Toglo gwelededd dewislen symudol

Mwy na 500 o ddisgyblion yn symud i'w hysgol newydd yr wythnos nesaf

Mae mwy na 500 o ddisgyblion yn paratoi i symud i gartref newydd pan fyddant yn dychwelyd i'r ysgol yr wythnos nesaf ar ôl y gwyliau hanner tymor.

New Tirdeunaw School

New Tirdeunaw School

Mae'r adeilad newydd gwerth £11.5m ar gyfer Ysgol Gynradd Gymraeg Tirdeunaw wedi'i orffen a bydd yn agor ddydd Mercher.

Ariannwyd y datblygiad deulawr cwbl gyfoes ar y cyd gan Gyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru a dyma'r prosiect diweddaraf i'w gwblhau dan y rhaglen  Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif.

Mae'n rhan o fuddsoddiad gwerth £170m mewn adeiladau a chyfleusterau ysgol newydd.

Ymwelodd Arweinydd Cyngor Abertawe, Rod Stewart, â'r ysgol newydd sydd drws nesaf i Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe ym Mhen-lan i weld yr adeilad yn cael ei orffen.

Meddai, "Mae'n gyfleuster anhygoel ac rwy'n credu y bydd disgyblion a staff wrth eu boddau pan fyddant yn symud yno'r wythnos nesaf.

"Mae'r contractwyr Morgan Sindall wedi gwneud gwaith gwych wrth greu'r ysgol newydd sbon hon sy'n gwbl gyfoes.

"Mae hi wrth gwrs yn rhan o stori fwy sef y buddsoddiad mwyaf mewn adeiladau a chyfleusterau ysgol a welwyd erioed yn y ddinas.

"Bydd hyn yn sicrhau bod miloedd o blant yn cael y cyfleusterau addysg gorau posib."

Mae YGG Tirdeunaw ar hyn y bryd drws nesaf i hen safle ysgol uwchradd Daniel James yn Heol Ddu, ond nid yw'r hen adeiladau bellach yn addas.

Bydd yr adeilad newydd, sy'n llai na milltir o'r safle presennol ac sydd hefyd yn fwy canolog i fwyafrif y disgyblion sy'n mynychu'r ysgol ar hyn o bryd, yn darparu lleoedd i 525 o ddisgyblion amser llawn a 75 o leoedd meithrin ynghyd â menter Dechrau'n Deg.

Gweithiodd Morgan Sindall yn ddiogel yn ystod y pandemig i ddarparu'r ysgol ac fel rhan o fudd cymunedol ehangach, gwnaeth y cwmni welliannau hefyd i'r ddwy ganolfan gymunedol ym Mhen-lan.

Meddai'r Pennaeth, Jackie James, "Hoffwn ddiolch i'r holl dimau fu'n ymwneud â'r prosiect anhygoel hwn, yn enwedig Cyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru am ddarparu'r cyllid.

"Dyluniwyd yr adeilad a'r cyfleusterau gan y pensaer Powell Dobson ac mae Morgan Sindall wedi sicrhau bod y weledigaeth wedi'i chyflawni.

"Byddwn bellach yn gallu cynnig y cyfleusterau gorau posib i'r disgyblion ac rwy'n gwybod eu bod yn gyffrous iawn i symud i gartref newydd ar gyfer ein hysgol.

"Bydd dyluniad, cynllun a chyfleusterau'r ysgol yn ein galluogi i ddarparu cyfleoedd gwych ar gyfer lles a dysgu, a fydd yn ein cefnogi i gyflwyno'r cwricwlwm newydd. Bydd hyn, heb os nac oni bai, yn ysbrydoli'n disgyblion i gyflawni a ffynnu." 

Close Dewis iaith