Sioeau theatr awyr agored i'w cynnal yn y castell
Bydd theatr awyr agored yn dychwelyd i Abertawe'r haf hwn - gyda straeon gan ddau o enwogion llenyddol Prydain.
Disgwylir i gomedi ramantus Shakespeare, Twelfth Night - a gyflwynir gan Immersion Theatre - cael ei pherfformio yn nhiroedd Castell Ystumllwynarth ddydd Mercher, 9 Awst.
Bydd The Tale of Peter Rabbit and Benjamin Bunny, a addaswyd o straeon gan Beatrix Potter ac wedi'i chyflwyno gan Quantum Theatre, yn cael ei pherfformio yn yr un lleoliad drannoeth.
Trefnir y ddau berfformiad gan Gyngor Abertawe.
Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, "Dylai'r ddau gynhyrchiad fod yn ddifyr iawn ac yn gofiadwy i ymwelwyr a phreswylwyr fel y'i gilydd.
"Rwy'n diolch i noddwyr y digwyddiad, holidaycottages.co.uk, am ein helpu i ddifyrru cynulleidfaoedd lleol yn y ffordd hon."
Meddai Serena Pearce o holidaycottages.co.uk "Rydym yn credu mewn twristiaeth gynaliadwy ac rydym am adeiladu perthnasoedd parhaol â'n cymunedau fel y gallant barhau i ffynnu am flynyddoedd i ddod, gan wneud eu hardaloedd yn lleoedd da i fyw ac ymweld â hwy."
Anogir y sawl sy'n mynd i berfformiadau theatr awyr agored bacio picnic ar gyfer y sioeau neu ddefnyddio siopau, bwytai, bariau, caffis a pharlyrau hufen iâ lleol.
Tocynnau: croesobaeabertawe.com