Hwb gan westy newydd wrth i waith trawsnewid gwerth £1bn barha
Anogir rhai o ddatblygwyr a gweithredwyr gorau'r byd i fuddsoddi yn Abertawe i roi hwb pellach i drawsnewidiad parhaus y ddinas.
Mae Cyngor Abertawe bellach yn marchnata'r cyfle i weithredwr gwesty adeiladu a chynnal gwesty newydd ar dir rhwng Arena Abertawe a Chanolfan Hamdden yr LC.
Mae hyn yn dilyn astudiaeth arbenigol a gomisiynwyd gan dîm twristiaeth y cyngor a nododd yr angen am dri gwesty newydd yn Abertawe.
Mae'r astudiaeth hefyd wedi argymell y safle ger yr arena fel lle ffafriol ar gyfer datblygiad o'r fath.
Byddai'r gwesty'n cynnwys o leiaf 120 o ystafelloedd gwely.
Os yw cynllun y gwesty'n mynd yn ei flaen, fe'i hariennir yn bennaf gan y sector preifat. Yn dibynnu ar gynlluniau busnes y cynigwyr, gallai fod cymorth ariannol ar gael trwy grantiau a benthyciadau oddi wrth Lywodraeth Cymru a Chyngor Abertawe.
Rhwng 2019 a 2022, roedd Abertawe yn un o'r pum lle gorau yn y DU ar gyfer refeniw ar gyfer pob ystafell sydd ar gael. Cyfrifir y ffigur hwn, a ddefnyddir gan y diwydiant lletygarwch i fesur perfformiad gwesty, trwy luosi ffioedd dyddiol cyfartalog ystafelloedd y gwesty â'i gyfradd llenwi.
Yn 2023, roedd Abertawe hefyd ar restr y 10 lleoliad gorau ym mynegai marchnad gwestai'r DU a gynhelir gan yr ymgynghorwyr gwesty Colliers. Aseswyd 38 o ddinasoedd y DU drwy'r mynegai gwesty mewn perthynas â deg maes, gan gynnwys cyfraddau llenwi ystafelloedd, costau dyddiol ar gyfer ystafelloedd, refeniw ar gyfer pob ystafell sydd ar gael, twf, costau datblygu, gwerthoedd tir a galw'r farchnad.
Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae rhaglen fuddsoddi sy'n werth £1bn ar waith yn Abertawe, ond nodwyd bellach bod angen mwy o westai yn y ddinas i ateb y galw. Byddai hyn hefyd yn creu mwy o swyddi i bobl leol ac yn helpu i ddenu mwy o fuddsoddiad a swyddi yn y dyfodol.
"Mae ein dinas yn datblygu ac yn denu mwy o ymwelwyr a fyddant yn elwa o westy ar y safle rhwng yr LC - parc dŵr dan do mwyaf Cymru - ac Arena Abertawe, a groesawodd dros 240,000 o ymwelwyr o fewn blwyddyn ar ôl iddi agor ar gyfer sioeau y mae angen tocynnau ar eu cyfer, cynadleddau, arddangosfeydd, seremonïau graddio prifysgolion a digwyddiadau eraill.
"Mae safle arfaethedig y gwesty o fewn pellter cerdded i'r ardal forol a glan y môr, ac mae hefyd yn agos iawn at safleoedd fel y Ganolfan Ddinesig ac ardal hen Ganolfan Siopa Dewi Sant, y disgwylir iddi dderbyn ailddatblygiadau cyffrous, aml-ddefnydd dros y blynyddoedd nesaf.
"Gellid datblygu mwy o westai yn y dyfodol ar safleoedd eraill yn Abertawe i ateb y galw."
Mae ffigurau'n dangos fod twristiaeth bellach yn werth dros £510m y flwyddyn i Abertawe, wrth i'r sector gefnogi 5,200 o swyddi amser llawn.
Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Yn ogystal â'r gwaith adfywio sy'n mynd rhagddo, mae Abertawe hefyd yn gyrchfan arweiniol ar gyfer twristiaeth, fel dinas ar y glannau ar gyfer digwyddiadau, diwylliant a chwaraeon - ac mae'r cyfan o fewn taith fer yn y car o olygfeydd byd-enwog penrhyn Gŵyr.
"Mae rhaglen o ddigwyddiadau mawr, sy'n cynnwys Sioe Awyr Cymru, Ironman 70.3 a ras 10k Bae Abertawe, a lleoliadau diwylliannol fel Canolfan Dylan Thomas, Theatr y Grand, Amgueddfa Abertawe, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ac Oriel Gelf Glynn Vivian o fewn pellter cerdded o safle arfaethedig y gwesty, sy'n ychwanegu at ei apêl ar gyfer buddsoddi.
"Mae cyngherddau mawr hefyd yn digwydd ym Mharc Singleton bob blwyddyn ac mae stadiwm Swansea.com yn gartref i'r Elyrch a'r Gweilch.
"Mae hyn yn cyfrannu at becyn sy'n denu dros bedwar miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn i'n dinas, felly mae angen gwestai i ateb y galw nawr ac yn y dyfodol a pharhau i gynnal marchnad iach ar gyfer y gwestai sydd eisoes yn bodoli."