Toglo gwelededd dewislen symudol

Lluniau newydd yn dangos y newid i ganol y ddinas

Mae awyrluniau trawiadol newydd yn dangos dau graen enfawr ar Ffordd y Brenin sy'n sefyll uwchben canol dinas a glan môr Abertawe.

Kingsway from above (August 2022)

Kingsway from above (August 2022)

Mae'r ddau graen ar safle hen glwb nos Oceana, lle mae Cyngor Abertawe'n datblygu cynllun swyddfeydd newydd.

Gyda Bouygues UK yn brif gontractwr, mae'r gwaith ar y sylfeini'n symud yn ei flaen ar safle'r datblygiad. Unwaith y caiff ei gwblhau, bydd yn cynnwys lle i 600 o weithwyr yn y sectorau technoleg, digidol a chreadigol i ateb galw lleol.

Bydd y cynllun, sy'n bwriadu cadw doniau busnes ifanc yn Abertawe a denu mwy o ymwelwyr i ganol y ddinas, yn un di-garbon o ran ei weithrediad ac yn werth £32.6m y flwyddyn i economi'r ddinas.

Ariennir cynllun 71/72 Ffordd y Brenin yn rhannol drwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe sy'n werth £1.3 biliwn ac fe'i cefnogir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. 

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, Buddsoddi a Thwristiaeth, "Er gwaethaf COVID, gwyddwn fod galw mawr o hyd am y math hwn o le swyddfa hyblyg o safon yng nghanol y ddinas - yn enwedig ar gyfer gweithwyr mewn sectorau sy'n tyfu fel technoleg a digidol.

"Unwaith y bydd wedi'i orffen ac yn weithredol, bydd yn helpu i atal gweithwyr lleol yn y sectorau hynny rhag mynd â'u doniau i fannau eraill, wrth hybu'n heconomi a helpu i ddenu mwy fyth o fuddsoddiad a swyddi i Abertawe hefyd."

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae'r cyngor a'n partneriaid yn buddsoddi dros £1bn i adfywio canol dinas Abertawe er budd ein preswylwyr, busnesau ac ymwelwyr, ac mae'r awyrluniau hyn yn dangos sawl prosiect sydd naill ai wedi'u cwblhau neu'n mynd rhagddynt.

"Yn ogystal â dangos Ffordd y Brenin ar ei newydd wedd, gydag Arena Abertawe yn y cefndir, mae'r lluniau'n dangos hyd yn oed mwy o gynnydd ar hen safle clwb nos Oceana, lle mae gwaith yn parhau ar y seiliau cyn i'r prif waith adeiladu gychwyn. Mae cynllun 'adeilad byw' cyffrous dan arweiniad Hacer Developments hefyd yn cael ei adeiladu gerllaw yn Iard Picton."

Roedd sicrhau cynnydd yn natblygiad 71/72 Ffordd y Brenin o fewn 100 o ddiwrnodau ymysg addewid ymrwymiadau polisi'r cyngor a gymeradwywyd ym mis Mehefin.

Bydd y datblygiad pum llawr, y disgwylir iddo gael ei gwblhau yn haf 2023, yn cynnwys to gwyrdd, paneli solar ar ben yr adeilad, coed ar bob lefel, gwres dan y llawr a systemau adfer gwres i leihau'r defnydd o ynni.

Mae gwyrddni ar gyswllt newydd i gerddwyr rhwng Ffordd y Brenin a Stryd Rhydychen hefyd yn rhan o'r datblygiad.

Mae'r adeilad - a fydd o fewn munudau i brif orsafoedd bysus a threnau'r ddinas - ar lwybr teithio llesol, a gwnaed gwelliannau'n ddiweddar ar hyd Ffordd y Brenin i ddarparu rhodfeydd a llwybrau beicio ehangach.

Bydd safle bws hefyd y tu allan i'r adeilad.

Close Dewis iaith