Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhagor o weithwyr swyddfa'n dod i weithio yng nghanol y ddinas

Bydd yn agos i 1,000 yn rhagor o weithwyr yn dod i weithio yng nghanol dinas Abertawe gan roi hwb i fasnachwyr lleol a'r economi leol.

Public sector hub (Interior CGI)

Public sector hub (Interior CGI)

Byddai'r gweithwyr yn gweithio mewn hwb sector cyhoeddus arfaethedig sy'n cael ei ystyried ar gyfer ardal hen ganolfan siopa Dewi Sant.

​Bwriedir i'r hwb sector cyhoeddus ddarparu man gwaith i gannoedd o staff y Cyngor, ynghyd â gweithwyr o sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus a thenantiaid preifat a masnachol.

​Bydd adroddiad am yr hwb sector cyhoeddus, a gaiff ei gyflwyno gan Gyngor Abertawe mewn partneriaeth ag Urban Splash, yn cael ei ystyried gan Gabinet y Cyngor yn ddiweddarach y mis hwn.

​Disgwylir i'r gwaith i adeiladu'r hwb sector cyhoeddus ddechrau yng nghanol 2025, yn amodol ar gymeradwyaeth, ymgynghoriad a chaniatâd cynllunio.

​Os bydd cynllun yr hwb sector cyhoeddus yn mynd yn ei flaen, byddai hefyd yn galluogi ailddatblygu safle'r Ganolfan Ddinesig ar lan y môr.

​Bydd cynigion ar gyfer ailddatblygu safle'r Ganolfan Ddinesig yn cael eu cyhoeddi cyn gynted ag y cânt eu cwblhau.

​Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae'r cyfuniad o ddatblygiadau wedi'u cwblhau, sy'n mynd rhagddynt ac arfaethedig i gyd yn rhan o'n hymrwymiad i gefnogi busnesau lleol, creu swyddi i bobl leol a chreu canol dinas fwy bywiog.

​"Bydd y gwaith i adeiladu'r hwb sector cyhoeddus, yn amodol ar gymeradwyaeth, yn dilyn cwblhau'r holl brosiectau eraill sy'n mynd rhagddynt."

​Ni fydd unrhyw staff y Cyngor yn cael eu lleoli yng nghynllun 71/72 Ffordd y Brenin. Bydd y datblygiad hwnnw'n darparu ar gyfer busnesau'r sector preifat, ac mae trafodaethau â nifer o denantiaid posib yn mynd rhagddynt yn dda.

Public sector hub (Exterior CGI)

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 16 Gorffenaf 2024