Toglo gwelededd dewislen symudol

Neuadd eglwys newydd yn cael ei throsglwyddo ym Mae Copr

Mae neuadd eglwys newydd wedi'i throsglwyddo i Briordy Dewi Sant yng nghanol dinas Abertawe.

New Church Hall at Copr Bay

New Church Hall at Copr Bay

Mae'r neuadd eglwys newydd hon yn rhan o ardal cam un Bae Copr sy'n werth £135m a ddatblygwyd gan Gyngor Abertawe.

Mae'r cyfleuster newydd sy'n cymryd lle'r hen neuadd eglwys yn Llys Dewi Sant gerllaw a gaiff ei ddymchwel cyn bo hir yn cynnwys lle ar gyfer digwyddiadau a chyfarfodydd, swyddfa weinyddol, cegin a thoiledau.

Mae uned gaffi newydd i'w gosod gan y cyngor gerllaw'r neuadd eglwys newydd.

Cefnogwyd ardal Bae Copr gan y rheolwyr datblygu RivingtonHark, gyda Buckingham Group Contracting Ltd yn arwain ar y gwaith adeiladu.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Rydym wth ein bodd bod y broses o drosglwyddo'r neuadd eglwys newydd i Briordy Dewi Sant bellach wedi'i chwblhau, gan roi lle modern, hyblyg ar gyfer digwyddiadau a chyfarfodydd i'w defnyddwyr.

"Mae trafodaethau â thenantiaid posib ar gyfer yr uned gaffi gerllaw'r neuadd eglwys newydd yn parhau, ac mae llawer o unedau eraill yn natblygiad Bae Copr bellach wedi'u gosod i fusnesau bwyd a diod lleol.

"Mae hwn yn ddatblygiad sydd eisoes yn cynhyrchu swyddi, mwy o fywiogrwydd ac ymdeimlad o obaith yn Abertawe, diolch i lwyddiant Arena Abertawe, y parc arfordirol a nodweddion eraill y cynllun."

Mae'r busnesau sydd eisoes wedi rhentu unedau yn Cupid Way - sy'n cysylltu canol y ddinas â'r arena drwy'r bont newydd dros Oystermouth Road - yn cynnwys Coaltown Coffee, Frozziyo Frozen Yoghurt, Imperial Candy a KoKoDoo Korean Fried Chicken.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 31 Mai 2022