Toglo gwelededd dewislen symudol

Grantiau cyn cychwyn a grantiau datblygu gwefannau newydd i fusnesau

Mae cyllid newydd ar gael i ddarpar bobl fusnes yn Abertawe.

Businesswoman on laptop

Businesswoman on laptop

Bydd y cynllun grant busnes cyn cychwyn sy'n cael ei ddarparu gan Gyngor Abertawe yn helpu i dalu am gostau offer neu gyfarpar, datblygu gwefan a meddalwedd busnes, hyfforddiant, achrediad a gwaith marchnata a hyrwyddo.

Mae'r grant yn rhan o brosiect angori cymorth i fusnesau sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Mae'n talu 95% o gostau'r prosiect ar gyfer y £1,000 cyntaf o wariant a 50% o'r costau ar gyfer gwariant rhwng £1,000 a £10,000.

Mae pobl sydd naill ai'n camu i fyd hunangyflogaeth neu'n dechrau busnes newydd yn cael eu gwahodd i wneud cais, er na fydd busnesau sefydledig yn gymwys ar gyfer y grant penodol hwn.

Cyhoeddir cynlluniau grant eraill ar gyfer busnesau sefydledig yn ystod yr wythnosau nesaf.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae gan Abertawe gymaint o sgiliau entrepreneuraidd a phobl â syniadau busnes gwych, ond yn aml mae angen cymorth ariannol arnynt i ddechrau arni, a dyna pam rydyn ni bellach wedi cyflwyno'r cynllun grant hwn.

"Rydym hefyd yn cydnabod yn fawr iawn y cyfraniad hynod bwysig y mae ein busnesau sefydledig yn ei wneud i economi'r ddinas, felly bydd nifer o gynlluniau grant i helpu'r busnesau hynny yn cael eu cyhoeddi'n fuan iawn hefyd.

"Byddant yn dilyn ymlaen o gynllun grant datblygu gwefannau sydd bellach yn fyw, gyda cheisiadau yn cael eu gwahodd gan fusnesau o bob math."

Gall y grant datblygu gwefannau, sy'n cael ei redeg gan Gyngor Abertawe a'i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin gyfrannu hyd at 50% o gostau'r prosiect hyd at uchafswm o £1500.

Mae prosiectau cymwys dan y grant hwn yn cynnwys costau refeniw sy'n gysylltiedig â datblygu neu wella presenoldeb ar-lein Gellid hefyd ystyried gwella gwefan drwy ychwanegu e-fasnach neu gryfhau seiberddiogelwch, yn ogystal â marchnata digidol os yw wedi'i anelu at ychwanegu at greu gwefan newydd neu ei gwella.

E-bostiwch grantsefydlu@abertawe.gov.uk am ragor o wybodaeth a ffurflenni cais ar gyfer y grant cyn cychwyn, neu e-bostiwch growthgrant@abertawe.gov.uk am ragor o wybodaeth a ffurflenni cais am y grant datblygu gwefannau.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Ebrill 2023