Lluniau newydd yn arddangos cynllun ynni adnewyddadwy gwerth £6.25 biliwn yn Abertawe
Mae lluniau cysyniadol newydd wedi cael eu cyhoeddi sy'n dangos elfennau o gynllun ynni adnewyddadwy gwerth £6.25 biliwn yn Abertawe, y disgwylir iddo gynnwys morlyn llan.
Yn ogystal â'r morlyn, mae'r lluniau newydd yn dangos elfennau eraill o'r prosiect gan gynnwys hwb trafnidiaeth ynni adnewyddadwy ar Fabian Way a chanolfan ymchwil y dyfroedd a newid yn yr hinsawdd.
Mae'r prosiect, a arweinir gan DST Innovations, yn cael ei ariannu gan y sector preifat.
Cynigiwyd y prosiect - a gefnogir gan Gyngor Abertawe - ar gyfer tir yn ardal porth Abertawe.
Hefyd i'w gweld yn y llun mae canolfan ddata ar raddfa fawr, y disgwylir iddi fod yn rhan o'r cynllun.
Meddai Tony Miles, o DST Innovations, "Ceir cynnydd mawr o hyd y tu ôl i'r llenni, wrth i baratoadau ar gyfer y prosiect gyflymu mwy fyth.
"Mae'r lluniau cysyniadol newydd yn dilyn ein cytundebau tir gyda Chyngor Abertawe a Batri Ltd ar gyfer elfennau o'r prosiect cyffredinol, sy'n cynnwys yr hwb trafnidiaeth ynni adnewyddadwy, ehangu'r cynlluniau fferm solar a gymeradwywyd ar gyfer Tir John, a ffatri cynhyrchu batris uwch-dechnoleg newydd ar hen safle Morrisey yn SA1.
"Mae trafodaethau cadarnhaol am holl elfennau eraill y cynllun yn parhau - gan gynnwys y morlyn llanw - ac rydym yn rhagweld y byddwn yn cyhoeddi mwy o gynlluniau dros y misoedd nesaf."
Mae elfennau eraill o'r cynllun cyffredinol yn cynnwys fferm batris er mwyn storio'r ynni adnewyddadwy a gynhyrchir ar y safle a phweru'r datblygiad.
Bydd aráe paneli solar arnofiol hefyd yn rhan o'r cynllun, yn ogystal ag eco-gartrefi sydd wedi'u hangori yn y dŵr.
Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Fel Cyngor, rydym yn ymroddedig i greu cynifer o swyddi sy'n talu'n dda â phosib ar gyfer pobl leol, wrth roi hwb i'r economi leol a helpu Abertawe i gyrraedd statws sero-net erbyn 2050.
"Bydd y prosiect hwn yn helpu i gyflawni'r amcanion hynny ac yn rhoi Abertawe ar y map rhyngwladol ar gyfer arloesi ynni adnewyddadwy."
Amcangyfrifir y bydd y prosiect yn creu dros 2,500 o swyddi parhaol, wrth gefnogi 16,000 o swyddi eraill ar draws Cymru a'r DU. Bydd y datblygiad hefyd yn creu cannoedd o swyddi yn ystod ei gam adeiladu.