Newidiadau i gasgliadau ailgylchu
Gwybodaeth am newidiadau i gasgliadau ailgylchu.
1. Casgliadau gwastraff gardd
NI chaiff gwastraff gardd ei gasglu rhwng 2 Rhagfyr 2024 a 28 Chwefror 2025.
2. Newidiadau i wythnosau casglu - sachau du
Mae sachau du bellach yn cael eu casglu bob pythefnos yn ystod eich wythnos werdd.
Wythnos werdd = sachau gwyrdd, sachau du a'r bin gwastraff bwyd
Wythnos binc = bag pinc ailddefnyddiadwy a'r bin gwastraff bwyd
Caiff gwastraff gardd ei gasglu yn ystod eich wythnos binc pan fydd casgliadau ymyl y ffordd yn ailddechrau (o 3 Mawrth).
Gallwch ddod o hyd i'ch diwrnod a'ch wythnos gasglu ar gyfer eich côd post yn: Chwilio am gasgliadau ailgylchu a sbwriel