Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwefan well y cyngor yn cael ei lansio

Mae gwefan well Cyngor Abertawe wedi'i lansio er mwyn gwneud gwasanaethau'n fwy hygyrch nag erioed o'r blaen i breswylwyr, busnesau a chymunedau'r ddinas.

New Website Screenshot

New Website Screenshot

Mae golwg a theimlad y wefan wedi'u diwygio a'u gwella, gan olygu bod modd pori'r wefan a'i defnyddio ar ffôn clyfar yn haws.

Mae hi bellach yn symlach i ddefnyddwyr gwefan y cyngor ddod o hyd i'r help a'r cyngor sydd eu hangen arnynt, gan adeiladu ar welliannau eraill a gyflwynwyd drwy gydol y pandemig hyd yn hyn i gefnogi pobol leol.

Bydd y gwefan well hefyd yn galluogi dod â mwyfwy o wasanaethau'r cyngor ar-lein yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Stevens, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad, "Mae gwefan y cyngor yn offeryn mor bwysig i breswylwyr, busnesau a chymunedau Abertawe gael gafael ar ystod eang o wasanaethau - o wirio amserau agor adeiladau ac atyniadau'r cyngor i dalu biliau a chael gwybodaeth am y digwyddiadau a'r gweithgareddau sy'n digwydd yn yr ardal leol.

"Ond fel pob gwefan, roedd gwefan y cyngor wedi dechrau edrych yn flinedig yn ddiweddar. Dyna pam y cyflwynwyd gwefan well yn yr un cyfeiriad, nid yn unig er mwyn iddo edrych a theimlo'n well ond hefyd i'w gwneud yn fwy hygyrch ar ffonau clyfar, gan fod mwyfwy o bobl yn defnyddio'u dyfeisiau symudol i gael gafael ar ein gwasanaethau erbyn hyn.

"Bydd y gwelliannau'n galluogi mwy o wasanaethau'r cyngor i ddod ar-lein cyn bo hir hefyd, a fydd yn cefnogi pobl leol ymhellach yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod.

"Byddwn hefyd yn parhau i weithio gyda chymunedau ledled y ddinas, gan ystyried eu hadborth er mwyn cyflwyno mwy fyth o welliannau i wefan y cyngor yn y dyfodol."

Ewch i www.abertawe.gov.uk i gael cipolwg arni.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 19 Awst 2021