isel.

Gall y rheini sydd am leihau eu biliau ynni nawr gael cyngor gan Hwb Ymwybyddiaeth Ynni newydd Abertawe. Ymhlith y sefydliadau sy'n ei gefnogi mae'r cyngor a Chanolfan yr Amgylchedd Abertawe. Mae'r hwb ar 13 Nelson Street ac mae ar agor ar ddydd Iau o hanner dydd tan 6pm, dydd Gwener (10am-4pm) a dydd Sadwrn (9am-3pm).

Gall y rheini sy'n dymuno datgan yn gyhoeddus eu gweithredoedd i helpu'r ymgyrch tuag at fod yn sero-net wneud hynny yma - www.abertawe.gov.uk/addewidhinsawdd

I gael rhagor o wybodaeth am dendro ar gyfer y fframwaith partner amgylcheddol, cofrestrwch gyda GwerthwchiGymru ac ewch i https://www.gwerthwchigymru.llyw.cymru/. Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau: 24 Chwefror.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 31 Ionawr 2022